13 Rhagfyr 2021

Sut rydym yn paratoi i reoleiddio ar gyfer diogelwch ar-lein

Mae Camilla Bustani, Cyfarwyddwr, Rhyngwladol ac Ed Leighton, Cyfarwyddwr Strategaeth a Pholisi Dros Dro Ofcom, yn edrych ymlaen at ein rôl o reoleiddio ar gyfer diogelwch ar-lein ac yn nodi'r dulliau rheoleiddio y gallem eu cymryd ar gyfer y cyfrifoldeb newydd hwn.

Rydym yn gyffrous ynglŷn â'r posibilrwydd o ymgymryd â mwy o gyfrifoldebau dros helpu pobl i fyw bywyd mwy diogel ar-lein. Rydym ymhell i mewn i'n paratoadau ar gyfer y rôl newydd hon ac yn datblygu cysylltiadau â chyfres newydd o gwmnïau nad ydym wedi'u rheoleiddio o'r blaen.

Un o'r pethau yr ydym yn eu hystyried yw i ba raddau y bydd angen addasu ein technegau a dulliau rheoleiddio presennol i ateb yr heriau newydd sydd o'n blaenau.

Ein dull rheoleiddio

Mae Ofcom yn pennu rheolau ac arweiniad ar gyfer ystod o rannau gwahanol iawn o'r hyn sy'n gyfystyr â 'chyfathrebu', gan amrywio o wasanaethau telathrebu, teledu a radio, i wasanaethau post a sut y defnyddir y sbectrwm radio.

Ym mhob un o'r meysydd hynny, nid yw'r dull rheoleiddio a ddefnyddiwn o reidrwydd yn cael ei gyfeirio gan y sector yr ydym yn edrych arno. Mewn geiriau eraill, nid oes model gwasanaethau post, model telathrebu, na model darlledu, er enghraifft. Yn hytrach, gallwn ddefnyddio amrywiaeth o ymagweddau gwahanol sy'n seiliedig ar yr her reoleiddio y mae angen ei datrys.

Felly, sut mae gwneud hyn? Rydym yn dechrau drwy sefydlu barn glir am yr hyn rydym yn ceisio'i gyflawni. Weithiau, mae'r amcan hwnnw wedi'i nodi'n benodol gan Senedd y DU – mae'r Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyffredinol Post yn enghraifft dda, lle mae amlder gofynnol dosbarthu llythyrau wedi'i bennu mewn statud.

Ar adegau eraill, mae gennym y disgresiwn i gydbwyso ystod o amcanion er mwyn dod o hyd i'r canlyniad gorau i bobl – er enghraifft hyrwyddo buddsoddiad yn y rhwydweithiau band eang diweddaraf, cyflymaf, tra bod angen sicrhau prisiau fforddiadwy a thriniaeth deg i gwsmeriaid, er mwyn galluogi pobl i ymgymryd â'r gwasanaethau cyflymach.

Gan ddibynnu ar ein hamcan, efallai y byddem yn pennu set o reolau rhagnodol sy'n nodi sut y dylai cwmnïau a reoleiddir weithredu, a monitro eu cydymffurfiaeth â'r rheini. Neu, efallai y byddwn yn cyhoeddi gwybodaeth fel y gall defnyddwyr y gwasanaethau hyn ffurfio eu barn eu hunain a phleidleisio gyda'u traed, gan annog cwmnïau i ymateb i bwysau gan ddefnyddwyr. Fel arall, efallai y bydden yn sefydlu rhai egwyddorion ac arweiniad lefel uchel ac yn cyhoeddi arfer gorau ar gyfer y diwydiant, y byddai darparwyr gwasanaethau yn cael eu hannog i ymrwymo iddynt.

Gellir galw pob un o'r rhain yn 'fodel' o reoleiddio, a dyma beth fyddwn yn defnyddio. Mae'n amrywio o fodelau rhagnodol iawn lle mae rheoleiddio'n llunio ac yn gosod y safon ar gyfer diwydiant, hyd at fodelau cyffwrdd ysgafn lle mae diwydiant yn gweithio i osod y bar drosto'i hun, yn seiliedig ar rywfaint o ganllawiau lefel uchel gennym ni.

