Hysbysiad Cyffredinol o Gynnig i Amrywio Trwyddedau Deddf Telegraffiaeth Ddi-wifr

01 Awst 2023

Ym mis Chwefror a Hydref y llynedd, bu i ni gyhoeddi dau ymgynghoriad cyhoeddus ar ein cynnig i fynnu’n ffurfiol bod trwyddedeion yn cydymffurfio â’r lefelau y cytunwyd arnynt yn rhyngwladol yng Nghanllawiau’r Comisiwn Rhyngwladol ar Ddiogelu rhag Ymbelydredd Anioneiddiol (ICNIRP), i ddiogelu’r cyhoedd rhag meysydd electromagnetig (EMF). Rydym yn galw’r terfynau hyn yn derfynau cyhoeddus cyffredinol ICNIRP. Ym mis Hydref, fe wnaethom hefyd gyhoeddi Datganiad yn nodi ein penderfyniad i fynnu’n ffurfiol bod trwyddedeion yn cydymffurfio â therfynau cyhoeddus cyffredinol ICNIRP, a gwnaethom gyhoeddi diweddariad heddiw ar sut rydym yn bwriadu gweithredu’r penderfyniad hwnnw. Rydyn ni nawr yn cynnig amrywio telerau ac amodau pob categori trwydded a nodir isod er mwyn rhoi ein penderfyniad ar waith.

Cyn i ni amrywio trwyddedau, mae’r gyfraith yn mynnu ein bod yn hysbysu ein cynnig i amrywio trwyddedau.  Rydym yn cyhoeddi’r Hysbysiad Cyffredinol hwn yn unol â pharagraffau 6 a 7 Atodlen 1 Deddf Telegraffiaeth Ddi-wifr 2006 a thelerau ac amodau’r dosbarthiadau trwydded a nodir isod.

Mae’r Hysbysiad Cyffredinol hwn yn rhoi gwybod ein bod yn cynnig amrywio telerau ac amodau pob dosbarth trwydded a nodir isod, i gynnwys amod trwydded newydd sy’n ymwneud ag EMF.  Bydd yr amod EMF arfaethedig yn mynnu bod trwyddedeion yn cydymffurfio â therfynau cyhoeddus cyffredinol ICNIRP ac yn cadw cofnodion i ddangos sut maent wedi cydymffurfio.

Dim ond i drwyddedau sy’n awdurdodi offer i drawsyrru ar lefelau pŵer dros 10 Wat EIRP (neu 6.1 Wat ERP) y bydd yr amod EMF arfaethedig yn berthnasol. Os yw’r pŵer trawsyrru awdurdodedig a nodir mewn trwydded yn is na’r terfyn hwn, ni fydd angen i’r trwyddedai gymryd unrhyw gamau o ganlyniad i’r amrywiad hwn. Fodd bynnag, os bydd trwydded yn cael ei hamrywio yn y dyfodol i awdurdodi pwerau dros 10 Wat EIRP (neu 6.1 Wat ERP), bydd angen i’r trwyddedai gydymffurfio â’n hamod EMF arfaethedig.

Os yw trwydded ar hyn o bryd yn awdurdodi offer i drawsyrru ar lefelau pŵer o fwy na 10 Wat EIRP (neu 6.1 Wat ERP), mae nifer o ffyrdd syml y gall trwyddedeion gydymffurfio â nhw (mae cyngor ar sut i gydymffurfio wedi'i ddisgrifio yn ein Canllaw Cydymffurfio a Gorfodi EMF) (Saesneg yn unig).

Crynodeb o’r amrywiadau trwydded

Mae’r newidiadau penodol rydyn ni’n cynnig eu gwneud i bob dosbarth trwydded wedi’u nodi yn yr adran “Sut rydyn ni’n cynnig amrywio trwyddedau” isod. I grynhoi, mae ein hamod EMF arfaethedig:

  • Yn cynnwys cyfres newydd o ddiffiniadau sy’n ymwneud â’r amod EMF;
  • Yn gosod gofyniad ar drwyddedeion i sicrhau bod eu hoffer yn cydymffurfio â therfynau cyhoeddus cyffredinol ICNIRP ar (i) safleoedd nad ydynt yn cael eu rhannu â thrwyddedeion eraill; a (ii) pan fo’n berthnasol, safleoedd sy’n cael eu rhannu â thrwyddedeion eraill (mae cyngor ar sut i gydymffurfio ar gael yn Canllaw Cydymffurfio a Gorfodi EMF manwl) (Saesneg yn unig);
  • Yn nodi eithriad lle nad yw’n ofynnol i drwyddedeion gydymffurfio â therfynau cyhoeddus cyffredinol ICNIRP mewn sefyllfaoedd brys;
  • Yn gosod gofyniad i gadw cofnodion sy’n dangos cydymffurfiad â therfynau cyhoeddus cyffredinol ICNIRP; ac
  • Yn gosod gofyniad i ystyried “Canllawiau ar Gydymffurfio a Gorfodi EMF” gan Ofcom.

