17 Rhagfyr 2021

Cwmnïau symudol bellach wedi'u gwahardd rhag gwerthu setiau ffonau wedi'u cloi

Mae cwmnïau ffonau symudol bellach wedi'u gwahardd rhag gwerthu ffonau wedi'u cloi i gwsmeriaid, o dan reolau newydd gan Ofcom sy'n dod i rym heddiw.

Mae rhai cwmnïau wedi bod yn gwerthu ffonau symudol o hyd na ellir eu defnyddio ar rwydweithiau eraill, oni bai eu bod wedi'u datgloi. Ond gall hyn fod yn gymhleth i gwsmeriaid ac yn costio tua £10 hefyd.

Mae ein hymchwil yn dangos i fwy na thraean o'r bobl a benderfynodd yn erbyn newid ddweud bod gorfod datgloi ffôn yn eu hatal rhag newid darparwr. Mae hyn yn golygu y gallent fod yn colli allan ar fargen well.

Ac mae bron i hanner y cwsmeriaid sy'n ceisio datgloi eu ffôn yn cael trafferth gwneud hynny - gan gynnwys oedi hir neu golli gwasanaeth.

Felly, rydym wedi cyflwyno rheolau newydd a ddaw i rym heddiw, sy'n golygu bod cwmnïau symudol bellach wedi'u gwahardd rhag gwerthu ffonau wedi'u cloi. Bydd hyn yn ei gwneud yn haws i bobl symud i rwydwaith gwahanol gyda'u ffôn presennol, yn ddidrafferth.

Gall unrhyw gwsmeriaid symudol sydd am newid darparwr fanteisio ar y broses neges i newid syml, sy'n golygu y gallwch yn awr gael y cod gofynnol drwy anfon neges destun am ddim.

Bwndeli wedi'u cyfyngu i gontractau dwy flynedd

Mae mesurau newydd eraill a ddaw i rym heddiw yn cynnwys ymestyn ein rheolau sy'n cyfyngu contractau ffôn a band eang i uchafswm o ddwy flynedd, fel eu bod yn cynnwys bwndeli. Hefyd, os bydd cwsmer yn ychwanegu gwasanaeth at eu pecyn, ni fydd darparwyr yn gallu ymestyn cyfnodau contract y gwasanaethau presennol sydd gan y cwsmer eisoes heb eu caniatâd.

Bydd hyn yn helpu i roi mwy o hyblygrwydd i gwsmeriaid newid pecyn neu ddarparwr, heb gael eu cloi i mewn i gontractau hir.

Mwy o gefnogaeth i gwsmeriaid anabl

Rydym hefyd wedi cryfhau ein gofynion presennol ar gwmnïau ffôn a band eang i ddarparu biliau a gwybodaeth gontract i gwsmeriaid dall neu â nam ar eu golwg mewn fformatau hygyrch, megis braille neu brint bras.

Rydym wedi ymestyn cwmpas y rheolau hyn, fel y gall cwsmeriaid anabl ofyn i unrhyw wybodaeth bwysig am eu gwasanaeth – ac eithrio deunyddiau marchnata – gael ei darparu mewn fformat sy'n rhesymol dderbyniol i ddiwallu eu hanghenion, heb unrhyw gost ychwanegol.

Mae'r rheolau hyn yn rhan o becyn o newidiadau rydym yn eu cyflwyno, i helpu i sicrhau bod cwsmeriaid ffôn a band eang yn cael eu trin yn deg a'u bod yn gallu dod o hyd i'r fargen orau iddynt yn hwylus.

Gallwch ddysgu mwy am sut i wneud yn siŵr eich bod yn manteisio i'r eithaf ar eich gwasanaethau ffôn a band eang yn ein tudalennau cyngor i ddefnyddwyr.

Related content