Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Digwyddiad sydd wedi’u rhestru – Pencampwriaeth Rygbi'r Chwe Gwlad 2017

  • Dechrau: 20 Mai 2016
  • Statws: Datganiad a gyhoeddwyd
  • Diwedd: 15 Mehefin 2016

Mae Ofcom wedi derbyn ceisiadau gan y BBC ac ITV am ganiatâd i ddarlledu Twrnamaint Rygbi’r Chwe Gwlad 2017 yn fyw fel darllediadau cyfyngedig.  

Bydd y darllediadau ar ITV1 (gemau cartref Lloegr, Iwerddon a’r Eidal) a nail ai BBC One neu BBC Two (gemau cartref Cymru, yr Alban a Ffrainc).

Mae gemau gwledydd Prydain yn nhwrnamaint y Chwe Gwlad yn cael eu categoreiddio fel Digwyddiadau Rhestredig 'Grŵp B o dan Ddeddf Darlledu 1996. Yn unol ag adran 101 Deddf Darlledu 1996, mae angen caniatâd Ofcom ar gyfer darllediadau byw ecsgliwsif o’r digwyddiadau yma. Mae'r rheolau darlledu sy'n berthnasol i ddigwyddiadau o'r fath wedi eu nodi yn y Cod ar Chwaraeon a Digwyddiadau Rhestredig a Dynodedig Eraill.

Os yw’r sawl sydd â diddordeb am gyflwyno sylwadau ar y ceisiadau, dylid anfon rhain at Ofcom i’r cyfeiriad isod, drwy ebost neu lythyr erbyn 16 Ionawr 2017. Os na wneir cais am gyfrinachedd, cyhoeddir pob sylw o’r fath ar wefan Ofcom wedi i’r ymgynghoriad gau.

Listed Events, Broadcast Licensing
Ofcom
Riverside House, 2a Southwark Bridge Road
London SE1 9HA
Ebost: listedevents@ofcom.org.uk

24 Ionawr 2017

Mae Ofcom wedi rhoi caniatâd i geisiadau gan y BBC ac ITV i ddarlledu Twrnamaint Rygbi’r Chwe Gwlad 2017 yn fyw fel darllediadau cyfyngedig.  

Buom yn ymgynghori ar y ceisiadau yn ystod mis Rhagfyr 2016 a mis Ionawr 2017 (https://www.ofcom.org.uk/consultations-and-statements/category-3/six-nations-rugby-tournament-2017).

Cafodd Ofcom ddau ymateb yn cefnogi'r cynnig. Ar ôl ystyried yr ymatebion a'r wybodaeth a ddarparwyd gan y BBC ac ITV i gefnogi eu cais, mae Ofcom wedi penderfynu caniatáu'r cynigion dan sylw.

Yn ychwanegol at ddarllediadau'r BBC ac ITV, ymatebodd S4C i ddweud y bydd yn darlledu darllediadau byw anghyfyngedig o holl gemau Cymru yn y twrnamaint yn Gymraeg. Dywedodd y BBC mai ganddi hi y mae’r hawliau darlledu byw cenedlaethol ar y radio ar gyfer yr holl gemau yn y Twrnamaint.

loading icon

Ymatebion

Enw'r ymatebwr Math
Individual Response 1.pdf (PDF File, 187.8 KB) Sefydliad
Individual Response 2.pdf (PDF File, 164.5 KB) Sefydliad
S4C Response.pdf (PDF File, 213.8 KB) Sefydliad