30 Medi 2021

Dathlu Diwrnod Rhyngwladol Podlediadau 2021

Heddiw yw Diwrnod Rhyngwladol Podlediadau 2021, digwyddiad sydd â'r nod o ddathlu pŵer podlediadau ledled y byd.

Dechreuodd y digwyddiad yn yr Unol Daleithiau ar y diwrnod hwn yn 2014 fel Diwrnod Cenedlaethol Podlediadau– mae’r trefnwyr yn dweud bod y dyddiad wedi'i ddewis gan mai dyna oedd degfed pen-blwydd rhyddhau'r podlediad cyntaf.

Ers hynny mae'r diwrnod wedi tyfu yn rhyngwladol, wrth i bobl ledled y byd gydnabod grym podlediadau i hysbysu, diddanu a darparu llwyfan i'r rhai sydd am rannu eu diddordebau.

Adlewyrchir poblogrwydd podlediadau yn ymchwil Ofcom gydag ein data'n dangos bod 15% o oedolion yn y DU yn gwrando ar bodlediadau bob wythnos. Mae gwrando ar ei uchaf ymhlith pobl rhwng 15 a 34 oed, gyda mwy na chwarter y grŵp oedran hwn yn gwneud hynny – ac mae poblogrwydd yn uwch ymhlith dynion a phobl mewn grwpiau economaidd-gymdeithasol uwch.

Fodd bynnag, cafodd pandemig y coronafeirws (Covid-19) a'i gyfnodau clo dilynol effaith ar wrando ar bodlediadau. Cyn y cyfnod clo cyntaf yn gynnar yn 2020, roedd arwyddion bod podlediadau'n cynyddu mewn poblogrwydd ymhlith pobl o bob oed a chefndir.

Ond roedd y cyfnod clo yn golygu bod pobl methu cymudo cymaint neu fynd i'r gampfa, a gyda dau o bob pump o bobl yn dweud mai dyna pryd a ble roedden nhw'n gwrando ar eu podlediadau, roedd hyn yn golygu bod yna ostyngiad yn y gwrando a'r niferoedd.

O ran llwyfannau, mae ein hymchwil yn awgrymu mai Spotify a BBC Sounds yw'r rhai mwyaf poblogaidd gyda gwrandawyr y DU, gyda phob un yn cael ei ddefnyddio gan tua dwy ran o bump o bobl i gael mynediad at bodlediadau. Fodd bynnag, mae gwahaniaeth oed rhwng y ddau, gyda Spotify yn cael ei ddefnyddio gan grwpiau oedran iau a'r defnydd o BBC Sounds yn cynyddu gydag oed.

Y gweithgareddau mwyaf cyffredin mae pobl yn dweud eu bod yn eu gwneud wrth wrando ar bodlediad oedd gyrru, ymlacio gartref, gwneud gwaith tŷ neu arddio.

Ac mae'n edrych fel bod cefnogwyr podlediadau hefyd yn hoff o chwerthin – comedi oedd yr hoff gategori a nodwyd gan bobl a ymatebodd i'n hymchwil, gyda phêl-droed a throseddau ‘gwir’ yn dilyn. Mae yna gymdeithas weithgar o bodledwyr Cymraeg hefyd.

Os ydych chi'n wrandawr podlediadau brwd, neu os hoffech eu harchwilio am y tro cyntaf, cymerwch ran yn y drafodaeth ar y cyfryngau cymdeithasol a defnyddio #diwrnodrhyngwladolpodlediadau.

Related content