10 Rhagfyr 2021

Cynnau technoleg ddigidol yn lansio chwyldro radio lleol

Heddiw, bydd amlblecs DAB graddfa fach newydd, gwasanaeth trawsyrru radio digidol a fydd yn caniatáu i orsafoedd newydd fynd ar y tonnau awyr a chynnig amrywiaeth o ddewis i wrandawyr, yn cael ei droi ymlaen.

Mae'r amlblecs, a reolir ac a weithredir gan gwmni o Teesside, MUX ONE, wedi lansio yn Tynemouth a South Shields yng ngogledd ddwyrain Lloegr. Bydd 13 o orsafoedd ar yr awyr gyda mwy i ddod dros y misoedd nesaf.

Mae DAB graddfa fach, dyluniad blaengar gan beiriannydd sbectrwm yn Ofcom, yn darparu dull cost isel i wasanaethau cerddoriaeth masnachol, cymunedol ac arbenigol lleol ymuno â'r tonnau awyr digidol.

Daw lansiad yr amlblecs yn sgil rhaglen waith chwe blynedd gan Ofcom, lle gwnaethom gynllunio a threialu'r dechnoleg a'r trwyddedu sydd eu hangen i roi'r gwasanaeth ar waith. Dyma'r cyntaf o'r gwasanaethau hyn i'w lansio, ac wrth i fwy gael eu cyflwyno mae potensial i hyd at 4,000 o orsafoedd radio lleol newydd ddechrau darlledu.

Bydd y rhaglen DAB graddfa fach yn galluogi lansio tua 200 o amlblecsau a fydd yn rhoi darpariaeth i bob un o bedair gwlad y DU. Bydd y rhain yn darlledu amrywiaeth o wasanaethau radio, gan amrywio o wasanaethau cymunedol llawr gwlad i orsafoedd cerddoriaeth arbenigol, a gwasanaethau a anelir at grwpiau lleiafrifol a chynulleidfaoedd eraill nad ydynt yn cael eu gwasanaethu'n dda.

Mae DAB graddfa fach yn chwyldro gwirioneddol ar gyfer radio lleol. Mae'r dechnoleg yn ei gwneud yn rhatach ac yn haws i orsafoedd cymunedol lleol fynd ar y tonnau awyr digidol, sy'n golygu y gall gwrandawyr gael dewis ehangach o gynnwys hynod leol nag erioed o'r blaen.

Rydym wrth ein boddau mai cymunedau yn Ngogledd-ddwyrain Lloegr fydd y cyntaf i elwa o'r gorsafoedd newydd sydd ar gael ar MUX ONE.

Philip Marnick, Cyfarwyddwr Grŵp Sbectrwm, Ofcom

Dyma'r 13 gorsaf radio sy'n lansio heddiw a sut maen nhw'n disgrifio eu hunain:

Angel Radio - dathlu'r gorffennol mewn ffordd dwymgalon a chynhwysol gyda chymysgedd o hen gerddoriaeth o'r 1920au i'r 1960au, hiraeth a chefnogaeth ymarferol i wrandawyr.

Dance Revolution - eich siop un alwad ar gyfer cerddoriaeth ddawns yn ngogledd ddwyrain Lloegr. Yn chwarae anthemau dawns mwyaf yr oes a fu, yr oes bresennol a'r oes i ddod.

Durham OnAir - yr orsaf radio wirioneddol leol ar gyfer Swydd Durham a Dinas Durham gyda cherddoriaeth wych, sgwrsio ac adloniant lleol anhygoel drwy'r dydd, bob dydd.

Frisk Radio - Rhythm Gogledd-ddwyrain Lloegr - gorsaf newydd ac arloesol a arweinir gan gerddoriaeth.

GlitterBeam Radio - wedi'i anelu at y gymuned LHDTC+, ond gall pawb ei fwynhau. Mae'n cynnig 'Cerddoriaeth sy'n Pefrio' gan ei fod yn chwarae anthemau mawr sy'n gwneud i chi ganu a dawnsio.

Nation 70s - Nation 70s yw cartref More 70s – The Best Mix! Os ydych chi'n dwlu ar y 70au yna Nation 70s yw'r orsaf berffaith i chi!

Nation 80s - Nation 80s yw cartref More 80s – The Best Mix! Os ydych chi'n dwlu ar y 80au yna Nation 80s yw'r orsaf berffaith i chi!

Nation 90s - Nation 90s yw cartref More 90s – The Best Mix! Os ydych chi'n dwlu ar y 90au yna Nation 90s yw'r orsaf berffaith i chi!

Nation Radio UK - Nation Radio UK yw cartref caneuon mwyaf y byd.

Pride Radio - eich gorsaf radio gynhwysol yn darlledu o galon Gogledd-ddwyrain Lloegr.

Radio Shields - gorsaf radio gymunedol ar gyfer South Shields, yn darlledu cyfweliadau, newyddion, chwaraeon, siarad a sioeau comedi.

Sun FM - cartref cerddoriaeth wych a'r newyddion diweddaraf ar gyfer Sunderland, Durham a Darlington.

The Angel - radio ymlaciol, grêt i'r meddwl, da i'r enaid.

Bydd y gwasanaethau newydd hyn yn darlledu yn DAB+, fersiwn wedi'i huwchraddio o DAB sy'n galluogi i fwy o orsafoedd gael eu darlledu. Gall gwrandawyr ddarganfod a ydynt yn ardal ddarpariaeth y rhwydwaith newydd drwy wirio gyda'u cod post yn www.getdigitalradio.com, ac efallai y bydd angen ail-diwnio eu radio digidol i dderbyn y gorsafoedd am y tro cyntaf.

Related content