20 Rhagfyr 2021

“Alla i ddim goelio'r peth!” - 2021 yn nodi blwyddyn heb ei hail o ran cwynion teledu a radio

Dyma Adam Baxter, Cyfarwyddwr Safonau a Diogelu Cynulleidfaoedd, yn bwrw golwg yn ôl ar flwyddyn record o ran cwynion teledu a radio.

I'r rhai ohonoch sy'n ddigon hen i gofio, ni fu i neb ar y teledu dragwyddoli crefft cwyno'n well na Victor Meldrew yn One Foot in the Grave. [I'r rhai ohonoch sy'n rhy ifanc – bwrw golwg ar ei gwynfannu mwyaf bythgofiadwy ar YouTube.]

Ac er y gallwn ni wneud Prydeinwyr sy'n ymhyfrydu mewn griddfan bob dydd am bopeth o'r tywydd i dagfeydd traffig yn destun sbort, mae cwynion gan wylwyr a gwrandawyr yn cyflawni diben pwysig i ni yn Ofcom. Maent yn helpu i rybuddio ni am bryderon diffuant o ran yr hyn y mae pobl yn ei weld a'i glywed.

Bu 2021 yn flwyddyn sydd wedi torri record ar gyfer cwynion teledu a radio i'n tîm safonau darlledu. Maent wedi mynd dros 150,000 - cynnydd o 124% o'r llynedd. Nid yw hyn yn cynnwys cwynion am y BBC, sy'n cael eu trin gan y BBC ei hun yn y lle cyntaf.

Felly pam mae cwynion ar gynnydd? Wel yn ddiddorol, mae'n nifer cymharol fach o raglenni sy'n ysgogi'r gyfran helaethaf; y pum cwyn uchaf am raglenni sy'n cyfrif am 80% o'r holl gwynion. Mae'r cyfryngau cymdeithasol – hafan ddigidol gyfoes y sgyrsiau wrth y peiriant dŵr – hefyd yn dylanwadu ar ffigurau cwynion. Ond i mi, mae'r niferoedd hyn yn dangos diddordeb ac angerdd y cyhoedd ym Mhrydain dros raglenni teledu a radio, ac yn dangos pa mor bwysig y maent i wead diwylliannol y DU.

Mae'n iawn bod pobl yn disgwyl safonau penodol ar deledu a radio – ac mae hynny'n golygu dweud eu dweud pan fyddant yn dod ar draws rhywbeth sy'n eu poeni nhw. Dyna lle mae gennym ni rôl. Mae ein tîm o arbenigwyr cynnwys yn asesu pob cwyn a wneir i ni. Rydym wedi gwylio neu wrando ar dros 121,800 awr o ffilm a sain yn y flwyddyn ddiwethaf yn unig.

Nid yw nifer uchel o gwynion yn golygu'n awtomatig bod ein rheolau wedi'u torri. Ac nid oes unrhyw hawl absoliwt i beidio â chael ein tramgwyddo gan y pethau a welwn ac a glywn ar y teledu a'r radio. Gan gydweddu â'r hawl i ryddid mynegiant, gall darlledwyr gynnwys deunydd a allai fod yn dramgwyddus yn eu rhaglenni, ar yr amod eu bod yn ei roi yn ei gyd-destun ac yn rhoi amddiffyniad digonol i gynulleidfaoedd.

Mae'r dyfarniadau a wnawn bob dydd yn aml wedi'u cydbwyso'n gynnil iawn – fel ein hachos proffil uchaf eleni: sylwadau Piers Morgan ar Good Morning Britain yn sgil cyfweliad Dug a Duges Sussex gydag Oprah Winfrey. Ond, o ystyried pwysigrwydd yr hawl i ryddid mynegiant, dim ond pan ystyriwn fod angen gweithredu yn erbyn darlledwr y byddwn yn camu i mewn neu'n cymryd camau yn ei erbyn. Eleni, gwnaethom gwblhau 33 o ymchwiliadau a chofnodi 20 o achosion o dorri ein rheolau. Roedd llawer o'r achosion hyn yn ymwneud â lleferydd casineb neu wybodaeth anghywir niweidiol, heb sail wyddonol, am y Coronafeirws.

