Datganiad a Ymgynghoriad: Digwyddiadau Rhestredig – Rownd Derfynol Cwpan Her Rygbi'r Gynghrair 2020 a 2021

  • Dechrau: 16 Hydref 2020
  • Statws: Ar gau
  • Diwedd: 13 Tachwedd 2020

Mae Ofcom wedi cael cais gan y BBC am ganiatâd i ddarlledu darpariaeth fyw egsgliwsif o Rownd Derfynol Cwpan Her Rygbi’r Gynghrair yn 2020 a 2021. Mae Rownd Derfynol 2020 yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn 17 Hydref 2020.

Mae Rownd Derfynol Cwpan Her Rygbi'r Gynghrair wedi’i dynodi’n Ddigwyddiad Rhestredig Grŵp A. Yn unol ag adran 101 o Ddeddf Darlledu 1996, rhaid cael caniatâd Ofcom er mwyn dangos y digwyddiadau Grŵp A yn fyw ac egsgliwsif.

Eglurodd y BBC, o ganlyniad i’r Coronafeirws, fod eu cais am gydsyniad wedi cael ei ohirio. Felly, cafodd y cais am gydsyniad ei gyflwyno’n rhy hwyr i Ofcom ymgynghori’n gyhoeddus ar y cais cyn Rownd Derfynol 2020. Ac ystyried yr amgylchiadau penodol, mae Ofcom wedi penderfynu rhoi caniatâd i’r BBC ddarlledu Rownd Derfynol 2020 yn fyw ac egsgliwsif. Nodir y rhesymau dros hyn isod.

Mae Ofcom nawr yn ymgynghori’n gyhoeddus ar roi caniatâd i’r BBC ddarlledu Rownd Derfynol 2021 yn fyw ac egsgliwsif. Mae Ofcom yn bwriadu rhoi’r caniatâd hwn dros dro, yn amodol ar unrhyw sylwadau a ddaw i law gan bartïon sydd â diddordeb.

Ymateb i'r ymgynghoriad hwn

Anfonwch eich ymatebion drwy ddefnyddio'r ffurflen ymateb i ymgynghoriadau (ODT, 47.0 KB)


Prif ddogfennau


Ymatebion

Dim ymatebion i’w dangos.