Beth fydd yn llywio ein dull gweithredu

Felly, pa offer y byddwn yn eu defnyddio wrth gyflawni ein rôl newydd o ran rheoleiddio diogelwch ar-lein? Wrth ateb y cwestiwn hwn byddwn yn ystyried ffactorau fel:

  • A ydym yn mynd i'r afael â phroblemau gydag un cwmni, neu niwed / budd a all ddod o'r diwydiant cyfan?
  • Pa mor gyson yw cymhellion masnachol i gyflawni'r amcanion a ddymunir?
  • Pa mor ddifrifol neu frys yw'r niwed i ddefnyddwyr neu gynulleidfaoedd?
  • Pa mor fawr neu systemig yw'r wybodaeth yn anghymesur rhyngom ni a'r sector a reoleiddir?
  • A oes cyfyngiadau cyfreithiol, sgiliau neu gapasiti eraill a allai wneud rhai dulliau'n llai effeithiol?

Wrth fynd drwy'r cwestiynau hyn, rydym yn cydnabod bod modelau busnes y llwyfannau ar-lein yn amrywiol, yn gymhleth ac yn newid yn gyflym - yn sicr o'u cymharu â modelau busnes cymharol sefydledig y cwmnïau telathrebu a'r darlledwyr yr ydym eisoes yn eu rheoleiddio. Ar yr un pryd, rydym yn cydnabod bod llwyfannau ar-lein yn gyffredinol wedi dod i fodolaeth a thyfu i fyny yn weddol rydd o'r math o reoleiddio y byddant yn ei wynebu cyn bo hir. Nid edrychwyd yn fanwl ar lawer iawn o'r hyn sy'n digwydd yn swyddfeydd cefn y cwmnïau hyn, ac mae gan lawer o'r cwmnïau hyn brofiad cyfyngedig neu ddim profiad o gael eu rheoleiddio. Ceir anghymesuredd gwybodaeth ar y ddwy ochr.

Mae hyn i gyd yn dweud wrthym nad yw rheolau rhagnodol gwifrau caled yn debygol o weithio, gan y bydd angen i reoleiddio fod yn niwlog a bydd angen iddo ymateb i newidiadau mewn cynhyrchion a gwasanaethau, arferion defnyddwyr a niwed.

Mae hynny'n golygu y bydd angen i'r drefn reoleiddio fod yn iteraidd. I ryw raddau, byddwn ni, a'r llwyfannau rydym yn eu rheoleiddio, yn dysgu wrth ein gwaith am yr hyn sy'n gweithio a'r hyn nad yw'n gweithio. Er mwyn dysgu'n gyflym, a sicrhau bod ein dulliau rheoleiddio yn parhau i gael eu targedu a'u cymesur, bydd angen i ni ddefnyddio gwybodaeth arbenigwyr, gan gynnwys o'r byd academaidd a chymdeithas sifil, a chan gyrff rheoleiddio eraill, yn ogystal â chan y cwmnïau a reoleiddir eu hunain. Bydd hyn yn ymdrech ar y cyd.

"Bydd angen i reoleiddio ymateb i'r newidiadau mewn cynnyrch a gwasanaethau, arferion defnyddwyr a niwed"

Wrth wraidd y drefn newydd bydd cynyddu tryloywder busnesau a gweithrediadau cwmnïau ar-lein i'w defnyddwyr ac i ni fel y rheoleiddiwr. Dylai mwy o dryloywder helpu i rymuso pobl i wneud penderfyniadau gwybodus am sut maent yn defnyddio gwasanaethau ar-lein. Dylai hefyd ein helpu i sicrhau bod y codau ymarfer a gynhyrchwn yn cael eu targedu, yn gadarn, yn gymesur ac yn effeithiol.

Yn y cyd-destun hwn, rhagwelwn y bydd angen deialog barhaus gyda'r cwmnïau y byddwn yn eu rheoleiddio. Mae gosod dyletswydd gofal ar gwmnïau ar-lein i sicrhau bod eu systemau'n hyrwyddo diogelwch defnyddwyr yn ei gwneud yn ofynnol iddynt gymryd mwy o gyfrifoldeb am asesu'r hyn sy'n ofynnol ganddynt. Mae hyn hefyd yn golygu y bydd cydymffurfio â'r gyfraith yn fwy nag ymarfer ticio blychau. Yn yr un modd, nid ydym yn rhagweld y bydd un fformiwla ar gyfer cyflawni'r ddyletswydd gofal honno, y gallwn farnu eu perfformiad yn eu herbyn a'u dwyn i gyfrif. Bydd angen ymgysylltu'n ddwfn ar y ddwy ochr, ond gall weithio os ydym ni a'r cwmnïau'n glir am yr amcanion yr ydym yn eu dilyn.

Bydd yn heriol, ond rydym yn barod i wynebu'r heriau hyn, ac rydym yn edrych ymlaen at daclo nhw gyda'n gilydd.

Cynnwys Cysylltiedig