Yn ogystal â bod yn gyfnod prysur ar gyfer cwynion, bu 2021 hefyd yn flwyddyn bwysig o ran datblygu ein rheolau. Mae chwaeth a goddefiannau cynulleidfaoedd yn newid dros amser, felly, mae ein hymchwil fanwl yn helpu i sicrhau bod ein rheolau a'n harweiniad ar gyfer darlledwyr bob amser yn berthnasol ac yn effeithiol.

Eleni, gofynnwyd i wylwyr a gwrandawyr ddweud wrthym beth yw eu barn am iaith dramgwyddus ar y teledu a'r radio. Dywedodd pobl wrthym eu bod eisiau o hyd i ddarlledwyr ystyried yn ofalus pryd, a sut, y defnyddir iaith dramgwyddus, yn enwedig pan fydd yn wahaniaethol. Mae gwylwyr a gwrandawyr yn dal i gydnabod y gall iaith dramgwyddus, yn y cyd-destun cywir, chwarae rhan bwysig mewn rhaglenni - er enghraifft, i greu effaith ddramatig, hiwmor, adlewyrchu bywyd go iawn, neu hyd yn oed hysbysu ac addysgu.

Ar wahân i hynny, bu i ni siarad hefyd â phobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig am eu disgwyliadau o ran y sianeli teledu a gorsafoedd radio sy'n eu gwasanaethu nhw a'u cymunedau. Dywedodd gwylwyr wrthym fod y gwasanaethau hyn yn rhoi ymdeimlad o berthyn a chysylltiad â'u gwreiddiau diwylliannol, a phrofiad pwysig o wylio a rennir fel teulu. Ond clywsom hefyd fod pobl yn anesmwyth am gynnwys penodol, gan gynnwys trais neu raglenni newyddion graffig; delweddau o drais a cham-drin domestig; deunydd rhywiol; a chynnwys sydd â'r potensial i niweidio cydlyniant cymunedol. Mae'r holl ganfyddiadau hyn yn hynod o ddefnyddiol ar gyfer penderfyniadau golygyddol darlledwyr, ac wrth gyfeirio barn Ofcom ar ran cynulleidfaoedd.

Eleni, rydym hefyd wedi cryfhau ein rheolau ar ôl gwrando ar bryderon gwylwyr am les pobl sy'n cymryd rhan mewn rhaglenni. Ym mis Ebrill, cyflwynwyd mesurau diogelu cryfach yn y maes hwn: erbyn hyn, mae'n rhaid i ddarlledwyr roi gofal dyladwy i bobl y maent yn eu cynnwys yn eu rhaglenni, megis pobl sy'n agored i niwed neu'r rhai nad ydynt wedi'u harfer â bod yn llygad y cyhoedd, a allai fod mewn perygl o niwed arwyddocaol.

Cyn i rywun gytuno i gymryd rhan mewn sioe deledu neu radio, mae'n rhaid i ddarlledwyr ddweud wrthynt am unrhyw risgiau posib i'w lles, a sut y byddant yn ceisio isafu'r rhain. A dylid egluro i wylwyr hefyd sut mae'r rhaglen yn gofalu am y bobl y maent yn eu cynnwys.

Felly mae hon wedi bod yn flwyddyn bwysig i dîm safonau darlledu Ofcom - a dwi wedi gweld bron i 14 ohonyn nhw! Bydd gwylwyr a gwrandawyr bob amser wrth wraidd yr hyn a wnawn. Hyd yn oed os na fyddwch bob amser yn cytuno â'r penderfyniadau y byddwn yn eu gwneud dros y 12 mis nesaf, gallwch fod yn dawel eich meddwl y byddwn yn ystyried pob cwyn yn ofalus, dilyn y dystiolaeth a pharhau i ddiogelu cynulleidfaoedd rhag niwed a chynnal rhyddid mynegiant ar donnau awyr y DU.

Y 10 rhaglen y cwynwyd fwyaf amdanynt yn 2021

Related content