Datganiad: Asesiad o sylwedd y newid yn sgil BritBox
- Dechrau: 19 Gorffennaf 2019
- Statws: Datganiad a gyhoeddwyd
- Diwedd: 12 Awst 2019
Datganiad: 19 Medi 2019
Mae’r ddogfen hon yn esbonio ein penderfyniad terfynol ynghylch a yw rhan y BBC yn BritBox, sef gwasanaeth fideo ar-alw newydd drwy danysgrifio ar y cyd ag ITV, yn cael ei ystyried yn ‘newid sylweddol’ i’w weithgareddau masnachol.
Pan fydd y BBC yn cymryd rhan mewn gweithgareddau newydd neu wahanol iawn, mae Siarter y BBC yn mynnu bod angen ystyried a yw’n newid sylweddol i’w weithgareddau masnachol. Os felly, byddai angen archwilio’r newid yn fanwl cyn ei lansio.
Aeth Bwrdd y BBC ati i asesu rhan arfaethedig y BBC yn BritBox, a phennu nad oedd yn sylweddol. O dan y Siarter, mae’n rhaid i Ofcom ystyried y cwestiwn hwn hefyd, fel rhan o’n rôl i amddiffyn cystadleuaeth deg ac effeithiol.
Prif ddogfennau
Dogfennau cysylltiedig
Ymatebion
Enw'r ymatebwr | Math |
---|---|
BBC (PDF File, 102.6 KB) | Sefydliad |
Commercial Broadcasters Association (PDF File, 165.2 KB) | Sefydliad |
Directors UK (PDF File, 159.2 KB) | Sefydliad |
Equity (PDF File, 138.7 KB) | Sefydliad |
ITV (PDF File, 180.0 KB) | Sefydliad |