Mae’r ddogfen hon yn awgrymu pethau y gallai darparwyr eu gwneud er mwyn sicrhau eu bod yn trin pobl sy'n agored i niwed yn deg a’u bod yn darparu’r cymorth, y gefnogaeth a’r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt.
Un o flaenoriaethau Ofcom ydy sicrhau bod cwsmeriaid band eang, ffôn a theledu, yn enwedig cwsmeriaid agored i niwed, yn cael eu trin yn deg.
Gall pobl agored i niwed wynebu rhwystrau sy’n eu hatal rhag defnyddio eu gwasanaethau cyfathrebu yn llawn, yn enwedig os na fydd darparwyr yn cynnig y cymorth a’r gefnogaeth iawn.
Mae’n rhaid i ddarparwyr drin defnyddwyr agored i niwed yn deg a darparu'r cymorth, y gefnogaeth a’r gwasanaethau iawn. Mae rheolau Ofcom – yn enwedig yr Amodau Cyffredinol C5.1-5.5, a ddaeth i rym ym mis Hydref 2018 - yn golygu ei bod yn rhaid i ddarparwyr fod â pholisïau a gweithdrefnau er mwyn sicrhau bod cwsmeriaid agored i niwed yn cael eu trin yn deg. Rydyn ni eisiau i bobl agored i niwed gael lefel uchel o ofal cwsmeriaid er mwyn eu helpu i reoli eu gwasanaethau cyfathrebu'n effeithiol, ac er mwyn eu helpu i gael y cytundeb iawn ar gyfer eu hanghenion a hynny am bris cystadleuol.
Mae'r ddogfen hon yn awgrymu camau ymarferol y dylai darparwyr ystyried eu cymryd, er mwyn helpu i sicrhau eu bod yn trin cwsmeriaid agored i niwed yn deg a’u bod yn cyflawni canlyniadau da iddynt.
Enw'r ymatebwr | Math |
---|---|
BT (PDF File, 241.7 KB) | Sefydliad |
Campaign to Retain Payphones (PDF File, 102.9 KB) | Sefydliad |
Citizens Advice (PDF File, 84.4 KB) | Sefydliad |
Citizens Advice Scotland (PDF File, 534.1 KB) | Sefydliad |
Communications Consumer Panel and ACOD (PDF File, 212.1 KB) | Sefydliad |