Sicrhau Openreach mwy annibynnol
- Dechrau: 17 Mawrth 2017
- Statws: Datganiad a gyhoeddwyd
- Diwedd: 28 Ebrill 2017
Datganiad a gyhoeddwyd 13 Gorffennaf 2017
Ar 10 Mawrth 2017, rhoddodd BT wybod i Ofcom am ymrwymiadau gwirfoddol i ddiwygio Openreach ymhellach. Mae hyn yn golygu y bydd Openreach yn dod yn gwmni ar wahân, gyda’i staff, ei reolwyr, ei bwrpas a’i strategaeth ei hun.
Rydym o'r farn fod yr Ymrwymiadau sy’n cael eu rhoi gan BT yn mynd i'r afael yn ddigonol â'r pryderon o ran cystadleuaeth a nodwyd yn ein Hadolygiad Strategol o Gyfathrebiadau Digidol. Ym mis Mawrth 2017 roedden ni wedi cyhoeddi ein Hymgynghoriad yn cynnig y dylid rhyddhau BT o’r Rhwymedigaethau yr oedd wedi’u cynnig i Ofcom yn 2005, o dan y rhain y cafodd Openreach ei greu yn wreiddiol.
Mae’r datganiad hwn yn cadarnhau ein penderfyniad i ryddhau BT o’r Rhwymedigaethau ar ôl i’r Ymrwymiadau ddod ar waith yn llawn. Mae’r ddogfen hon hefyd yn egluro sut byddwn ni’n mesur cydymffurfiad â’r trefniadau newydd ac yn asesu a ydynt yn darparu canlyniadau cadarnhaol i ddefnyddwyr ac i fusnesau.
Yr wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i ddiwygio Openreach 26 Gorffennaf 2016
BT yn cytuno i wahanu Openreach yn gyfreithiol 10 Mawrth 2017
Hysbysiad BT ym mis Mawrth (Gwefan allanol Saesneg) 10 Mawrth 2017
Diweddariad am gynlluniau i ddiwygio Openreach 29 Tachwedd 2016
Prif ddogfennau
Dogfennau cysylltiedig
Ymatebion
Enw'r ymatebwr | Math |
---|---|
ACNI (PDF File, 91.1 KB) | Sefydliad |
BT (PDF File, 437.3 KB) | Sefydliad |
BT Pension Scheme (PDF File, 51.4 KB) | Sefydliad |
CWU and Prospect (PDF File, 111.8 KB) | Sefydliad |
FCS (PDF File, 147.9 KB) | Sefydliad |