22 Medi 2021

Ein hymchwil i iaith dramgwyddus ar deledu a radio - pam rydym yn ei gwneud a pham mae'n bwysig

Heddiw rydym wedi cyhoeddi ein hymchwil ddiweddaraf i agweddau pobl at iaith dramgwyddus ar deledu a radio.

Mae'r ymchwil hon yn rhoi teimlad i ni o sut mae pobl yn teimlo am yr iaith y byddant efallai'n dod ar ei thraws mewn rhaglenni y maent yn eu gwylio neu'n gwrando arnynt. Mae'n gallu cefnogi darlledwyr wrth iddynt gynllunio eu cynnwys ac mae'n helpu ni pan fydd angen i ni wneud penderfyniadau ynghylch cynnwys mewn rhaglenni a allai fod yn dramgwyddus.

Nid yw'r canfyddiadau yn ein hymchwil yn adlewyrchu barn Ofcom ar iaith dramgwyddus - maent yn seiliedig ar beth mae pobl yn dweud wrthym am sut y maent yn teimlo.

Eleni bu i ni siarad â detholiad ehangach a mwy amrywiol o bobl nag erioed o'r blaen, gan gynnwys mwy na 600 o bobl o bob oedran a chefndir ledled y DU, yn ogystal â phobl o amrywiaeth o grwpiau a chymunedau lleiafrifol. Gwnaethom hefyd ymchwilio i farn benodol aelodau o'r cymunedau Iddewig a Tsieineaidd am iaith dramgwyddus am y tro cyntaf.

Bydd y canfyddiadau hyn yn helpu darlledwyr i ddeall disgwyliadau cynulleidfaoedd am y defnydd o iaith a allai fod yn dramgwyddus yn eu rhaglenni yn well, a pha gamau y gallai fod angen iddynt eu cymryd i ddiogelu gwylwyr a gwrandawyr.

Gweler hefyd...

Mae datganiad newyddion a rhagair i'r ymchwil ar gael. Noder bod yr adroddiad Saesneg llawn yn cynnwys - yn gyfan gwbl a heb ei sensro - yr iaith a therminoleg y gwnaethom ofyn i bobl roi eu barn arnynt. Gan hynny, mae'n bosib y bydd rhai darllenwyr yn cael eu tramgwyddo gan rywfaint o gynnwys yr adroddiad.

Ein canfyddiadau

Dywedodd pobl wrthym eu bod eisiau o hyd i ddarlledwyr ystyried yn ofalus pryd, a sut, y defnyddir iaith dramgwyddus. Ond mae llawer yn cydnabod y gall, yn y cyd-destun cywir, chwarae rhan bwysig mewn rhaglenni.

Roedd gan ein hymatebwyr bryderon llai ynglŷn â'r defnydd o'r iaith gryfaf, ar yr amod ei bod yn cael ei darlledu ar ôl y trothwy a bod rhieni'n cael digon o rybuddion a gwybodaeth i'w helpu i benderfynu beth mae eu plant yn ei weld a'i glywed.

Roedd ymddiheuriadau amserol, diffuant, hefyd yn bwysig mewn achosion lle darlledwyd iaith dramgwyddus yn ddamweiniol.

Fodd bynnag, dywedodd cynulleidfaoedd fod ganddynt bryderon mwy difrifol am iaith wahaniaethol ar deledu a radio – yn enwedig o ran hil.

Gwnaethant gyfeirio at yr agweddau sylfaenol y mae iaith wahaniaethol yn eu hadlewyrchu, ac roedd ganddynt ddisgwyliadau uwch y byddai hyn yn cael ei osgoi. Dywedon nhw wrthym, pan fydd mathau cryf o iaith wahaniaethol yn ymddangos mewn rhaglenni, eu bod yn disgwyl i ddarlledwyr wneud eu gorau glas i'w roi yn ei gyd-destun yn ofalus a helpu i ddiogelu gwylwyr a gwrandawyr rhag y tramgwydd y gall ei achosi.

Pam mae'n bwysig

Isod, mae Adam Baxter, Cyfarwyddwr Ofcom, Safonau a Diogelu Cynulleidfaoedd, yn esbonio'r rhesymau dros yr ymchwil a sut y gall y canfyddiadau helpu darlledwyr i wneud penderfyniadau ynghylch darlledu iaith dramgwyddus a chynnwys arall.

Mae teledu a radio yn rhan fawr o bwy ydym ni fel cenedl – maent yn ganolog i'n diwylliant a'n hunaniaeth gyfunol, a hynny yn arbennig yn ystod y 18 mis diwethaf. Gyda llawer ohonom wedi'n gorfodi i dreulio cyfnodau hir gartref, gyda chyfleoedd cyfyngedig i weld ffrindiau a theulu, mae niferoedd digynsail wedi tiwnio i mewn i gadw ein hunain yn ddiddan ac yn wybodus ac er mwyn tynnu sylw oddi wrth heriau'r pandemig.

Mae ein darlledwyr yn darparu ystod enfawr o raglenni drama, realiti, comedi, dogfen a newyddion sydd yn aml yn gallu ysgogi adweithiau ac emosiynau pegynol gan gynulleidfaoedd. Mae'n iawn bod pobl yn disgwyl safonau penodol ar deledu a radio – ac mae hynny'n golygu dweud eu dweud pan fyddant yn dod ar draws rhywbeth sy'n eu poeni nhw. Dyna lle mae gennym ni rôl.

