19 Gorffennaf 2021

Rhoi arloesedd wrth wraidd dyfodol diwifr y DU

Heddiw mae Ofcom wedi cyhoeddi ei strategaeth ar gyfer sut y byddwn yn rheoli tonnau awyr y DU dros y deng mlynedd nesaf, gan nodi sut y bydd cefnogi arloesedd wrth wraidd ein gwaith yn y maes hwn.

Mae pobl a busnesau'n dibynnu ar wasanaethau cyfathrebu diwifr bob dydd. Maent yn helpu i gyflwyno ein newyddion, cysylltu ni â ffrindiau a theulu, awtomeiddio ffatrïoedd a gweithleoedd, cefnogi gwasanaethau cyhoeddus a galluogi ni i fonitro'r amgylchedd naturiol.  Ac mae gan Ofcom y dasg o reoli'r adnodd meidraidd hwn, i sicrhau y caiff ei ddefnyddio er budd gorau pawb yn y DU - gan helpu i sicrhau bod cyfathrebiadau'n gweithio i bawb.

Mae ein strategaeth newydd – Cefnogi dyfodol diwifr y DUyn esbonio sut rydym yn bwriadu gwneud hyn, gan sicrhau y gall pawb gael mynediad i'r tonnau awyr sydd eu hangen arnynt i arloesi a dod â gwasanaethau gwell at y bobl sy'n defnyddio nhw.

Mae'n amlinellu gweledigaeth uchelgeisiol sydd â ffocws ar ysgogi gwelliannau parhaus mewn gwasanaethau diwifr. Ei nod yw helpu busnesau a sefydliadau sydd ag anghenion sbectrwm arbenigol i gael mynediad i'r tonnau awyr y mae arnynt eu hangen; darparu opsiynau hyblyg i gefnogi arloesedd; a sicrhau'r defnydd effeithlon o sbectrwm er mwyn iddo barhau i drawsnewid y ffordd yr ydym yn byw ac yn gweithio.

Ein gweledigaeth ar gyfer rheoli sbectrwm:

Ein hamcanion allweddol: gwelliannau parhaus yn y cyfathrebiadau di-wifr a ddefnyddir gan bawb, ble bynnag a phryd bynnag y byddant yn eu defnyddio; busnesau, y sector cyhoeddus a sefydliadau eraill sydd â gofynion arbenigol i allu cael gafael ar y cyfathrebu di-wifr cywir neu opsiynau sbectrwm ar eu cyfer; mwy o hyblygrwydd o ran defnyddio sbectrwm i gefnogi arloesedd, gyda sicrwydd priodol ar gyfer defnydd parhaus; gwelliannau parhaus yn effeithlonrwydd y defnydd o sbectrwm

I gyflawni ein gweledigaeth, byddwn yn canolbwyntio ar dri maes.

  • Cefnogi arloesedd di-wifr: gan gynnwys galluogi i donnau awyr penodol gael eu defnyddio i arloesi wrth i drafodaethau fynd rhagddo ar eu defnydd hir dymor; dylanwadu ar safonau rhyngwladol a gweithio gydag ystod eang o sefydliadau a allai elwa o wasanaethau diwifr yn y dyfodol.
  • Trwyddedu i weddu i wasanaethau lleol a chenedlaethol: edrych ar ddulliau pellach o roi mynediad i sefydliadau i sbectrwm ar sail leol. Bydd hyn o fudd i fusnesau fel ffatrïoedd, ffermydd a meysydd awyr anghysbell, nad oes angen iddynt ddefnyddio sbectrwm ar draws y DU gyfan, ar yr un pryd â chefnogi gwasanaethau mwy o ran maint sydd angen mynediad ar draws y wlad, fel gwasanaethau symudol.
  • Hyrwyddo rhannu sbectrwm: annog defnyddwyr i rannu sbectrwm gydag eraill - gan gynnwys amleddau uwch - er mwyn iddo gael ei ddefnyddio mor effeithlon â phosib. Gall technoleg newydd a data gwell gefnogi hyn - gan alluogi rhwydweithiau diwifr i fod yn fwy cydnerth i ymyriad gan ddefnyddwyr eraill.

Ar ôl i'r strategaeth gael ei chyhoeddi, byddwn yn cydweithio'n agos â busnesau, cyrff cyhoeddus a sefydliadau eraill i'w rhoi ar waith a chwarae ein rhan wrth siapio dyfodol diwifr y DU.

Gweithio ar y cyd i alluogi buddion byd-eang

Rhan ganolog o waith sbectrwm Ofcom yw rhoi blaenoriaeth i faterion byd-eang. Yn gynharach y mis yma cynhaliodd Ofcom ddigwyddiad rhithwir rhyngwladol - Dyfodol Diwifr: Heriau Rheoli Sbectrwm Byd-eang. Daeth hyn â 200 o fynycheion ynghyd o Ewrop, Affrica, Asia a'r Môr Tawel a chyfandir America i drafod heriau gwneud i sbectrwm weithio'n galetach ar draws y byd trwy hwyluso mwy o rannu sbectrwm, a chreu gwasanaethau diwifr newydd ar gyfer pobl a busnesau.

Oherwydd natur ryngwladol rheoli sbectrwm mae angen sgwrs fyd-eang, ac roedd mwy na hanner cynulleidfa'r digwyddiad yn rheoleiddwyr a rhanddeiliaid o dramor. Roedd Ofcom yn gallu rhannu astudiaethau achos o ble rydym wedi annog ymagweddau arloesol at sefydliadau sy'n rhannu sbectrwm, gan gynnwys agor bandiau amledd uchel eithriadol i fyny ar gyfer technolegau newydd.

Beth yw sbectrwm?

Allwch chi ddim weld na theimlo sbectrwm radio. Ond mae angen sbectrwm ar bob dyfais sy’n cyfathrebu’n ddiwifr – boed hynny’n setiau teledu, yn allweddi car digyswllt, monitorau babis, meicroffonau diwifr a lloerennau. Mae ffonau symudol yn defnyddio sbectrwm i gysylltu â mast lleol er mwyn i bobl allu gwneud galwadau ffôn a defnyddio'r rhyngrwyd.

Pam mae Ofcom yn rheoli sbectrwm?

Dim ond hyn a hyn o sbectrwm sydd ar gael, felly mae angen ei reoli’n ofalus. Mae bandiau penodol o sbectrwm yn cael eu defnyddio at ddibenion gwahanol hefyd. Er enghraifft, mae cwmnïau symudol yn defnyddio rhannau gwahanol o'r sbectrwm i gwmnïau teledu. Felly, mae angen ei reoli i sicrhau nad oes ymyrraeth ar wasanaethau ac nad oes amharu ar bobl ac ar fusnesau.

Rhoi barn am y dudalen hon

Oedd y dudalen hon yn ddefnyddiol?

See also...