16 Tachwedd 2021

Datgelu’r cwynion diweddaraf am ddarparwyr telathrebu a theledu drwy dalu

Heddiw mae Ofcom wedi cyhoeddi'r tablau cynghrair diweddaraf ar y cwynion rydym yn eu derbyn ynghylch prif gwmnïau ffôn cartref, band eang, symudol a theledu-drwy-dalu y DU.

Mae’r adroddiad chwarterol yn datgelu nifer y cwynion a wnaed i Ofcom rhwng mis Ebrill a mis Mehefin eleni, pan ddechreuodd cyfyngiadau cyfnod clo y DU lacio.

Gostyngodd cwynion yn y chwarter hwn yn gyffredinol i lefelau a welwyd cyn y pandemig Covid-19.

Gwelwyd nifer y cwynion am Virgin Media yn benodol yn gostwng yn sylweddol ar draws pob un o'r pedwar sector, ar ôl i Ofcom godi pryderon gyda'r darparwr am ei wasanaeth i gwsmeriaid yn y chwarter blaenorol.

Er hynny, nhw oedd y darparwr teledu-drwy-dalu a dderbyniodd y nifer uchaf o gwynion o hyd. Y prif reswm dros gwynion gan gwsmeriaid i Virgin Media oedd y ffordd y mae'r cwmni'n trin eu cwynion.

Cynhyrchodd TalkTalk y nifer uchaf o gwynion ar gyfer band eang a llinell dir, yn bennaf o ganlyniad i ddiffygion a phroblemau gwasanaeth.

Virgin Mobile oedd y gweithredwr symudol y cwynwyd fwyaf amdano, ochr yn ochr â Three a Vodafone; roedd Tesco Mobile, BT Mobile, Sky Mobile, EE ac O2 i gyd yn gyfartal fel y gweithredwyr y cwynwyd leiaf amdanynt.

EE a Sky oedd y darparwyr band eang a llinell dir y cwynwyd leiaf amdanynt, a bu i Sky ddenu'r nifer isaf o gwynion ar gyfer teledu-drwy-dalu.

Mae Shell Energy yn cael ei gynnwys yn ein hadroddiad cwynion am y tro cyntaf ar ôl iddynt brynu busnes telathrebu Swyddfa'r Post.

Mae'n galonogol i weld y ffigurau cwynion yn cwympo'n gyffredinol i'r lefelau a fu cyn y pandemig, ond ni all darparwyr orffwys ar eu bri o ran eu gwasanaeth i gwsmeriaid.

Mae gan y rhai sydd â nifer cyson uchel o gwynion gryn dipyn o waith i'w wneud o hyd i sicrhau eu bod yn bodloni disgwyliadau eu cwsmeriaid.

Meddai Fergal Farragher, Cyfarwyddwr Diogelu Defnyddwyr Ofcom

Mae'r wybodaeth a gyhoeddwn am gwynion yn helpu pobl i gymharu cwmnïau wrth siopa o gwmpas am ddarparwr newydd ac yn annog cwmnïau i wella'u perfformiad. Mae ein hyb ansawdd gwasanaeth yn cynnig gwybodaeth bellach ar sut y gall pobl ddewis y darparwr sydd orau iddynt.

Er na all Ofcom ddatrys cwynion unigol, rydym yn cynnig cyngor i ddefnyddwyr, ac mae'r wybodaeth a dderbyniwn yn gallu arwain at lansio ymchwiliadau.

Dylai unrhyw un sy'n cael problemau gwyno i'w darparwr yn y lle cyntaf. Os ydynt yn anfodlon ar y canlyniad, gall pobl fynd â'r gŵyn at ombwdsmon annibynnol, a fydd yn archwilio'r achos ac yn gwneud dyfarniad arno.

Cwynion ynglŷn â band eang yn y cartref fesul 100,000 o gwsmeriaid

Table showing broadband complaints per 100,000 subscribers. It illustrates the providers receiving the fewest complaints at the top of the table and those receiving the most complaints are placed at the bottom of the table. The results are as follows: EE 4, Sky 5, BT 10, Industry average 12, Vodafone 13, Shell Energy 13, Plusnet 15, Virgin Media 17, TalkTalk 19.

