Diweddariadau trwyddedu
Ym mis Mehefin 2023 fe wnaethom gyhoeddi cyhoedd ymgynghoriad (PDF, 1.1 MB) ar ein cynigion i ddiweddaru’r fframwaith trwyddedu radio amatur. Yn ddiweddar, rydym wedi amlinellu ein penderfyniadau terfynol ar y cynigion hyn. Er mwyn gweithredu'r cynigion hyn, bydd yn rhaid i ni amrywio telerau ac amodau pob trwydded radio amatur.
Cyn i ni amrywio'r trwyddedau, mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i ni roi hysbysiad o'n cynnig i amrywio trwyddedau. Rydym yn cyhoeddi’r Hysbysiad Cyffredinol hwn yn unol â pharagraffau 6 a 7 o Atodlen 1 i Ddeddf Telegraffiaeth Ddi-wifr 2006 a thelerau ac amodau’r drwydded.
Bydd yr amrywiad arfaethedig yn effeithio ar y trwyddedau a ganlyn:
- Radio Amatur Sylfaen
- Radio Amatur Canolradd
- Radio Amatur Llawn
- Radio Amatur Llawn (Clwb), a
- Radio Amatur Llawn (Cilyddol Dros Dro)
Os dymunwch wneud sylw mewn ymateb i’r Hysbysiad Cyffredinol hwn, rhaid i Ofcom ei dderbyn erbyn 5:00pm ar 22 Ionawr 2024. Mae manylion llawn yr amrywiad arfaethedig i'w gweld yn y ddogfen Hysbysiad Cyffredinol.
Yn ystod y cyfnod pontio hwn, bydd Ofcom yn dal i dderbyn ceisiadau newydd a bydd yn dal i roi trwyddedau. Os byddwch yn penderfynu gwneud cais am drwydded (neu barhau â chais am drwydded) yn ystod y cyfnod hwn, byddwn yn cymryd eich bod chi'n cydsynio i'r newidiadau hyn yn y dyfodol.
Darllen ac ymateb i'r Hysbysiad Cyffredinol (PDF, 623.0 KB) (Saesneg yn unig).