Yn Ofcom, un o'n prif gyfrifoldebau yw gosod a gorfodi rheolau ar gyfer teledu a radio darlledu – er mwyn diogelu cynulleidfaoedd rhag cynnwys niweidiol a thramgwyddus, ac ar yr un pryd parchu hawliau i ryddid mynegiant. Mae gwylwyr a gwrandawyr wrth wraidd yr hyn a wnawn. Er mwyn i'n rheolau barhau'n berthnasol ac yn effeithiol, mae'n bwysig i ni wrando a deall o lygad y ffynnon yr hyn y mae pobl yn ei gael yn dramgwyddus a sut mae agweddau'n newid dros amser. Ers ein ton olaf o ymchwil debyg bum mlynedd yn ôl, mae wedi bod yn hynod ddiddorol gweld sut mae chwaeth a goddefiannau wedi symud neu, yn wir, wedi aros yr un fath.

Eleni, rydym wedi ymgysylltu â detholiad ehangach a mwy amrywiol o wylwyr a gwrandawyr nag erioed o'r blaen. Roedd hyn yn cynnwys oedolion o bob oedran, yn byw ledled y DU, yn ogystal â rhai o amrywiaeth o grwpiau a chymunedau lleiafrifol – gan gynnwys pobl Dduon a Caribïaidd, pobl Indiaidd, Pacistanaidd a Bangladeshaidd, pobl anabl, a'r cymunedau LHDTC+ a Sipsiwn a Theithwyr. Gwnaethom hefyd ehangu ein grwpiau ffocws i gynnwys sesiynau pwrpasol gydag aelodau o'r cymunedau Iddewig a Tsieineaidd am y tro cyntaf.

Dywedodd cynulleidfaoedd wrthym, er eu bod am i ddarlledwyr roi ystyriaeth ofalus i pryd a sut y defnyddir iaith dramgwyddus ar y teledu a'r radio, iddynt bwysleisio'r rôl bwysig y gall ei chwarae ym maes darlledu. Soniodd cyfranogwyr, er enghraifft, am ddefnyddio iaith dramgwyddus er effaith ddramatig, er hiwmor, i adlewyrchu bywyd go iawn neu i hysbysu ac addysgu. Mae ein haseswyr cynnwys yn cydnabod hyn hefyd, ac rydym bob amser yn cymhwyso ein rheolau mewn ffordd sy'n ystyried rhyddid a mynegiant creadigol.

Mae'r ymchwil hefyd yn dangos tuedd barhaus o agweddau cynyddol hamddenol ynghylch defnyddio rhegfeydd. Roedd gan wylwyr a gwrandawyr bryderon cyfyngedig, cyn belled â bod yr iaith gryfaf yn cael ei darlledu ar ôl y trothwy a bod rhieni'n cael digon o wybodaeth i gyfeirio eu penderfyniadau am yr hyn y gallai eu plant ei wylio a gwrando arno.

Ar y llaw arall, gan adlewyrchu pryderon cynyddol mewn cymdeithas, dywedodd cynulleidfaoedd wrthym iddynt deimlo'n gynyddol bryderus am iaith wahaniaethol, yn enwedig o ran hil. Dywedodd gwylwyr a gwrandawyr eu bod yn disgwyl i ddarlledwyr fod yn hynod o ofalus i roi'r mathau cryfaf o iaith wahaniaethol yn eu cyd-destun er mwyn sicrhau bod cynulleidfaoedd yn cael eu diogelu.

Gwnaethom nodi hefyd, fodd bynnag, lawer o gyfranogwyr nad oeddent eisiau gweld yr holl raglenni hŷn â chynnwys a allai fod yn broblemus, yn diflannu o'n sgriniau'n llwyr. Unwaith eto, pwysleisiodd cynulleidfaoedd yn gyson fod cyd-destun, yn hyn o beth, yn allweddol. Pa raglen a sianel y cafodd ei darlledu arni? Ac ar ba amser? Beth fyddai cynulleidfaoedd y sianel yn ei ddisgwyl? A roddwyd rhybudd neu wybodaeth arall i wylwyr am gynnwys a allai fod yn dramgwyddus i'w helpu i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch a ddylid troi'r rhaglen i ffwrdd?

Mae'n bwysig cofio nad oes unrhyw hawl absoliwt i beidio â chael ein tramgwyddo gan y pethau a welwn ac a glywn ar y teledu a'r radio. Yn yr un modd â hawliau i ryddid mynegiant, gall darlledwyr gynnwys deunydd yn eu rhaglenni a allai fod yn dramgwyddus ond, er mwyn aros o fewn ein rheolau, mae'n rhaid iddynt sicrhau eu bod yn darparu cyd-destun a diogelwch digonol i gynulleidfaoedd.

Bydd y canfyddiadau hyn yn helpu darlledwyr i wneud y dyfarniadau hyn sydd yn aml ar fin y gyllell ac yn cyfeirio eu penderfyniadau am ddarlledu iaith dramgwyddus a chynnwys arall yn well. Mae'r adroddiad hefyd yn ein helpu ni yn Ofcom i ddeall a chymryd barn y gynulleidfa i ystyriaeth wrth wneud penderfyniadau cymhleth a thrwch blewyn am gynnwys a allai fod yn dramgwyddus ar y teledu a'r radio, ar yr un pryd â rhoi ystyriaeth lawn i ryddid mynegiant.

Rhoi barn am y dudalen hon

Oedd y dudalen hon yn ddefnyddiol?

Related content