Cwynion ynglŷn â ffôn llinell dir fesul 100,000 o gwsmeriaid

Table showing landline complaints per 100,000 subscribers. It illustrates the providers receiving the fewest complaints at the top of the table and those receiving the most complaints are placed at the bottom of the table. The results are as follows: EE 2, Sky 3, BT 6, Vodafone 7, Industry average 7, Plusnet 8, Virgin Media 10, Shell Energy 10, TalkTalk 13.

Cwynion ynglŷn â ffonau symudol talu'n fisol fesul 100,000 o gwsmeriaid

Table showing mobile complaints per 100,000 subscribers. It illustrates the providers receiving the fewest complaints at the top of the table and those receiving the most complaints are placed at the bottom of the table. The results are as follows: Tesco Mobile 1, BT Mobile 1, Sky Mobile 1, EE 1, O2 2, Industry average 2, iD Mobile 2, Vodafone 3, Three 3, Virgin Mobile 4.

Cwynion am deledu trwy dalu fesul 100,000 o gwsmeriaid

Table showing Pay-tv complaints per 100,000 subscribers. It illustrates the providers receiving the fewest complaints at the top of the table and those receiving the most complaints are placed at the bottom of the table. The results are as follows: Sky 1, Industry average 4, TalkTalk 5, BT 6, Virgin Media 9.

Nifer cymharol y cwynion fesul gwasanaeth fesul 100,000 o danysgrifwyr

Graph showing trend data on residential consumer complaints received by Ofcom across landline, fixed broadband, pay-monthly mobile and pay TV services, by communications provider. It shows the relative volume of complaints per sector per 100,000 subscribers for the Q1 2011 – Q2 2021 period. The relative volume of complaints per 100,000 subscribers decreased for fixed broadband from 19 to 12, landline from 11 to 7, pay-monthly mobile from 3 to 2, and pay TV from 6 to 4.

NODIADAU I OLYGYDDION

  1. Roedd y gwahaniaeth mesuradwy gwirioneddol rhwng nifer o gwynion y darparwyr band eang sefydlog a ganlyn fesul 100,000 o ddarparwyr yn llai nag un ac felly dylid ystyried bod eu canlyniadau'n gymaradwy: 1. EE a Sky; a 2. Vodafone a Shell Energy.
  2. Roedd y gwahaniaeth mesuradwy gwirioneddol rhwng nifer o gwynion y darparwyr llinell dir a ganlyn fesul 100,000 o ddarparwyr yn llai nag un ac felly dylid ystyried bod eu canlyniadau'n gymaradwy: 1. EE a Sky; 2. BT a Vodafone; 3. Vodafone a chyfartaledd y diwydiant; a 4. Virgin Media a Shell Energy.
  3. Roedd y gwahaniaeth mesuradwy gwirioneddol rhwng nifer o gwynion y darparwyr symudol talu'n fisol a ganlyn fesul 100,000 o ddarparwyr yn llai nag un ac felly dylid ystyried bod eu canlyniadau'n gymaradwy: 1. Tesco Mobile, BT Mobile, Sky Mobile, EE ac O2; 2. Sky Mobile, EE, O2 a chyfartaledd y diwydiant; 3. EE, O2, cyfartaledd y diwydiant ac iD Mobile; 4. Cyfartaledd y diwydiant, iD Mobile, Vodafone a Three; a 5. Vodafone, Three a Virgin Mobile.
  4. Roedd y gwahaniaeth mesuradwy gwirioneddol rhwng nifer o gwynion TalkTalk a BT fesul 100,000 o ddarparwyr ar gyfer teledu-drwy-dalu'n llai nag un ac felly dylid ystyried bod eu canlyniadau'n gymaradwy.

Rhoi barn am y dudalen hon

Oedd y dudalen hon yn ddefnyddiol?

Related content