9 Medi 2021

Rhwydweithiau band eang yn rhuthro i ddiwallu angen y DU am gyflymder

  • Gall tua chwarter o gartrefi bellach gael rhyngrwyd ffeibr llawn
  • Miliynau'n uwchraddio i becynnau cyflymach i gefnogi gweithio gartref
  • Cyflymder band eang cyfartalog y DU i fyny 20% ers dechrau pandemig y coronafeirws

Gall tuag un o bob pedwar cartref yn y DU bellach gael rhyngrwyd ffeibr llawn cyflymach, gan fod cwmnïau band eang wedi ymestyn eu rhwydweithiau ar garlam yn ystod y pandemig – yn ôl ffigurau newydd gan Ofcom.

Gyda miliynau o bobl yn parhau i ddibynnu ar eu band eang i weithio, dysgu a ffrydio eu hoff sioeau o gartref eleni, dengys ffigurau newydd gan Ofcom y gall ychydig o dan saith miliwn (24%) o holl gartrefi'r DU fanteisio ar becynnau rhyngrwyd ffeibr llawn - i fyny o 21% ar ddechrau'r flwyddyn. Mae'r gwasanaethau hyn yn gyflymach ac yn fwy dibynadwy na'r rhyngrwyd a ddarperir dros y rhwydwaith copr sydd wedi bodoli ers degawdau, y mae llawer o aelwydydd y DU yn ei ddefnyddio o hyd.

Gall bron i 12 miliwn (40%) o gartrefi'r DU bellach gael band eang cyfradd gigadid (a all ddarparu cyflymder llwytho i lawr o hyd at 1 Gdid yr eiliad), sef cynnydd o 37% ym mis Ionawr. Mae hyn yn cynnwys ffeibr llawn a'r pecynnau rhyngrwyd cebl cyflymaf.

Gall y mwyafrif helaeth o gartrefi'r DU (96%) gael band eang cyflym iawn (cyflymder llwytho i lawr o 30 Mdid yr eiliad o leiaf), ac mae gan bron bob cartref yn y DU fynediad i gysylltiad 'digonol' (10 Mdid yr eiliad llwytho i lawr ac 1 Mdid yr eiliad llwytho i fyny) – digon i bori'r rhyngrwyd, ffrydio sioeau teledu neu wneud galwadau fideo.

Er hynny, mae tua 134,000 o safleoedd yn y DU na allant gael cysylltiad digonol o hyd. Gallai'r safleoedd hyn fod yn gymwys i gael eu huwchraddio o dan y gwasanaeth band eang cyffredinol.

Darpariaeth band eang yn y DU ym mis Mai 2021

Aelwydydd y DU yn uwchraddio i ryngrwyd cyflymac

Rydym wedi mesur cyflymder a pherfformiad gwasanaethau band eang mewn dros 2,500 o aelwydydd. Mae wyth deg pump y cant o'r rhai wedi cymryd pecynnau cyflym iawn, i fyny o 75% ym mis Tachwedd 2019 – cyn i'r pandemig arwain at weithio a dysgu cartref ar raddfa fawr. Mae hyn yn golygu i ni amcangyfrif bod dros ddwy filiwn o aelwydydd wedi'u huwchraddio i becynnau gyda chyflymder a hysbysebir ar y lefel cyflym iawn o leiaf (30 Mdid yr eiliad ac yn uwch).

Adlewyrchir y defnydd o'r pecynnau cyflymach hyn yn y cyflymder uwch cyfartalog y mae aelwydydd yn ei dderbyn. Y cyflymder band eang cyfartalog canolrif a gofnodwyd yn ein hymchwil oedd 50.4 Mdid yr eiliad – cynnydd o 20% o'r cyflymder cyfartalog ym mis Tachwedd 2019 (42.1 Mdid yr eiliad).

O'r pecynnau y gwnaethom eu mesur, darparodd gwasanaeth 516 Mdid yr eiliad Virgin Media y cyflymder lawrlwytho canolrif cyflymaf ar gyfartaledd ymhlith y pecynnau yn yr adroddiad (490.3 Mdid yr eiliad) ac roedd gan wasanaeth ffeibr llawn 300 Mdid yr eiliad BT y cyflymder uwchlwytho canolrif uchaf (50.6 Mdid yr eiliad). Mae cyflymder uwchlwytho'n bwysig ar gyfer galwadau fideo, chwarae gemau a throsglwyddo ffeiliau mawr..

Cadw'r cysylltiad wrth deithio o gwmpas

Rydym hefyd wedi ymchwilio i sut mae darpariaeth a pherfformiad symudol yn cymharu ar draws y DU. Dengys ein ffigurau diweddaraf fod darpariaeth symudol yn aros heb ei newid i raddau helaeth ers mis Ionawr, gyda 4G ar gael i 92% o fàs tir y DU gan o leiaf un gweithredwr.

