Datganiad: Canllawiau ar gyfer Cyfleusterau Adnabod y Galwr

  • Dechrau: 19 Medi 2017
  • Statws: Datganiad a gyhoeddwyd
  • Diwedd: 14 Tachwedd 2017

Mae data Adnabod y Galwr yn cynnwys rhif sy’n adnabod y galwr a nod preifatrwydd, sy’n dynodi a oes modd rhannu’r rhif â'r sawl sy’n derbyn yr alwad. Mae’n gallu rhoi gwybodaeth i’r derbynnydd am y sawl sy’n gwneud yr alwad honno. Mae modd defnyddio data Adnabod y Galwr hefyd ar gyfer swyddogaethau eraill, fel olrhain galwadau i ddod o hyd i ffynonellau galwadau niwsans neu er mwyn helpu i adnabod lleoliad y sawl sy’n ffonio mewn argyfwng. Mae’n rhaid i’r data Adnabod y Galwr fod yn gywir er mwyn i hyn weithio’n effeithiol.

Yn ystod hydref 2017, roedden ni wedi cyflwyno Amod Cyffredinol C6 newydd sy’n rhoi dyletswyddau ar Ddarparwyr Cyfathrebiadau i ddarparu cyfleusterau Adnabod y Galwr, gan sicrhau bod y data Adnabod y Galwr sy’n cael ei ddarparu gyda galwad yn cynnwys rhif ffôn dilys mae modd ei ddeialu sy’n gallu dangos yn union pwy ydy'r sawl sy’n ffonio. Roedden ni hefyd wedi cyhoeddi ymgynghoriad ynghylch y newidiadau i’r canllawiau Adnabod y Galwr i adlewyrchu'r gofynion newydd yn yr Amod Cyffredinol.

Yn dilyn yr ymatebion i’r ymgynghoriad hwn, rydyn ni wedi diweddaru'r canllawiau ar gyfleusterau Adnabod y Galwr. Mae’r ddogfen canllawiau sydd wedi cael ei diweddaru yn egluro’r diffiniad o Adnabod y Galwr dilys ac mae modd ei ddeialu ar gyfer darparwyr cyfathrebiadau mewn gwahanol rannau o alwad ffôn, ar sail yr hyn sy’n dechnegol bosibl heddiw. Mae’r darparwyr tarddu’n gyfrifol am sicrhau bod Data Adnabod y Galwr cywir yn cael ei ddarparu gyda galwad. Mae disgwyl i ddarparwyr trawsgludo a therfynu wirio bod y rhif sy’n cael ei ddarparu gyda’r alwad yn dod o ystod ddilys o rifau. Ar gyfer galwadau sy’n tarddu ar rwydwaith y tu allan i gwmpas y gofynion hyn, y darparwr cyfathrebiadau ar y pwynt mynediad cyntaf sy’n gyfrifol am sicrhau bod gan yr alwad Ddata Adnabod y Galwr dilys, gan ddisodli’r wybodaeth gyda rhif sydd wedi cael ei ddyrannu iddyn nhw at y diben hwn pan na fydd y rhif gwreiddiol yn ddilys neu ar goll. Mae’r canllawiau sydd wedi’u diweddaru hefyd yn egluro’r opsiynau sydd ar gael i ddarparwyr cyfathrebiadau i rwystro galwadau sydd ag Adnabod y Galwr annilys neu nad oes modd ei ddeialu rhag cysylltu â’r defnyddiwr terfynol.

Er mwyn cefnogi’r argymhellion hyn, rydyn ni wedi gwneud rhifau yn yr ystod 08979 ar gael i’w dyrannu i ddarparwyr cyfathrebiadau i’w defnyddio fel Rhifau Rhwydwaith wedi’u mewnosod pan nad oes rhif yn bresennol neu os ydyn nhw’n amau nad ydy’r Adnabod y Galwr sy’n dod i mewn yn ddibynadwy.

Diweddariad 30 Gorffennaf 2018

Yn Ebrill 2018, fe wnaethon ni ymgynghori am newidiadau pellach i’r canllawiau ar gyfer Cyfleusterau Adnabod y Galwr (CLI). Bydd y canllawiau diwygiedig am ddarpariaeth Cyfleusterau Adnabod y Galwr a gwasanaethau cysylltiedig (PDF, 296.7 KB) yn berthnasol o 1 Hydref 2018, yr un diwrnod ag y mae’r Amodau Cyffredinol yn weithredol.


Prif ddogfennau

Dogfennau cysylltiedig

loading icon

Ymatebion

Enw'r ymatebwr Math
BT (PDF File, 780.5 KB) Sefydliad
Colt (PDF File, 96.9 KB) Sefydliad
Communications Consumer Panel and ACOD (PDF File, 341.9 KB) Sefydliad
First Orion (PDF File, 567.5 KB) Sefydliad
Microsoft (PDF File, 370.6 KB) Sefydliad