Cliciwch yma [here - link to policy webpage] i gael rhagor o wybodaeth am gefndir polisi EMF Ofcom (Saesneg yn unig).

Yn ogystal â’r amod EMF arfaethedig, rydym yn gwneud mân ddiwygiadau nad ydynt yn rhai sylweddol i rai dosbarthiadau trwydded. Mae’r rhain wedi’u cyfyngu i newidiadau gweinyddol i ddiweddaru cyfeiriadau at ddeddfwriaeth a dileu gwybodaeth arall wedi dyddio.

Trwyddedau yr effeithir arnynt

Mae’r Hysbysiad Cyffredinol hwn yn rhoi gwybod i’r holl drwyddedeion sy’n dal un o’r dosbarthiadau trwydded canlynol, ein bod yn cynnig amrywio trwyddedau i gynnwys yr amod EMF newydd.

Bydd y newid arfaethedig hwn hefyd yn effeithio ar ddosbarthiadau trwydded eraill. Yn unol â thelerau ac amodau’r trwyddedau eraill hyn, byddwn yn cysylltu â’r trwyddedigion yr effeithir arnynt yn uniongyrchol i roi gwybod iddynt am ein cynnig i amrywio.

Sut rydyn ni’n cynnig amrywio trwyddedau

Ar gyfer trwyddedau Radio Amatur, rydyn ni’n cynnig cynnwys yr amod EMF newydd fel Atodlen newydd, mewn fersiwn wedi’i ddiweddaru o lyfryn Telerau ac Amodau Trwydded Radio Amatur. Rydym wedi cyhoeddi telerau ac amodau trwyddedau Radio Amatur drafft  (PDF, 390.8 KB)(Saesneg yn unig).

Ar gyfer trwyddedau Radio Llongau, rydyn ni’n cynnig cynnwys yr amod EMF newydd fel Atodlen newydd, mewn fersiwn wedi’i ddiweddaru o lyfryn Telerau ac Amodau Trwydded Radio Llongau. Rydym wedi cyhoeddi telerau ac amodau trwyddedau Radio Llongau drafft (PDF, 314.1 KB).

Ar gyfer Trwyddedau Radio Awyrennau (Haenau A,B,C a Chludadwy), rydyn ni’n cynnig cynnwys yr amod EMF newydd fel adran yn Atodlen 1 y drwydded. Rydym wedi cyhoeddi telerau ac amodau trwyddedau Radio Awyrennau (Haenau A,B,C a Chludadwy drafft (PDF, 256.9 KB)) (Saesneg yn unig).

Ar gyfer Trwyddedau Radio Gorsafoedd Daear Awyrennol, rydyn ni’n cynnig cynnwys yr amod EMF newydd fel adran yn Atodlen 1 y drwydded. Rydym wedi cyhoeddi telerau ac amodau Trwyddedau Radio Gorsafoedd Daear Awyrennol drafft  (PDF, 270.6 KB)(Saesneg yn unig).

Ar gyfer trwyddedau Darlledu, rydyn ni’n cynnig cynnwys yr amod EMF newydd yn amodau’r drwydded.

Ar gyfer pob trwydded arall a restrir uchod (Radio Busnes, Sefydlog, Morol a Lloeren), rydyn ni’n cynnig cynnwys yr amod EMF newydd fel adran newydd mewn fersiwn wedi’i ddiweddaru o’r Llyfryn Amodau Trwydded Cyffredinol a fydd yn disodli’r fersiwn presennol (OFW195.1). Rydyn ni’n cynnig amrywio trwyddedau i gynnwys cyfeiriad at y fersiwn diweddaraf o’r Llyfryn Amodau Trwydded Cyffredinol (fersiwn OfW592). Rydym wedi cyhoeddi fersiwn drafft o'r llyfryn Amodau Trwydded Cyffredinol (Saesneg yn unig).

Ar gyfer pob trwydded arall yr effeithir arni lle nad oes gan Ofcom hawl i amrywio trwydded drwy gyflwyno Hysbysiad Cyffredinol, byddwn yn cysylltu â thrwyddedeion yn uniongyrchol gyda manylion y newidiadau.

Proses amrywio

Er mwyn i Ofcom amrywio trwyddedau telegraffiaeth ddiwifr, mae’r gyfraith a nodir yn Atodlen 1 Deddf Telegraffiaeth Ddi-wifr 2006 yn mynnu ein bod yn:

  • rhoi gwybod i’r rheini sy’n dal trwyddedau am y rhesymau pam rydyn ni’n cynnig amrywio eu trwydded(au);
  • pennu cyfnod pryd y caiff trwyddedeion gyflwyno sylwadau; ac
  • o fewn un mis i ddiwedd y cyfnod hwnnw:
    • penderfynu a ddylid amrywio trwyddedau yn unol â’n cynnig neu gydag addasiadau; a
    • rhoi gwybod i’r trwyddedeion yr effeithir arnynt am ein penderfyniad.

