Cydfodolaeth gwasanaethau newydd yn y band 700 MHz gyda theledu daearol digidol
- Dechrau: 09 Mai 2017
- Statws: Datganiad a gyhoeddwyd
- Diwedd: 18 Gorffennaf 2017
Ym mis Tachwedd 2014, cyhoeddodd Ofcom y byddai’r band 700 MHz - sy'n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd ar gyfer teledu daearol digidol a microffonau diwifr sy’n cael eu defnyddio ym maes Gwneud Rhaglenni a Digwyddiadau Arbennig (PMSE) - yn cael ei ailbennu ar gyfer data symudol. Bryd hynny hefyd, fe gyflwynon ni ganlyniadau ein gwaith cychwynnol ar broblemau'n ymwneud â chydfodolaeth.
Ym mis Mai eleni, fe ymgynghoron ni ar ein hasesiad manylach o natur a maint y risgiau posibl yn gysylltiedig ag ymyriant rhwng gwasanaethau symudol newydd yn y band 700 MHz a theledu daearol digidol. Hefyd, fe wnaethon ni drafod agweddau technegol rhai o’r atebion posibl i liniaru'r risgiau.
Mae’r diweddariad hwn yn cyflwyno’n casgliadau ar yr asesiad technegol ar ôl ystyried ymatebion rhanddeiliaid. Rydyn ni’n dal o'r farn bod y casgliadau technegol a gyflwynwyd yn ein hymgynghoriad ym mis Mai yn gywir a chadarn, ac yn sail gadarn i ragor o waith ar yr opsiynau polisi ar gyfer rheoil risgiau cydfodoli sy’n gysylltiedig â'r band 700 MHz.
Prif ddogfennau
Dogfennau cysylltiedig
Ymatebion
Enw'r ymatebwr | Math |
---|---|
Andrew Dumbreck Media Limited (PDF File, 55.2 KB) | Sefydliad |
Arqiva (PDF File, 263.0 KB) | Sefydliad |
BBC (PDF File, 87.0 KB) | Sefydliad |
Digital Mobile Spectrum Limited (DMSL) (PDF File, 86.5 KB) | Sefydliad |
Digital UK (PDF File, 242.7 KB) | Sefydliad |