15 Rhagfyr 2021

Ofcom yn cynnig ein cynllun gwaith ar gyfer 2022/23

Heddiw, rydym wedi cyhoeddi ein cynllun gwaith arfaethedig ar gyfer 2022/23, sy'n amlinellu ein blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

Mae pobl yn y DU yn gynyddol ddibynnol ar rwydweithiau cyfathrebiadau am y ffordd rydym yn byw, yn gweithio, yn siopa ac yn defnyddio gwasanaethau cyhoeddus – o alwadau fideo gydag anwyliaid i weithio o bell, ffrydio mewn manylder uchel iawn, neu dracio parseli sy'n cael eu danfon i'n cartrefi. Ac rydym yn treulio mwy o amser ar-lein nag erioed o'r blaen.

Ni fu'r angen am rwydweithiau band eang a symudol cyflymach a mwy dibynadwy erioed yn bwysicach, gan fod cynifer o wasanaethau'n dibynnu arnynt. Mae angen hefyd i bobl fedru byw bywyd mwy diogel ar-lein, ac ymddiried yn y cynnwys a'r llwyfannau y maent yn dod ar eu traws.

Rydym yn disgwyl i'r diwydiannau rydym yn eu rheoleiddio brofi newidiadau arwyddocaol pellach dros y blynyddoedd nesaf. Yn wyneb y newid parhaus hwn, byddwn yn cynnal ein ffocws ar dri deilliant craidd ar gyfer defnyddwyr ar draws y DU.

Rhyngrwyd y gallwn ddibynnu arno Byddwn yn parhau i flaenoriaethu creu marchnadoedd cystadleuol i gefnogi buddsoddiad mewn rhwydweithiau band eang cyfradd gigabit a gwasanaethau symudol cyflym. Bydd sicrhau bod defnyddwyr yn cael eu trin yn deg a bod ganddynt fynediad at opsiynau fforddiadwy yn parhau'n rhan ganolog o'n hymagwedd. Nid yw dibynadwyedd yn golygu cyflymder uchel a gwasanaeth da yn unig; Mae hefyd yn golygu cydnerthedd yn erbyn ymosodiadau seiber a'r gallu i wrthsefyll bygythiadau gan bartïon drwg.

Cyfryngau rydym yn ymddiried ynddynt ac yn eu gwerthfawrogi Byddwn yn parhau i gefnogi cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus yn y DU, gan gynnwys newyddion a materion cyfoes cenedlaethol, rhanbarthol a lleol o ansawdd uchel, er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i fod ar gael ac yn amlwg i'r cyhoedd ar draws y gwledydd. Ac ar adeg pan fo amrywiaeth eang o leisiau ar wahanol ochrau i lawer o ddadleuon cyhoeddus, mae ein rôl fel rheoleiddiwr annibynnol cynnwys darlledu yn bwysicach nag erioed: cynnal safonau ac ar yr un pryd cynnal rhyddid mynegiant.

Helpu chi i fyw bywyd mwy diogel ar-lein Ein nod yw dod â thryloywder ac atebolrwydd i wasanaethau ar-lein, gan sicrhau eu bod yn cyflawni eu dyletswyddau gofal newydd i'w defnyddwyr. Wrth i ni wneud hyn, byddwn yn adeiladu ar ein hanes o gynnal safonau yn y cyfryngau, gan gefnogi rhyddid mynegiant a hyrwyddo arloesedd.

Byddwn yn parhau i gefnogi pobl a busnesau ar draws yr ystod eang o sectorau rydym yn gweithio gyda nhw. Mae hyn yn cynnwys ein rôl o reoli sbectrwm y DU ac ein rôl yn goruchwylio'r gwasanaeth post cyffredinol.

Saith thema ar gyfer ein gwaith dros y flwyddyn i ddod

  • Buddsoddi mewn rhwydweithiau cryf a diogel
  • Cael cysylltiad i bawb
  • Tegwch i gwsmeriaid
  • Galluogi gwasanaethau diwifr yn yr economi ehangach
  • Cefnogi a datblygu cyfryngau'r DU
  • Gwasanaethu a diogelu cynulleidfaoedd
  • Sefydlu rheoleiddio diogelwch ar-lein

Rydym yn croesawu ymatebion i'n cynllun gwaith arfaethedig erbyn 9 Chwefror 2022. Gallwch chi ymateb trwy wefan Ofcom. Byddwn yn cyhoeddi ein cynllun terfynol ym mis Mawrth 2022.

Byddwn hefyd yn cynnal digwyddiad rhithwir i gywain adborth ar ein cynllun arfaethedig. Byddwn yn cyhoeddi ein cynllun terfynol ym mis Mawrth 2022.

See also...