Datganiad: Cyfnewid fideo brys
- Start: 16 February 2021
- Status: Closed
- End: 30 March 2021
Datganiad wedi'i gyhoeddi 22 Mehefin 2021
Rydym eisiau sicrhau y gall pobl anabl gysylltu'n hwylus â'r gwasanaethau brys.
Mae gwasanaethau fideo brys yn ffordd o alluogi pobl sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydeinig (BSL) i gyfathrebu'n effeithiol â phobl nad ydynt yn defnyddio BSL. Mae'r defnyddiwr BSL byddar yn gwneud galwad fideo gan ddefnyddio dyfais gysylltiedig i ffonio dehonglydd mewn canolfan alwadau. Mae'r dehonglydd yn cyfieithu'r hyn y mae'r defnyddiwr byddar yn ei ddweud i Saesneg llafar i'r person â chlyw ei glywed, ac yn arwyddo'r hyn y mae'r person â chlyw yn ei ddweud i'r defnyddiwr byddar.
Ym mis Rhagfyr 2019, gwnaethom gyhoeddi cynnig i fynnu bod darparwyr gwasanaethau cyfathrebu'n darparu gwasanaeth cyfnewid fideo 24/7 ar gyfer defnyddwyr BSL byddar, wedi'i gymeradwyo gan Ofcom, i'w galluogi nhw i gyfathrebu â'r gwasanaethau brys trwy ap a gwefan benodedig. Roedd ein cynnig yn rhan o becyn o fesurau a gyflwynwyd gennym wrth ymateb i newidiadau mewn rheolau Ewropeaidd, i ddiogelu cwsmeriaid a sicrhau eu bod yn cael bargen deg. Fe adlewyrchodd yr egwyddor y dylai fod gan bobl anabl fynediad cyfatebol i gyfathrebiadau brys.
Derbyniodd y cynigion yn ein hymgynghoriad cychwynnol gefnogaeth eang, ond cododd yr ymatebion rhai pwyntiau penodol a oedd yn destun ymgynghori pellach ym mis Chwefror 2021.
Mae'r datganiad hwn yn disgrifio ein penderfyniad i fynnu darpariaeth gwasanaeth cyfnewid fideo brys, wedi'i weithredu trwy reoliadau telegyfathrebiadau'r DU (yr Amodau Cyffredinol). Bydd y gofyniad newydd hwn yn sefyll ochr yn ochr â'r gofynion presennol ar gyfer cyfnewid testun brys a SMS brys, y mae'r ddau ohonynt yn cael eu cadw, a bydd yn ychwanegol atynt.
Diweddariad 23 Mehefin 2022 – anghenion adrodd
Rydym heddiw wedi cyhoeddi anghenion adrodd sy'n berthnasol i unrhyw wasanaeth cyfnewid video brys a gymeradwywyd gan Ofcom. Rhaid i gyflenwyr gwasanaeth anfon y wybodaeth ofynnol i Ofcom bob chwarter ac yn flynyddol mewn fformat a bennir gennym.
Prif ddogfennau
Dogfennau cysylltiedig

Ymatebion
Enw'r ymatebwr | Math |
---|---|
Andrews & Arnold (PDF File, 181.6 KB) | Sefydliad |
BT (PDF File, 129.4 KB) | Sefydliad |
Business Carrier Coalition (PDF File, 597.7 KB) | Sefydliad |
BUUK (PDF File, 353.7 KB) | Sefydliad |
Deaf charities (PDF File, 127.5 KB) | Sefydliad |