Cais am dystiolaeth: Darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus a’r sector cynhyrchu yn y DU

  • Dechrau: 02 Chwefror 2021
  • Statws: Ar gau
  • Diwedd: 16 Mawrth 2021

Fel rhan o Sgrin Fach: Trafodaeth Fawr, rydym am edrych yn fanylach ar y berthynas sy’n bodoli heddiw rhwng darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus a’r sector cynhyrchu.

Cafodd y rheolau a’r canllawiau rheoleiddio presennol eu llunio pan oedd y sector a’r ffordd roedd cynulleidfaoedd yn defnyddio cynnwys yn wahanol iawn. Ein nod yw deall effaith rheoleiddio ar y berthynas wrth iddi addasu i newidiadau yn amodau’r farchnad.  Yn benodol, rydym yn gofyn am dystiolaeth ynghylch a fydd angen newid unrhyw reolau er budd gwylwyr, i gefnogi cynaladwyedd ariannol cynhyrchwyr a chomisiynwyr yn well, a sicrhau amrywiaeth ac apêl y sector.

Fel sail i’n hargymhellion i lywodraeth y DU, rydym yn gofyn am dystiolaeth a gwybodaeth gan randdeiliaid am effeithiolrwydd yr agweddau craidd ar reoleiddio sy’n berthnasol i’r maes hwn nawr ac yn y dyfodol.

Ymateb i'r ymgynghoriad hwn

Cyflwynwch ymatebion gan ddefnyddio'r ffurflen ymateb i ymgynghoriad (RTF, 11.6 MB)


Prif ddogfennau


Ymatebion

Dim ymatebion i’w dangos.