Ymgynghoriad: Diffiniad cerddoriaeth newydd ar Radio 1 a Radio 2
- Dechrau: 23 Ionawr 2018
- Statws: Datganiad a gyhoeddwyd
- Diwedd: 20 Chwefror 2018
Mae cyfrifoldebau Ofcom yn cynnwys dal y BBC i gyfrif i gyflawni ei genhadaeth a hyrwyddo ei dibenion cyhoeddus. Un o’r ffyrdd rydym yn gwneud hyn yw gosod trwydded weithredu ar gyfer y BBC sy’n cynnwys set o amodau rheoleiddiol y mae’n rhaid i’r BBC gydymffurfio â nhw.
Yn y drwydded weithredu wnaethon ni gyhoeddi yn Hydref 2017, fe wnaethon ni osod gofyniad ar y BBC i sicrhau bod cyfran sylweddol o allbwn cerddoriaeth Radio 1 a Radio 2 yn “gerddoriaeth newydd”. Hyd yn hyn, fodd bynnag, mae gwerthiannau ffisegol wedi lleihau gyda lawrlwythiadau a gwasanaethau ffrydio yn cymryd eu lle. Rydym felly yn meddwl ei bod yn addas i newid diffiniad “cerddoriaeth newydd” i gymryd i ystyriaeth y newidiadau hyn i sut mae cerddoriaeth yn cael ei dosbarthu.
Mae’r ymgynghoriad hwn yn gofyn am safbwyntiau ynglŷn â’n cynigion i ddiweddaru diffiniad ‘cerddoriaeth newydd’ a ddefnyddir i asesu cydymffurfiaeth Radio 1 a Radio 2 gyda’u hanghenion ‘cerddoriaeth newydd’ priodol ac i newid y drwydded weithredu i adlewyrchu’r diffiniad terfynol.
Prif ddogfennau
Dogfennau cysylltiedig
Ymatebion
Enw'r ymatebwr | Math |
---|---|
BBC (PDF File, 352.2 KB) | Sefydliad |
BPI (PDF File, 514.5 KB) | Sefydliad |
Bray, Mr J (PDF File, 366.2 KB) | Ymateb |
Eden, Mr R (PDF File, 484.9 KB) | Ymateb |
Global (PDF File, 380.0 KB) | Sefydliad |