Mae gwaith ar y gweill i wella'r ddarpariaeth ledled y DU – yn enwedig mewn ardaloedd gwledig – drwy'r Rhwydwaith Gwledig a Rennir, y cytunwyd arno rhwng y diwydiant symudol a Llywodraeth y DU yn 2020.

Mae'r pandemig wedi arwain at newid parhaus yn y ffordd y mae pobl yn defnyddio eu ffonau symudol, yn ôl ymchwil Materion Symudol Ofcom. Treuliodd pobl sy'n defnyddio ffonau Android bron i dri chwarter (73%) o'u hamser ar-lein yn gysylltiedig â Wi-Fi, yn hytrach na'u rhwydwaith symudol – gan adlewyrchu mwy o amser yn cael ei dreulio gartref.

Mae mwy o rannau o'r DU yn derbyn cysylltiadau 5G. Yn 2020, roedd dwy ran o dair o'r holl gysylltiadau 5G a gofnodwyd yn ein hymchwil yn Llundain; ond mae hynny bellach wedi gostwng i 45%, gyda gweithredwyr symudol yn cyflwyno darpariaeth i ardaloedd ehangach.

Mae dros ddwy filiwn o aelwydydd wedi uwchraddio eu pecyn rhyngrwyd ers dechrau'r pandemig, ac mae cwmnïau band eang yn rhuthro i ddiwallu angen y DU am gyflymder.

Gyda rhwydweithiau ffeibr llawn yn cael eu hadeiladu ar y gyfradd uchaf erioed, mae rhwydweithiau'r DU yn cael eu gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol. Ond mae ein ffigurau'n dangos bod angen gwaith o hyd i gael band eang digonol mewn rhannau anghysbell o'r DU.

Yih-Choung Teh, Cyfarwyddwr Grŵp Strategaeth ac Ymchwil Ofcom

NODIADAU I OLYGYDDION

  1. Mae'r ffigurau band eang a darpariaeth symudol diweddaraf wedi'u cynnwys yn ein diweddariad Cysylltu'r Gwledydd yr haf. Mae hyn yn cynnwys data ar ddarpariaeth ledled y DU ac ym mhob un o'i gwledydd, ym mis Mai 2021.
  2. Ym mis Mawrth 2021, cyhoeddodd Ofcom ei Adolygiad o'r Farchnad Telathrebu Sefydlog Cyfanwerthol – gan nodi'r amodau i gefnogi buddsoddiad cystadleuol mewn band eang ffeibr llawn.
  3. Mae data cyflymder band eang ar gael o'n hadroddiad Perfformiad Band Eang Cartref y DU. Mae hyn yn cynnwys mesur y cyflymder band eang a pherfformiad a brofir gan banel o 2,541 o aelwydydd – gan ddefnyddio offer a atodwyd i'w llwybryddion band eang. Daw'r data yn yr adroddiad hwn o fis Mawrth 2021.
  4. Mae adroddiad Perfformiad Band Eang Cartref y DU eleni yn defnyddio cyfartaleddau canolrif (yn hytrach na chyfartaleddau cymedrig fel mewn adroddiadau blaenorol) wrth ddadansoddi perfformiad cysylltiadau. Cyfrifir y cyfartaledd canolrif fel y gwerth canol pan roddir set ddata mewn trefn o'r isaf i'r mwyaf, tra y cyfrifir y gwerth cymedrig drwy adio'r holl werthoedd mewn set ddata ac yna rhannu â nifer y gwerthoedd yn y set honno. Mae'r newid hwn yn adlewyrchu profiad defnyddwyr yn fwy cywir, gan fod cyfartaleddau canolrif yn disgrifio lefel sylfaenol y perfformiad y bydd o leiaf hanner y defnyddwyr yn ei brofi tra y gall perfformiad cyfartalog cymedrig gael ei aflunio gan nifer gymharol fach o gysylltiadau cyflym iawn.
  5. Mae ein hymchwil Materion Symudol yn monitro sut y gwnaeth panel o tua 280,000 o ddefnyddwyr Android ddefnyddio eu ffonau symudol rhwng Ionawr a Mawrth 2021. Nid yw system iOS Apple yn caniatáu cofnodi gwybodaeth yn y cefndir yn yr un ffordd â system Android, felly bu'n rhaid i ni seilio'r ymchwil hon ar ddefnyddwyr Android yn unig.

Cysylltwch â thîm y cyfryngau

Os ydych yn newyddiadurwr sydd am gysylltu â th6im cyfryngau Ofcom:

Ffoniwch: +44 (0) 300 123 1795 (newyddiaduron yn unig)

Gyrrwch eich ymholiad atom (newyddiaduron yn unig)

Os ydych yn aelod o'r cyhoedd sydd eisiau cyngor neu am wneud cwyn i Ofcom:

Rhoi barn am y dudalen hon

Oedd y dudalen hon yn ddefnyddiol?