1 Rhagfyr 2021

Cydnabod Ofcom am ein hymrwymiadau symudedd cymdeithasol

Yr wythnos diwethaf, fe wnaeth Ofcom esgyn i safle uwch ar y Mynegai Symudedd Cymdeithasol, sy'n cydnabod cyflogwyr am greu cyfleoedd ar gyfer pobl o wahanol gefndiroedd cymdeithasol.

Fe wnaethom neidio 19 safle ers y llynedd, i'r 88ain allan o 203 o gyflogwyr sy'n mynd ati i asesu a monitro eu cynnydd ar symudedd cymdeithasol. Wrth symudedd cymdeithasol, rydym yn golygu sicrhau bod Ofcom, fel cyflogwr, yn cynnig cyfle cyfartal i bawb, ond yn enwedig y rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is.

Mae'r mynegai yn offeryn meincnodi blynyddol sy'n asesu'r camau y mae sefydliadau'n eu cymryd i sicrhau eu bod yn agored i ddoniau o bob cefndir. Er enghraifft, edrychodd y mynegai ar ein gwaith gyda phobl ifanc drwy allgymorth cymunedol, llwybrau at gyflogaeth fel prentisiaethau a chynlluniau graddedigion, recriwtio, cadw, diwylliant ac eiriolaeth. Mae pob sefydliad yn derbyn adroddiad sy'n amlinellu ble maent yn perfformio'n dda ac argymhellion ar ble y gallant wella.

Bod yn lle gwych i weithio

Ein gweledigaeth yw adeiladu sefydliad cryfach a mwy cynhwysol sy'n lle gwych i weithio. Er mwyn i ni sicrhau bod cyfathrebiadau'n gweithio i bawb yn y DU – ar draws ein gwledydd, ein rhanbarthau a’n cymunedau, ac i bobl o bob oed a chefndir – mae'n rhaid i Ofcom ei hun adlewyrchu’r DU heddiw. Ac mae hyn yn cynnwys deall safbwyntiau pobl o ystod eang o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol. Mae amrywiaeth economaidd-gymdeithasol yn flaenoriaeth strategol yn ein strategaeth amrywiaeth a chynhwysiad pum mlynedd.

Mae gennym hefyd Grŵp Cynhwysiad Cymdeithasol, sy'n dwyn ynghyd gydweithwyr sydd â phrofiadau a diddordeb mewn amrywiaeth economaidd-gymdeithasol. Mae'r grŵp wedi treblu o ran maint yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Rwy'n falch iawn o weld sut mae ein safle wedi gwella ac rwy'n falch o'r gwaith y mae ein timau wedi'i wneud i'n cyrraedd yno.

Ond rydym yn cydnabod bod llawer mwy i'w wneud i sicrhau bod gennym weithlu gwirioneddol amrywiol gyda phobl o bob cefndir. Bydd amrywiaeth economaidd-gymdeithasol yn parhau i fod yn faes ffocws ar gyfer ein gwaith amrywiaeth a chynhwysiad mewnol ac allanol dros y blynyddoedd nesaf.

Kerri-Ann ONeill, Cyfarwyddwr Pobl a Thrawsnewid

Mae wedi bod yn wych gweld rhai mentrau rhagorol yn cael eu cynnal ar draws Ofcom dros y flwyddyn ddiwethaf. Trwy ein gwaith gydag elusennau fel Siaradwyr i Ysgolion, a Barod am Yrfa, rydym yn cefnogi 200 a mwy o fyfyrwyr o gefndiroedd llai breintiedig yn ystod y pandemig.

Rydym wedi cynnig pum rhaglen profiad gwaith i tua 200+ o fyfyrwyr, rydym wedi mentora pobl ifanc ac wedi cymryd rhan yng Ngŵyl Sgiliau Barod am Yrfa. Rhoddodd nifer o'n cydweithwyr eu hamser a'u harbenigedd er mwyn i fyfyrwyr o bob cefndir barhau i feithrin eu sgiliau a'u gwybodaeth.

Luisa Affuso, Noddwr Uwch Dîm Rheoli Ofcom dros Amrywiaeth Economaidd-Gymdeithasol

Ein mentrau symudedd cymdeithasol

Llwybrau at y Gyfraith

Daeth tîm cyfreithiol Ofcom ynghyd â rhaglen ‘Pathways to Law’ Ymddiriedolaeth Sutton, i dderbyn pum myfyriwr y gyfraith ar brofiad gwaith â thâl ym mis Medi 2020. Nod y rhaglen yw ehangu mynediad at y proffesiwn cyfreithiol, meithrin dyheadau myfyrwyr a’u galluogi i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth am eu gyrfa yn y dyfodol. Mae’n agored i ddisgyblion sy’n mynd i ysgolion nad ydynt yn codi ffi ac sydd hefyd yn aml y cyntaf yn y teulu i fynd i brifysgol.

Cyfleoedd i brentisiaid a graddedigion

A ninnau'n gweithio gyda Siaradwyr i Ysgolion a Barod am Yrfa, rydym yn hyrwyddo cyfleoedd prentisiaeth ac i raddedigion sydd ar gael yn Ofcom ac yn annog myfyrwyr i wneud cais. Rydym yn cynnal sesiynau lle mae graddedigion a phrentisiaid presennol yn siarad â'r myfyrwyr am eu profiadau o'r rhaglen i'w hysbrydoli am y posibiliadau.

Rydym hefyd yn cynnal gweithdai ysgrifennu CV a pharatoi at gyfweliadau. Llwyddodd un o'n myfyrwyr o raglen profiad gwaith mis Ebrill i sicrhau prentisiaeth polisi.

Profiad gwaith â thâl a mentora parhaus

Yn ystod yr haf, bu i ni gymryd rhan yn Dyfodol Deallus Sefydliad EY, pan wnaethom gefnogi 20 o fyfyrwyr gyda rhaglen profiad gwaith â thâl wyth diwrnod a mentora parhaus. Mae'r rhaglen Smart Futures, a anelir at fyfyrwyr o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is yn ardal Manceinion, yn cefnogi myfyrwyr i ennill sgiliau a sicrhau cynnig swydd ar ôl addysg.

Recriwtio

Mae ein hymgyrchoedd recriwtio ar gyfer y rhaglenni graddedigion ac interniaethau diweddar wedi gweld newidiadau i gael effaith gadarnhaol ar amrywiaeth yr ymgeiswyr, yn enwedig i ddenu a chefnogi'r rheini o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is. Gwnaethom ddileu ein gofyniad sylfaenol o radd 2:1, nid oes isafswm gofyniad Safon Uwch, nid ydym bellach yn targedu prifysgolion Grŵp Russell ac rydym wedi ychwanegu metrigau data ychwanegol ategol gan gynnwys prydau ysgol am ddim ac ai nhw oedd y cyntaf yn eu teulu i fynd i'r brifysgol.

Gwnaethom estyn allan at fyfyrwyr o gefndir economaidd-gymdeithasol is ar adegau penodol yn y broses recriwtio lle rydym yn draddodiadol yn eu gweld yn rhoi'r ffidil yn y to – i weld a oes angen cymorth arnynt i baratoi ar gyfer cyfweliad. ​​​​​​​

Rydym hefyd yn bwriadu parhau i gynnal canolfannau asesu rhithwir yn 2022 i'w gwneud yn fwy hygyrch i bob ymgeisydd.

Related content