Datganiad: Penderfyniad ar ddiwygio newid rhwng gwasanaethau cyfathrebiadau symudol

  • Dechrau: 19 Mai 2017
  • Statws: Datganiad a gyhoeddwyd
  • Diwedd: 30 Mehefin 2017

Rydym eisiau sicrhau nad yw defnyddwyr yn profi trafferthion diangen wrth newid rhwng darparwyr symudol. Dylai defnyddwyr allu gwneud dewisiadau a manteisio ar gystadleuaeth yn y marchnadoedd cyfathrebiadau drwy allu newid darparwr yn hawdd. Gall trafferthion diangen achosi i ddefnyddwyr ddioddef niwed, gan wneud newid yn anodd neu ei atal yn llwyr mewn rhai achosion.

Aethom ni ati i holi defnyddwyr am eu profiadau o newid rhwng gwasanaethau symudol. Canfu ein hymchwil fod chwarter y defnyddwyr hynny sy’n newid darparwr symudol - sy’n cyfateb i oddeutu 1.7 miliwn - wedi cael trafferthion mawr â’r broses. Roedd yr anawsterau hyn hefyd wedi effeithio ar 37% o ddefnyddwyr a oedd wedi ystyried newid ond heb wneud hynny. Rydym yn cydnabod bod llawer o ddefnyddwyr sydd wedi newid darparwr symudol wedi cael y broses yn un hawdd. Ond, rydym yn bryderus bod lleiafrif sylweddol o ddefnyddwyr sydd naill ai’n cael y broses yn anodd neu’n penderfynu peidio â newid oherwydd yr anawsterau.

Rydym wedi pennu tri pheth sy’n peri pryder i ddefnyddwyr:

  • cafodd rhai drafferthion wrth gysylltu â’u darparwr presennol i drosglwyddo’u rhif neu ganslo’u hen wasanaeth, gan gynnwys ceisiadau di-alw-amdanynt gan eu darparwr i geisio’u perswadio i aros;
  • Canfu llawer o’r rhai a oedd am newid darparwr symudol eu bod yn gorfod gwneud taliadau cyfnod rhybudd am wythnosau ar ôl i’w hen wasanaeth ddod i ben, a oedd yn golygu oddeutu £10 miliwn y flwyddyn mewn taliadau dwbl di-alw-amdanynt; ac
  • roedd defnyddwyr yn colli gwasanaeth am gyfnod byr pan oeddynt yn newid.


Prif ddogfennau

Dogfennau cysylltiedig

loading icon

Ymatebion

Enw'r ymatebwr Math
BT (PDF File, 420.7 KB) Sefydliad
Communications Consumer Panel and ACOD (PDF File, 196.6 KB) Sefydliad
Individual Respondents (PDF File, 378.1 KB) Sefydliad
SSE (PDF File, 612.3 KB) Sefydliad
TalkTalk (PDF File, 320.0 KB) Sefydliad