Ymgynghoriad: arweiniad i ddarparwyr ODPS ar fesurau i ddiogelu defnyddwyr rhag deunydd niweidiol

  • Dechrau: 20 Gorffennaf 2021
  • Statws: Ar gau
  • Diwedd: 14 Medi 2021

Mae Ofcom yn ymgynghori ar arweiniad drafft ar gyfrifoldebau darparwyr gwasanaethau rhaglenni ar-alw (ODPS) o ran deunydd niweidiol.

Mae'r arweiniad arfaethedig yn adlewyrchu newidiadau i'r fframwaith rheoleiddio a ddaeth i rym ar 1 Tachwedd 2020 a bydd yn disodli arweiniad presennol Ofcom ar ddeunydd niweidiol (PDF, 285.3 KB) (Saesneg yn unig). Mae'r newidiadau hyn yn cynnwys gofyniad newydd ar ddarparwyr ODPS i gymryd camau priodol a chymesur i sicrhau nad yw unrhyw ddeunydd a allai amharu ar ddatblygiad corfforol, meddyliol neu foesol pobl o dan 18 oed fel arfer yn cael ei weld na'i glywed ganddynt.

Bwriad ein harweiniad arfaethedig yw helpu darparwyr i asesu a yw'r deunydd y maent yn bwriadu ei ddarparu ar eu gwasanaeth yn bodloni'r diffiniadau statudol o ddeunydd niweidiol, ac os felly, sut i gymryd camau priodol a chymesur i ddiogelu defnyddwyr.


Prif ddogfennau

loading icon

Ymatebion

Enw'r ymatebwr Math
BBC (PDF File, 198.7 KB) Sefydliad
BT (PDF File, 167.8 KB) Sefydliad
Name Witheld (PDF File, 206.9 KB) Ymateb
S4C (PDF File, 210.7 KB) Sefydliad
Samaritans (PDF File, 194.1 KB) Sefydliad