19 Hydref 2021

Mae'n Wythnos Mynd Ar-lein – dilynwch ein hawgrymiadau i gadw mewn cysylltiad

Yr wythnos hon rydym yn dathlu Wythnos Mynd Ar-lein drwy rannu awgrymiadau i helpu pobl i fod yn rhan o'r byd digidol.

Mae technoleg ddigidol yn chwarae rhan hanfodol wrth ein cadw mewn cysylltiad. Rydym yn gynyddol ddibynnol ar y rhyngrwyd yn y gweithle, am gyfathrebu â ffrindiau a theulu yn ogystal â thasgau ar-lein fel siopa a bancio.

Mae ein hymchwil yn dangos, er bod y mwyafrif helaeth o bobl ar-lein, bod 1.5 miliwn o gartrefi yn y DU yn dal heb y rhyngrwyd – gan adael nifer sylweddol o bobl yn methu â chael manteision bod ar-lein.

Y grwpiau sy'n lleiaf tebygol o fod heb fynediad i'r rhyngrwyd gartref yw'r rhai 65+ oed, aelwydydd incwm is, a'r rhai sydd fwyaf bregus yn ariannol. Dywed bron hanner yr oedolion nad ydynt ar-lein o hyd fod y rhyngrwyd yn rhy gymhleth iddynt (46%), neu nad yw'n dal unrhyw ddiddordeb iddynt (42%). I rai eraill (37%), mae diffyg cyfarpar yn rhwystr.

Edrychwch ar ein hawgrymiadau os ydych chi'n cael trafferth mynd ar-lein ar hyn o bryd.

  1. Bod yn ddefnyddiwr procsi. Os oes gennych chi ffrind, aelod o'r teulu neu gymydog sy'n cael trafferth mynd ar-lein, gallech ddod yn 'ddefnyddiwr procsi' a'u helpu gyda thasgau ar-lein. Er hynny, mae'r rhan fwyaf o bobl (60%) nad ydynt yn defnyddio'r rhyngrwyd gartref wedi gofyn i rywun wneud rhywbeth ar-lein iddynt dros y flwyddyn ddiwethaf. Ymysg y 'defnyddwyr procsi' hyn, yr angen mwyaf cyffredin oedd cymorth i brynu rhywbeth (57%). Bwrw golwg ar eich cysylltiadau i weld a oes angen unrhyw gymorth arnynt gyda thasgau bob dydd – efallai y gallwch ddangos iddynt sut mae'n gweithio ar yr un pryd.
  2. Helpu pobl i ddysgu sgiliau digidol. Mae Wythnos Mynd Ar-lein yn cydlynu digwyddiadau i helpu pobl i ddysgu sgiliau digidol. Ond nid oes rhaid i ddysgu ddechrau a gorffen yr wythnos hon. Mae llawer o awdurdodau lleol ac elusennau yn cynnig cyrsiau dysgu digidol am ddim i bobl hŷn, y rhai sy'n agored i niwed a phobl sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol fel y gallant loywi eu sgiliau ar-lein.
  3. Gwneud yn siŵr bod ganddynt gysylltiad da. Mae sefydlu cysylltiad da gartref yn hanfodol i helpu pobl i fynd ar-lein. Gallwch wirio darpariaeth symudol a band eang yn eich ardal gan ddefnyddio ein teclyn gwirio a chymharu bargeinion gan wahanol ddarparwyr yma. Mae rhai darparwyr band eang yn cynnig tariffau cymdeithasol fforddiadwy i bobl sydd ar incwm isel.

Cadw'n ddiogel pan fyddwch ar-lein

Os ydych chi'n treulio amser ar-lein – yn enwedig os ydych chi'n newydd iddo - mae'n bwysig ystyried eich diogelwch. Nid yw bod ar-lein heb ei risgiau, ond mae llawer o gamau y gallwch eu cymryd i ddiogelu eich hun.

Diogelu eich cyfrifon gyda chyfrineiriau cryf a diogel

Mae'r rhain yn aml yn cynnwys cymysgedd o lythrennau, rhifau a marciau ebychnod, neu ddilyniant o eiriau lluosog. Ceisiwch osgoi defnyddio cyfrineiriau sy'n rhy syml, neu sy'n seiliedig ar eich diddordebau neu bethau personol amdanoch chi y gallai eraill eu dyfalu'n hawdd. Ac wrth gwrs – peidiwch â rhannu eich cyfrineiriau gydag unrhyw un arall.

Gosod hidlyddion cynnwys neu reolaethau oedran

Os gall pobl eraill, gan gynnwys plant, ddefnyddio'ch dyfais, meddyliwch am y mathau o gynnwys rydych chi eisiau iddyn nhw eu gweld. Mae'r prif systemau gweithredu ar y rhan fwyaf o liniaduron a dyfeisiau eraill yn cynnig yr opsiwn i gynnwys ffeiliau a gwefannau y gellir ymweld â nhw. I wneud hyn, fel arfer bydd angen i chi gael manylion mewngofnodi gwahanol ar gyfer gwahanol ddefnyddwyr, fel y gallwch chi roi caniatâd gwahanol i'r bobl unigol sy'n ei ddefnyddio. Bydd y nodwedd hon fel arfer i'w gweld yn newislen 'gosodiadau' eich dyfais.

Gosod y diweddariadau meddalwedd diweddaraf

Gellir gwneud diweddariadau meddalwedd yn awtomatig neu â llaw, ond maent yn bwysig iawn o ran diogelwch. Yn aml, bydd cwmnïau meddalwedd yn ymwybodol o unrhyw fygythiadau diogelwch ymhell cyn y byddwch chi – ac mewn ymateb i hyn byddant yn cyflwyno diweddariadau meddalwedd sy'n helpu i'ch diogelu rhag y bygythiadau hyn. Cadwch lygad ar unrhyw awgrymiadau i ddiweddaru eich meddalwedd, a gwnewch hynny os byddwch yn derbyn un.

Defnyddio cyfrinair neu gôd diogelwch ar eich dyfeisiau

Mae dyfeisiau fel ffonau clyfar, llechi neu liniaduron yn aml yn dod gyda'r opsiwn i ddefnyddio cyfrinair neu gôd diogelwch y mae angen ei gofnodi cyn i chi eu defnyddio. Mae'r rhain yn fesurau pwysig i'w cymryd rhag ofn i'ch dyfais ddisgyn i'r dwylo anghywir. Heb hyn, bydd eich dyfais yn llawer haws i'w defnyddio ar gyfer unrhyw un sy'n cael eu dwylo arno.

Related content