Datganiad: penderfyniad i roi eithriad i rwymedigaethau gwasanaeth cyffredinol y Post Brenhinol

  • Dechrau: 12 Tachwedd 2021
  • Statws: Datganiad a gyhoeddwyd
  • Diwedd: 13 Rhagfyr 2021

Datganiad a gyhoeddwyd 16 Rhagfyr 2021 

Mae'n ofynnol i'r Post Brenhinol ddarparu gwasanaeth post cyffredinol, gan gynnwys dosbarthu a chasglu llythyrau, chwe diwrnod yr wythnos, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn. Fodd bynnag, nid yw'r rhwymedigaeth hon yn berthnasol ar wyliau cyhoeddus, sy'n cynnwys gwyliau banc ac unrhyw ddyddiad arall a gyfarwyddir gan Ofcom. Mae'r rhain yn cael eu galw'n 'eithriadau'.

Mae'r Post Brenhinol wedi gofyn i Ofcom ddarparu cyfarwyddyd i wneud 1 Ionawr 2022 yn 'eithriad' oherwydd mai dydd Sadwrn yw'r dyddiad hwn. Yn gyffredinol mae 1 Ionawr yn ŵyl gyhoeddus. Fodd bynnag, yn 2022, pan fydd y dyddiad hwn yn digwydd ar ddydd Sadwrn, mae'r dydd Llun canlynol wedi'i ddynodi'n ŵyl gyhoeddus swyddogol. Byddai hyn yn golygu, yn absenoldeb cyfarwyddyd gan Ofcom, y byddai dydd Sadwrn 1 Ionawr 2022 yn ddiwrnod gwaith arferol ac y byddai'n ofynnol i'r Post Brenhinol ddosbarthu a chasglu llythyrau. Y cais gan y Post Brenhinol yw bod Ofcom yn rhoi'r eithriad hwn yn ychwanegol at gadw at y diwrnod dim gwaith ar ddydd Llun 3 Ionawr 2022.

Ar 12 Tachwedd 2021, ymgynghorodd Ofcom ar gyfarwyddyd arfaethedig a fyddai'n gweithredu'r cais gan y Post Brenhinol. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 13 Rhagfyr 2021. Derbyniwyd saith ymateb i'n hymgynghoriad, nad oedd yr un ohonynt yn gwrthwynebu'r cynnig. Gan gymryd yr ymatebion hynny i ystyriaeth, rydym wedi penderfynu i gytuno i'r cais gan y Post Brenhinol.


Prif ddogfennau

Dogfennau cysylltiedig

loading icon

Ymatebion

Enw'r ymatebwr Math
Citizens Advice Scotland (PDF File, 112.4 KB) Sefydliad
Communication Workers Union (PDF File, 206.7 KB) Sefydliad
Name withheld 1 (PDF File, 80.5 KB) Ymateb
Name withheld 2 (PDF File, 98.0 KB) Ymateb
Royal Mail (PDF File, 78.4 KB) Sefydliad