7 Hydref 2021

Chwarae ein rhan wrth wella amrywiaeth mewn darlledu

Yr wythnos ddiwethaf cynhaliodd Ofcom 'Dros bawb', digwyddiad rhithwir yn taflu golwg ar orffennol, presennol a dyfodol amrywiaeth mewn darlledu yn y DU. Bu'n cynnwys trafodaethau, cyfweliadau a sesiynau hyfforddi, yr oeddent oll yn edrych ar ffyrdd ymarferol o wneud darlledu yn sector mwy amrywiol a chynhwysol.

Dyma Leila Kurnaz, uwch swyddog gweithredol safonau gydag Ofcom, yn myfyrio ar y digwyddiad ac yn edrych ar yr ymdrechion sy'n cael eu gwneud ar draws y diwydiant i wella cynrychiolaeth ar bob lefel.

Yr wythnos ddiwethaf, yn ystod yr Wythnos Cynhwysiad Cenedlaethol, lansiodd Ofcom ein hadolygiad pum mlynedd o Amrywiaeth mewn Darlledu.

Gwnaethom hefyd gynnal ein digwyddiad amrywiaeth 'Dros bawb' - diwrnod anhygoel yn cynnwys trafodaeth difyr a llawn mewnwelediad, gyda barn o bob rhan o'r diwydiant. Fe glywsom gan ddoniau ar y sgrîn, sgriptwyr, cynhyrchwyr, arbenigwyr ym maes amrywiaeth a chyflogeion sydd â phrofiad o faterion pwysig o lygad y ffynnon, wrth iddynt symud i fyny trwy'r diwydiant.

Gallwch wylio uchafbwyntiau'r digwyddiad isod.

Gan edrych ar daith y rhaglen waith hon a ble y mae wedi mynd â ni, mae'n bwysig myfyrio ar ba un a fydd pethau erioed yn newid o ddifri ar draws y diwydiant ai beidio. Credaf yn wir y byddant - a bod yn rhaid iddynt. Mae'r diwydiant bellach wedi'i ymrwymo i'r newid hwn, ac yn dra ymwybodol bod rheidrwydd creadigol i'w wneud. Ond am y tro, mae llawer i'w wneud o hyd. Ni allwn roi ein hoffer o'r neilltu a mynd adref eto - ond gallwn yn awr weld yr egin bach o newid yn esgyn o'r pridd.

Er bod tipyn o ffordd i fynd o hyd, mae'r data rydym wedi'i gywain dros y pum mlynedd diwethaf wedi galluogi ni i ddal drych i fyny i'r darlledwyr. Hefyd, mae'r sgyrsiau yr ydym yn eu cael yn y gofod hwn wedi datblygu ac aeddfedu dros y blynyddoedd, gan fynd yn llawer mwy cydweithredol. Rwy'n cofio'r tro cyntaf i ni gael yr holl brif ddarlledwyr gyda'n gilydd mewn ystafell - roedd yn debyg i gêm hynod o bocer gyda phawb yn cadw eu cardiau dan eu capiau.

Rhai blynyddoedd wedi hynny, rydym yn cael sgyrsiau adeiladol yn rheolaidd gyda'r un darlledwyr hyn.

Yn awr maen nhw'n creu eu rhwydweithiau eu hunain a rhaglenni ar y cyd i hwyluso newid. Fel yr ydym wastad wedi'i ddweud, ni all yr agenda hwn fod yn gamp gystadleuol - dim ond cydweithio fydd yn ennill. Ac rydym yn credu bod y neges hon yn dechrau treiddio.

Mae ein rhaglen cywain data wedi galluogi ni i daflu goleuni ar y meysydd y mae angen i'r diwydiant roi sylw iddynt, ynghyd â'm hargymhellion ar y ffordd orau o gyflawni'r newid hwnnw. Rydyn ni wedi gweld gwelliannau mewn cynrychiolaeth ar y sgrîn ac mae hynny'n braf i'w weld. Hefyd, ar draws gweithluoedd y darlledwyr rydym wedi gweld cynnydd yn y gynrychiolaeth o gyflogeion o grwpiau lleiafrifoedd ethnig a gostyngiad yn y bwlch rhwng y rhywiau o ran menywod ar lefel rheolaeth uwch - ond mae angen gwneud llawer mwy o waith i amrywiaethu rheolaeth uwch.

I wneud hyn mae angen i'r diwydiant newid ei ffocws o recriwtio er amrywiaeth yn unig, i gadw, cynyddu a dyrchafu ei weithlu presennol. Mae angen cynhwysedd gwell i ymdrin â'r sefyllfa o drosiant sy'n achosi i lawer o bobl o grwpiau a dangynrychiolir ymuno â'r diwydiant ac yna gadael ar ôl cyfnod byr. Yn awr felly, gadewch i ni gyd fynd ati a dechrau ar y gwaith caled o greu diwylliant cynhwysol ar draws y diwydiant.

(Noder bod y fideo isod ar gael yn Saesneg yn unig)

Related content