Sylwadau

Rydym eisoes wedi cynnal dau ymgynghoriad cyhoeddus ar ein cynnig i fynnu’n ffurfiol bod trwyddedeion yn cydymffurfio â therfynau cyhoeddus cyffredinol ICNIRP. Felly, mae’r trwyddedeion eisoes wedi cael dau gyfle i roi sylwadau ar ein cynigion ac mae llawer wedi gwneud hynny – rydym wedi cael bron i 500 o ymatebion i’n cynigion ac wedi cael trafodaethau ychwanegol gyda chyrff rhanddeiliaid a diwydiant allweddol gan gynnwys Cymdeithas Radio Prydain Fawr, y Gymdeithas Hwylio Frenhinol ac Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau. Mae’r cynigion penodol rydyn ni’n hysbysu amdanynt wedi cael eu datblygu a’u mireinio gan ystyried yr holl sylwadau rydyn ni wedi’u cael hyd yma.

Yng ngoleuni’r ymgysylltu a’r ymgynghori helaeth rydyn ni eisoes wedi’i gael â rhanddeiliaid, rydyn ni’n disgwyl mai ychydig iawn o faterion sydd heb gael eu codi eto ac nad ydyn ni wedi rhoi sylw iddyn nhw’n barod. Hoffem i drwyddedeion fod yn ymwybodol o hyn wrth benderfynu a ydynt am gyflwyno unrhyw sylwadau a chyfeirio’n gyntaf at yr wybodaeth y cyfeirir ati isod.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am gefndir ein cynigion, gan gynnwys ein hymgynghoriadau blaenorol, gallwch chi ddarllen trosolwg o'n polisi EMF (Saesneg yn unig). Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein hamrywiad arfaethedig, rydym wedi ateb rhai cwestiynau (Saesneg yn unig) i’ch helpu chi i ddeall beth mae hyn yn ei olygu i chi.

Os ydych chi’n dymuno cyflwyno sylwadau, mae gennych tan 18 Ebrill 2021 i wneud hynny. Dylid anfon sylwadau at Ofcom drwy ddefnyddio’r ffurflenni sylwadau ar-lein.

Ar gyfer pob trwydded ac eithrio trwyddedau darlledu

Make an enquiry

Gwneud ymholiad

Ar gyfer trwyddedau darlledu

Make a broadcast licence enquiry

Gwneud ymholiad am drwydded darlledu

I gyflwyno sylwadau drwy’r post, defnyddiwch y cyfeiriad canlynol:

EMF Representation
Ofcom
PO Box 128
Warrington
WA1 9GL

Gan fod cyfyngiadau Covid-19 ar waith ar hyn o bryd, efallai na fydd yn bosibl adolygu’r holl sylwadau a anfonir drwy’r post, ac felly rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cyflwyno pob sylw drwy ddefnyddio’r ffurflen ar-lein.

Os nad ydych yn dymuno gwneud sylw, nid oes angen i chi gymryd unrhyw gamau ar hyn o bryd. Byddwn yn cysylltu â’r trwyddedeion yr effeithir arnynt eto ar ddiwedd y broses hon.

Penderfyniad i amrywio

Ar ôl ystyried unrhyw sylwadau a ddaw i law mewn ymateb i’r Hysbysiad Cyffredinol hwn, byddwn yn cyhoeddi ein penderfyniad terfynol ar y dudalen hon o’n gwefan. Bydd ein penderfyniad terfynol yn egluro a ydym wedi penderfynu amrywio’r dosbarthiadau trwydded a nodir uchod i gynnwys yr amod EMF. Os felly, bydd ein penderfyniad terfynol hefyd yn egluro a ydym wedi penderfynu amrywio trwyddedau yn unol â’n cynigion (fel y nodir yn yr adran “Sut rydyn ni’n cynnig amrywio trwyddedau” uchod), neu a ydym wedi penderfynu gwneud rhai newidiadau i’n cynigion.

Byddwn yn cyhoeddi ein penderfyniad erbyn 18 Mai 2021 fan bellaf.

Derbyn trwyddedau wedi'u hamrywio

Ar ôl i ni gyhoeddi ein penderfyniad, byddwn yn dechrau cysylltu â’r trwyddedeion hynny yr ydym wedi penderfynu amrywio eu trwydded(au). Byddwn naill ai’n anfon fersiwn newydd/diweddariad i’r drwydded neu’n darparu gwybodaeth ynghylch ble y gellir cael gafael arni.

Cwestiynau

Rydym wedi ateb rhai cwestiynau (Saesneg yn unig) sydd efallai gennych an ein cynigion.

Sut i gael yr wybodaeth ddiweddaraf

Gallwch danysgrifio i'n diweddariadau e-bost i dderbyn y diweddaraf am hyn a'n gwaith sbectrwm radio arall.