9 Tachwedd 2021

Yn galw ar yr holl ddefnyddwyr ffôn talu: miloedd o flychau ffôn ar fin cael eu diogelu

  • Cynlluniau i ddiogelu ffonau talu mewn ardaloedd sydd â signal symudol gwael neu gyfraddau damweiniau uchel
  • Hefyd, diweddariad i'r rheolau i gefnogi dyfeisiau ar y stryd sy’n cynnig galwadau, Wi-Fi a gwefru am ddim
  • Os nad oes angen ffôn talu mwyach, gall cymunedau ailddefnyddio'r ciosgau coch tirnod

Bydd miloedd o flychau ffôn hanfodol ledled y DU yn cael eu diogelu rhag cael eu cau, o dan gynlluniau a gyhoeddir gan Ofcom heddiw.

Gyda 96% o oedolion bellach yn berchen ar ffôn symudol a’r signal symudol yn gwella’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r ffordd y mae pobl yn gwneud galwadau’n newid.

Fel rhan o symud i linellau ffôn digidol, sy’n golygu y bydd angen buddsoddi i uwchraddio blychau ffôn, mae BT ar hyn o bryd yn asesu pa rai ohonynt nad oes eu hangen mwyach ac a all gael eu datgomisiynu. Ond o dan y broses bresennol ar gyfer dileu ffonau talu, mae risg y bydd rhai sydd eu hangen ar gymunedau lleol yn cael eu tynnu ymaith.

Felly mae Ofcom yn cynnig rheolau cliriach a chryfach i ddiogelu blychau ffôn rhag cael eu tynnu ymaith, os oes unrhyw un o bedwar maen prawf yn berthnasol:

  • nid yw’r lleoliad eisoes yn derbyn signal gan bob un o'r pedwar rhwydwaith symudol; neu
  • mae llawer o ddamweiniau neu achosion o hunanladdiad wrth y lleoliad; neu
  • os gwnaed mwy na 52 o alwadau ohono dros y 12 mis diwethaf; neu
  • os oes amgylchiadau eithriadol sy'n golygu bod angen blwch ffôn cyhoeddus.[1]

Rydym yn amcangyfrif y byddai tua 5,000 o flychau ffôn ledled y DU yn cael eu diogelu rhag cael eu tynnu ymaith o dan y rheolau newydd. Gall BT a KCOM wneud cynnig i dynnu ymaith y blychau ffôn nad ydynt yn dod o dan y meini prawf llym hyn, ond byddai angen iddynt ymgynghori’n ffurfiol â chymunedau lleol cyn cymryd unrhyw gamau.

Mae rhai o'r blychau ffôn rydym yn bwriadu eu diogelu'n cael eu defnyddio i wneud nifer cymharol isel o alwadau. Ond os yw un o'r galwadau hynny gan blentyn mewn trallod, rhywun sydd wedi cael damwain neu rywun sy'n meddwl am ladd eu hunan, gall y ffôn cyhoeddus hwnnw fod yn llinell fywyd ar adeg o angen enbyd.

Rydyn ni eisiau sicrhau hefyd y gall pobl nad oes ganddynt signal symudol, sydd yn aml mewn ardaloedd gwledig, wneud galwadau o hyd. Ar yr un pryd, rydym yn bwriadu cefnogi darpariaeth blychau ffôn newydd sydd â Wi-Fi a gwefru am ddim.

Selina Chadha, Cyfarwyddwr Cysylltedd Ofcom

O dan ein cynlluniau, mae'n rhaid i BT a KCOM – sy'n gweithredu blychau ffôn gwyn unigryw Hull – hefyd osod batris mewn rhai ffonau talu, fel y gellir eu defnyddio o hyd yn ystod toriad trydan.

Pwy sy'n defnyddio ffonau talu o hyd?

Ar hyn o bryd mae tua 21,000 o flychau ffôn ledled y wlad. I bobl sydd heb fynediad i ffôn symudol, neu mewn ardaloedd sydd â signal symudol gwael, gall y rhain fod yn llinell fywyd ar gyfer gwneud galwadau i ffrindiau a theulu, gwasanaethau llinell gymorth a chael mynediad at y gwasanaethau brys.

Gwnaed bron 150,000 o alwadau i'r gwasanaethau brys o flychau ffôn yn y flwyddyn hyd at fis Mai 2020, gwnaed 25,000 o alwadau i Childline a 20,000 i'r Samariaid.

Ar yr un pryd, mae'r gwasanaethau sydd eu hangen ar bobl gan flychau ffôn cyhoeddus yn newid. Mae maint y galwadau wedi gostwng o tuag 800m o funudau yn 2002 i ddim ond 7m yn 2020. Mae cenhedlaeth newydd o hybiau stryd sy'n cael eu cyflwyno gan BT yn darparu gwasanaethau fel Wi-Fi a gwefru am ddim.

Felly rydym yn cynnig y dylid caniatáu mwy o hyblygrwydd i BT a KCOM o ran yr amrywiaeth o wasanaethau y gallant eu darparu yn eu blychau ffôn, er mwyn cadw i fyny ag anghenion pobl.[2]

Esblygiad y blwch ffôn cyhoeddus

Esblygiad y blwch ffôn cyhoeddus

BT and KCOM provide around 21000 public call boxes across the U K.  5 million calls were made from them last year, 150000 were emergencies, 25000 were to childline and 20k to samaritans. Calls have decreased from 800m minutes in 2002 to 7 million in 2020. Since BT launched its adopt a kiosk scheme over 6000 kiosks have been converted into defibrillators and libraries.

Nodiadau i olygyddion

  1. Amgylchiadau eithriadol: Gallai'r categori hwn gynnwys materion sy'n berthnasol i leoliad daearyddol y blwch ffôn (er enghraifft lleoliad ar yr arfordir lle mae'r signal symudol yn fregus); yn ogystal â'r mathau o alwadau sy’n cael eu gwneud o'r ffôn, megis i rifau llinellau cymorth.
  2. Ers nifer o flynyddoedd mae BT wedi bod yn datgomisiynu ffonau talu y mae wedi asesu nad oes eu hangen mwyach. Er hynny, gall awdurdodau lleol sydd am gadw'r ciosgau coch eiconig ddefnyddio cynllun 'Mabwysiadu Ciosg' BT. O dan y cynllun, gall cyrff lleol brynu ciosg coch am £1 a'i ddefnyddio at ddiben arall. Ers i BT lansio'r cynllun, mae dros 6,000 o ciosgau wedi cael eu trawsnewid i ystod o wahanol ddefnyddiau, megis llyfrgelloedd cymunedol neu fel cartref i beiriannau diffibrilio a all achub bywydau.
  3. Rydym hefyd yn ymgynghori ar ddileu'r gofyniad i ddarparu gwasanaeth ffacs.

Related content