Heddiw, mae Ofcom wedi rhoi dirwy i ddau gwmni telathrebu Guaranteed Telecom a Met Technologies – cyfanswm cyfunedig o £35,000 ar ôl iddynt gymryd gwasanaethau ffôn cartref mwy na chant o bobl drosodd heb gael caniatâd ganddynt-arfer a elwir yn ‘slamio’.

Canfu ein hymchwiliad fod Guaranteed Telecom and Met Technologies wedi slamio o leiaf 110 o gwsmeriaid drwy gydol 2019 (43 a 67 yn y drefn honno), nifer ohonynt yn oedrannus neu'n agored i niwed.

Bu i ni ddarganfod hefyd fod Guaranteed Telecom and Met Technologies wedi atal o leiaf 52 o gwsmeriaid (27 a 25 yn y drefn honno) rhag newid i ddarparwr arall ar ôl iddynt slamio nhw.

Felly, rydym wedi rhoi dirwy o £10,000 i Guaranteed Telecom ac o £25,000 i Met Technologies. Dylai'r cwmnïau hefyd ryddhau cwsmeriaid yr effeithir arnynt o'u contractau yn ddi-dâl, ac ad-dalu'r rhai a oedd eisoes wedi newid a thalu ffioedd terfynu cynnar.

Bydd yr arian a godir o'r ddirwy hon, y mae’n rhaid ei thalu i Ofcom cyn pen deufis, yn cael ei drosglwyddo i Drysorlys Ei Mawrhydi.

Beth yw slamio?

Mae slamio yn fath ymosodol o gamwerthu, sy'n golygu bod cwsmeriaid yn cael eu newid o un cwmni telathrebu i un arall heb eu caniatâd na'u gwybodaeth.

Mae mynd i'r afael â slamio yn flaenoriaeth i Ofcom. Rydym wedi cyflwyno rheolau llym i rwystro slamio, ac mae cwmnïau telathrebu sy'n torri ein rheolau yn wynebu dirwyon o hyd at 10% o'u trosiant blynyddol.

Sut alla i osgoi cael fy slamio?

  • Byddwch yn wyliadwrus o roi gwybodaeth bersonol dros y ffôn.
  • Dim ond os ydych chi'n siŵr gyda phwy rydych chi'n siarad a beth rydych chi'n cofrestru ar ei gyfer y dylech chi gytuno i rywbeth dros y ffôn. Os nad ydych yn siŵr, gofynnwch i'r galwr i anfon y wybodaeth i chi drwy'r post cyn i chi gofrestru ar gyfer unrhyw beth.
  • Gofynnwch am gael gweld prawf adnabod gan werthwyr carreg y drws, i wirio eu bod yn dod o'r cwmni y maent yn honni eu bod yn ei gynrychioli.
  • Peidiwch â rhoi eich manylion ariannol oni bai eich bod yn sicr eich bod am newid cwmnïau ffôn.
  • Peidiwch â llofnodi unrhyw beth oni bai eich bod wedi'i ddarllen ac yn siŵr o'r hyn rydych yn cofrestru ar ei gyfer.

Beth ddylwn i ei wneud os ydw i wedi cael fy slamio?

Mae'r broses newid ar gyfer gwasanaethau ffôn a band eang yn cynnwys mesurau i'ch diogelu rhag slamio.

Byddwch yn derbyn llythyrau gan eich hen gwmni ffôn a’r cwmni newydd i roi gwybod i chi eich bod yn symud darparwr. Byddant yn cynnwys y dyddiad y bydd y trosglwyddiad yn digwydd.

Os nad ydych am symud i gwmni ffôn newydd, dywedwch wrth y darparwr sydd wedi cymryd drosodd eich gwasanaeth nad oeddech yn cytuno i'r trosglwyddiad. Os byddwch yn gwneud hyn o fewn 10 diwrnod, byddant yn gallu rhoi terfyn ar y trosglwyddiad a gallwch barhau fel o'r blaen.

Os yw'r darparwr yn gwrthod canslo'r trosglwyddiad, gofynnwch i'ch darparwr presennol i’w ganslo. Dylai hyn fod yn bosibl hyd at 24 awr cyn i'r trosglwyddiad gael ei gwblhau, ond mae'n well gwneud hyn o leiaf 48 awr ymlaen llaw.

Os yw'r gwasanaeth eisoes wedi trosglwyddo, gofynnwch i'ch darparwr gwreiddiol eich trosglwyddo'n ôl iddynt.

Helpwch ni i fynd i'r afael â slamio

Er na allwn ymchwilio i achosion unigol, gall eich cwynion arwain atom yn lansio ymchwiliadau ac yn y pen draw, gweithredu. Gallwch ein helpu i sicrhau nad yw eraill yn dioddef o'r math hwn o gamwerthu.