Datganiad: Gwella cywirdeb data Adnabod Llinell y Galwr (CLI)

  • Dechrau: 23 Chwefror 2022
  • Statws: Datganiad a gyhoeddwyd
  • Diwedd: 20 Ebrill 2022

Datganiad wedi'i gyhoeddi 15 Tachwedd 2022

Mae diogelu defnyddwyr rhag niwed yn flaenoriaeth i Ofcom ac rydym yn pryderu am broblem sgamiau a hwylusir gan alwadau a negeseuon testun.

Tacteg gyffredin a ddefnyddir gan sgamwyr yw 'sbŵffio' rhifau ffôn er mwyn iddynt ymddangos eu bod yn dod gan berson neu sefydliad dibynadwy, megis banc. Pan fydd galwadau sgam yn ymddangos yn ddibynadwy, mae'n golygu bod dioddefwyr yn fwy tebygol o rannu gwybodaeth bersonol neu wneud taliad, a all arwain at niwed ariannol ac emosiynol sylweddol.

Ym mis Chwefror 2022, bu i ni ymgynghori ar gynigion i gryfhau ein rheolau a'n harweiniad er mwyn i ddarparwyr adnabod a rhwystro galwadau gyda rhifau wedi'u 'sbŵffio'. Mae'r datganiad hwn yn amlinellu ein penderfyniadau terfynol ar y newidiadau hyn.


Prif ddogfennau

loading icon

Ymatebion

Enw'r ymatebwr Math
1Route (PDF File, 452.2 KB) Sefydliad
AB Handshake (PDF File, 119.0 KB) Sefydliad
Aloha Telecoms (PDF File, 144.0 KB) Sefydliad
BT (MS Excel Document, 23.5 KB) Sefydliad
BT (PDF File, 168.3 KB) Sefydliad