16 Rhagfyr 2021

A allai band eang gigabit helpu i roi hwb i'ch cysylltiad cartref?

Mae ein hymchwil ddiweddaraf yn dangos bod band eang ffeibr llawn bellach ar gael i fwy nag wyth miliwn o gartrefi yn y DU, cynnydd o dair miliwn ers y llynedd.

Hefyd, mae band eang cyfradd gigabit ar gael i 13.7 miliwn o gartrefi. Mae hyn yn cynnwys rhwydweithiau ffeibr llawn a chebl ac wedi'u huwchraddio a all ddarparu cyflymder lawrlwytho o 1 Gbit yr eiliad neu uwch.

Ond ar yr un pryd, rydym wedi gweld nad yw llawer o aelwydydd eto wedi manteisio ar y gwasanaethau hyn lle maent ar gael iddynt. Mae hyn yn golygu bod llawer o bobl yn colli allan ar gysylltiadau gwell.

Ond beth yw manteision y gwasanaethau band eang cyflymach hyn a pham y dylai fod gennych ddiddordeb mewn derbyn nhw?

Mae tri diffiniad o fand eang efallai y byddwch yn clywed amdanynt.

  • ‘Digonol' (gan gynnig cyflymder lawrlwytho o 10 Mbit yr eiliad ac uwchlwytho o 1 Mbit yr eiliad) Mae hyn yn eich galluogi i wneud galwadau fideo manylder uchel gan ddefnyddio cymwysiadau fel Zoom, Teams, WhatsApp neu Facetime, a gallwch lawrlwytho pennod deledu HD 1 awr mewn tua chwarter awr.
  • Cyflym Iawn (gan gynnig cyflymder lawrlwytho o 30 Mbit yr eiliad i lawr o leiaf)
    Gallai rhywun sy'n ffrydio fideo 4K /UHD fod ymysg y defnyddiau cyffredinol. Gallwch hefyd lawrlwytho pennod deledu HD un awr mewn llai na phedair munud a hanner. Mae hefyd yn galluogi i sawl dyfais gael eu cysylltu ar yr un pryd.
  • Gigabit (gan gynnig cyflymder lawrlwytho o 1 Gbit yr eiliad ac yn uwch)
    Gallwch chi lawrlwytho ffilm 4K lawn (100GB) mewn llai na 15 munud. Dyma'r rhyngrwyd cartref cyflymaf sydd ar gael ac yn gyffredinol mae'n cael ei ddarparu dros rwydweithiau ffeibr llawn neu fand eang cebl.

Ond nid cyflymder mo’r unig ffactor!

Er mai cyflymder yw un o fanteision band eang gigabit, mae hefyd yn bwysig cofio bod y gwasanaethau hyn fel arfer yn cael eu darparu dros dechnolegau (rhwydweithiau ffeibr llawn neu gebl wedi'u huwchraddio) sy'n rhoi gwell dibynadwyedd ac addas at y dyfodol i helpu i ymdopi â'r galw uwch.

Mae band eang cyfradd gigabit ar gael i

13.7m

o gartrefi yn y DU

Mae band eang gigabit hefyd yn dda i'r aelwydydd hynny sy'n llyncu data, lle mae angen i aelodau'r teulu ffrydio, gweithio, chwarae gemau, gwneud galwadau fideo ac astudio ar-lein i gyd ar yr un pryd ar ddyfeisiau gwahanol. Mae'r mathau hyn o aelwydydd ar gynnydd - rydym wedi nodi bod y defnydd cyfartalog o ddata bob mis wedi tyfu i 453 GB fesul cysylltiad – mwy na theirgwaith yn fwy na phum mlynedd yn ôl.

Ydych chi'n ystyried uwchraddio?

Mae'n bosib eich bod chi'n un o'r aelwydydd niferus a allai uwchraddio i wasanaeth band eang gwell heb unrhyw gost ychwanegol.

A diolch i broses newid newydd a gyhoeddwyd gennym yn ddiweddar, yn fuan bydd yn haws ac yn gyflymach nag erioed i newid eich darparwr band eang.

O ran cyflymder band eang, diolch i'n cod ymarfer mae gennych hawl i gael cyflymder a warentir gan ddarparwyr yn y cynllun pan fyddwch yn cofrestru am wasanaeth. Os nad yw eich gwasanaeth yn darparu'r cyflymder a addawyd i chi gan eich darparwr, cysylltwch â nhw. Os yw'r broblem ar eu rhwydwaith nhw ac ni allant ei datrys o fewn 30 diwrnod, mae'n rhaid iddynt ganiatáu i chi adael eich contract heb orfod talu ffi ymadael gynnar.

Ac yn olaf - cofiwch y gallai llawer o bethau effeithio ar y cyflymder band eang rydych chi'n eu cael ar hyn o bryd. Bwrw golwg ar ein hawgrymiadau ar sut i wella eich cyflymder.

Related content