Adolygiad o'r Farchnad Mynediad Lleol Cyfanwerthol: Adennill costau buddsoddi mewn ehangu rhwydwaith

  • Dechrau: 09 Awst 2017
  • Statws: Ar gau
  • Diwedd: 27 Medi 2017

Ar 31 Mawrth 2017 roedden ni wedi cyhoeddi ymgynghoriad ynghylch ein cynigion Adolygiad o'r Farchnad Mynediad Lleol Cyfanwerthol ar gyfer rheoleiddio’r farchnad yn y dyfodol i ddarparu gwasanaethau mynediad lleol a ddefnyddir i ddarparu gwasanaethau rhyngrwyd band eang a ffôn (gan gynnwys band eang cyflym iawn) i ddefnyddwyr preswyl a busnes. Yn yr ymgynghoriad hwn roedden ni hefyd wedi nodi ein cynigion ar gyfer rheolaethau ffioedd ar gyfer rhai gwasanaethau cyfanwerthu.

Mae BT a’r Adran dros faterion Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon wedi cyhoeddi cynnig yn ddiweddar gan BT i gyflwyno o’i wirfodd fand eang cyffredinol 10 Mbit yr eiliad o leiaf ar gyfer y wlad gyfan, a bron i 99 y cant o eiddo’r DU erbyn diwedd 2020.

Nid ydy'r Llywodraeth wedi penderfynu eto a ydyw am dderbyn cynnig BT, ond petai’n gwneud hynny byddem yn disgwyl i BT ymrwymo i gytundeb a fyddai’n ymrwymiad cyfreithiol gyda’r Llywodraeth.

Mae’r ddogfen hon yn nodi sut rydyn ni nawr yn cynnig diwygio ein cynigion rheolaeth ffioedd yng ngoleuni’r costau perthnasol ychwanegol y byddai BT yn eu cael, petai BT yn ymrwymo i gytundeb clir a chyhoeddus gyda’r Llywodraeth yn ymrwymo BT i fuddsoddi mewn band eang cyffredinol.

27 Medi 2017 ydy'r dyddiad olaf ar gyfer cyflwyno ymatebion i’r ymgynghoriad hwn.

Byddwn yn ystyried ymatebion i’r ymgynghoriad pellach hwn cyn llunio ein casgliadau terfynol a chyhoeddi ein datganiad ar yr adolygiad yn gynnar yn ystod 2018.

Ymateb i’r ymgynghoriad hwn

Anfonwch eich ymatebion drwy ddefnyddio’r ffurflen ymatebion ymgynghoriadau. (RTF, 1.4 MB)


Prif ddogfennau

Dogfennau cysylltiedig

loading icon

Ymatebion

Enw'r ymatebwr Math
BT (PDF File, 395.2 KB) Sefydliad
CityFibre (PDF File, 381.6 KB) Sefydliad
CWU (PDF File, 106.0 KB) Sefydliad
ICBAN (PDF File, 68.9 KB) Sefydliad
Openreach (PDF File, 829.7 KB) Sefydliad