28 Medi 2021

Newid band eang yn symlach mewn cyn lleied ag un diwrnod

  • Proses newid band eang cyflymach, haws a mwy dibynadwy i'w chyflwyno o dan reolau newydd gan Ofcom
  • Mae'r newidiadau'n golygu mai dim ond cysylltu â'r cwmni newydd y bydd angen i gwsmeriaid preswyl ei wneud
  • Llai o drafferth wrth newid i gael bargen gwell neu wasanaeth cyflymach, mewn cyn lleied ag un diwrnod pan fo'n bosib

Bydd cwsmeriaid band eang a llinell dir yn ei chael yn haws newid darparwr a bachu bargen gwell nag erioed, o dan broses 'Newid Un Cam' newydd a gyhoeddwyd heddiw gan Ofcom.

Mae'r newid yn golygu mai dim ond cysylltu â'u cwmni newydd i newid y bydd angen i'r holl ddefnyddwyr band eang cartref - gan gynnwys cwsmeriaid cebl a ffeibr llawn - ei wneud, gan olygu nad oes angen siarad â'u darparwr presennol cyn symud.

Gall pobl eisoes newid rhwng darparwyr ar rwydwaith copr Openreach, megis BT, Sky a TalkTalk drwy ddilyn proses sy'n gweld eu darparwr newydd yn rheoli'r newid.

Ond am y tro cyntaf, bydd cwsmeriaid sy'n newid rhwng gwahanol rwydweithiau neu dechnolegau – er enghraifft, o ddarparwr sy'n defnyddio rhwydwaith Openreach i un sy'n defnyddio CityFibre, neu o Virgin Media i Hyperoptic – yn gallu defnyddio'r broses symlach.

Ar hyn o bryd, mae angen i'r cwsmeriaid hyn gysylltu â'u darparwr presennol a newydd i gydlynu'r newid, gan gynnwys ceisio pontio'r bwlch rhwng dod â'r hen wasanaeth i ben a chychwyn y gwasanaeth newydd.

Dangosodd ymchwil blaenorol gan Ofcom (PDF, 17.9 MB) fod pedwar o bob deg o bobl (41%) sy'n penderfynu yn erbyn newid wedi'u digalonni gan y drafferth o orfod cysylltu â mwy nag un darparwr. Penderfynodd nifer tebyg (43%) i beidio â newid gan iddynt gredu y bydd yn cymryd gormod o amser. Ac o'r rhai sydd yn newid, mae bron i chwarter (24%) sy'n cysylltu â'u darparwr presennol yn gorfod delio ag ymdrechion dieisiau i'w darbwyllo i aros.

Sut y bydd yn gweithio

Bydd y broses 'un cam' newydd yn ei gwneud yn haws cael pecyn cyflymach, bargen rhatach neu wasanaeth cwsmeriaid gwell pan fyddwch yn newid darparwr. Bydd hefyd yn ei wneud yn gyflymach – un diwrnod yn unig pan fydd yn dechnegol bosib.

  1. Bydd cwsmer yn cysylltu â'r darparwr newydd o'i ddewis ac yn rhoi eu manylion.
  2. Yna, mae'r cwsmer yn derbyn gwybodaeth bwysig gan eu darparwr presennol yn awtomatig. Mae hyn yn cynnwys unrhyw daliadau ar gyfer terfynu'r contract yn gynnar y gallai fod yn rhaid iddynt eu talu, a sut y gallai'r newid effeithio ar wasanaethau eraill sydd gan y cwsmer gyda'r cwmni.
  3. Os yw'r cwsmer am fwrw ymlaen, bydd y darparwr newydd wedyn yn rheoli'r newid.

O dan ein rheolau newydd, bydd yn rhaid i ddarparwyr hefyd ddigolledu cwsmeriaid os bydd pethau'n mynd o chwith a'u bod yn cael eu gadael heb wasanaeth am fwy nag un diwrnod gwaith. Ac rydym wedi gwahardd taliadau cyfnod rhybudd y tu hwnt i'r dyddiad newid.

Mae'n rhaid bod pob darparwr wedi rhoi'r broses 'Newid Un Cam' ar waith erbyn mis Ebrill 2023. Bydd hyn yn golygu gwneud newidiadau sylweddol i'w systemau a bydd angen i ystod eang o gwmnïau weithio ar y cyd. Felly, rydym wedi egluro i'r diwydiant fod yn rhaid i'r gwaith ddechrau ar unwaith i gwrdd â'r terfyn amser.

Mae cyllidebau aelwydydd o dan straen ar hyn o bryd, felly gallai newid darparwr band eang helpu i gadw'ch biliau i lawr.

Rydym yn ei gwneud mor hawdd â phosib i chi adael eich darparwr band eang a manteisio ar y bargeinion sydd ar gael.

Lindsey Fussell, Cyfarwyddwr Grŵp Rhwydweithiau a Chyfathrebu Ofcom

Gwybodaeth gyswllt

Os ydych yn newyddiadurwr sydd am gysylltu â thîm cyfryngau Ofcom:

Ffoniwch: +44 (0) 300 123 1795 (newyddiaduron yn unig)

Gyrrwch eich ymholiad atom (newyddiaduron yn unig)

Os ydych yn aelod o'r cyhoedd sydd eisiau cyngor neu gwyno i Ofcom:

Related content