27 Hydref 2021

Diweddariad Ofcom ynghylch isdeitlo ar Channel 4

Wedi methiant dros gyfnod hir, mae isdeitlau bellach wedi eu hadfer ar nifer o raglenni Channel 4. Fodd bynnag, nid yw arwyddo na disgrifiad sain ar gael o hyd ar sianeli’r darlledwr.

Rydym yn bryderus iawn o hyd am raddfa'r methiannau technegol a brofwyd gan Channel 4 a faint o amser a gymerwyd i'w cywiro. Mae'r problemau hyn wedi achosi gofid a rhwystredigaeth difrifol ymhlith pobl sy'n fyddar, yn drwm eu clyw, yn ddall neu'n rhannol ddall.

Nid oedd gan Channel 4 fesurau gwneud copi wrth gefn cryf, ac ni ddylai fod wedi cymryd sawl wythnos i ddarparu cynllun cyhoeddus a llinell amser glir ar gyfer datrys y broblem.

Rydym yn disgwyl i Channel 4 gyflawni – neu gyflymu – yr amserlen y mae wedi'i gosod ar gyfer adfer ei holl isdeitlo a gwasanaethau mynediad eraill.

Pan wneir hyn, bydd Ofcom yn adolygu'r offer a'r cyfleusterau a oedd gan Channel 4 - a'r hyn sydd ganddynt yn eu lle nawr, fel y gellir dysgu gwersi.

Byddwn yn ystyried pa gamau y gallai fod eu hangen i sicrhau nad yw darlledwyr yn cael eu hunain yn y sefyllfa hon eto, a bod darpariaeth isdeitlo a disgrifiad sain yn parhau’n ddibynadwy waeth pa broblemau a allai ddigwydd i'r seilwaith darlledu a ddefnyddir i'w darparu.

Related content