Datganiad: Adolygiad o reolau cystadleuaeth yn y Cod Cyfeiryddion Rhaglenni Electronig (EPG)

  • Dechrau: 14 Awst 2020
  • Statws: Datganiad a gyhoeddwyd
  • Diwedd: 25 Medi 2020

Mae’r ddogfen hon yn nodi ein penderfyniad i gadw rheolau cystadleuaeth ar ddarparwyr cyfeiryddion rhaglenni electronig (EPG) er mwyn parhau i gefnogi cystadleuaeth deg ac effeithiol.

Mae cyfeiryddion teledu ar y sgrin, neu EPGs, yn galluogi gwylwyr i ddod o hyd i raglenni teledu a’u dewis ar deledu sy’n cael ei ddarlledu, sef teledu ‘llinol’. Mae ein Cod EPG yn pennu rheolau ar gyfer darparwyr EPG, gan gynnwys rheolau i ddiogelu cystadleuaeth deg ac effeithiol.

Cyflwynodd Deddf yr Economi Ddigidol 2017 ofyniad i ni adolygu’r Cod EPG cyn 1 Rhagfyr 2020. Gwnaethom gyhoeddi casgliadau dros dro o’n hadolygiad ym mis Awst 2020. Mae’r ddogfen hon yn cyflwyno casgliadau terfynol ein hadolygiad.


Prif ddogfennau

Dogfennau cysylltiedig

loading icon

Ymatebion

Enw'r ymatebwr Math
BBC (PDF File, 146.7 KB) Sefydliad
Channel 4 (PDF File, 46.5 KB) Sefydliad
Digital UK (PDF File, 146.4 KB) Sefydliad
Freesat (PDF File, 148.1 KB) Sefydliad
ITV (PDF File, 72.6 KB) Sefydliad