10 Tachwedd 2021

Y Fforwm Cydweithredu ar Reoleiddio Digidol: gweithio dros well cydweithredu wrth reoleiddio llwyfannau ar-lein

Dyma Kate Davies, Cyfarwyddwr Polisi Cyhoeddus Ofcom, yn esbonio pam mae rheoleiddwyr yn gweithio ar y cyd i gwrdd â'r her ddigidol.

Ffurfiwyd y Fforwm Cydweithredu ar Reoleiddio Digidol (DRCF) yn 2020, gyda'r nod o sicrhau gwell cydweithredu wrth fynd i'r afael â'r heriau unigryw a berir gan reoleiddio llwyfannau ar-lein.

Ffurfiwyd y fforwm gan Ofcom, yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) a Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO). Roedd yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) yn aelod arsylwi o'r DRCF ers iddo ddechrau ac fe ymunodd fel aelod llawn ym mis Ebrill 2021.

Mae rheoleiddwyr yn y DU bob amser wedi gweithio gyda'i gilydd. Ceir meysydd o'n gwaith lle mae gennym drefniadau ffurfiol i weithio gyda'r CMA ar faterion cystadleuaeth ac mae gennym berthynas â'r ICO o ran galwadau niwsans a mud. Ychydig flynyddoedd yn ôl, dechreuodd nifer ohonom gydnabod y byddai angen atebion mwy cydgysylltiedig byth i heriau digidol. A bod angen i ni ddod at ein gilydd ar draws ein cylchoedd gwaith – gan feddwl felly am sut y gallai pryderon o ran preifatrwydd, cystadleuaeth a chynnwys oll ryngweithio wrth i ni ddechrau rheoleiddio cyfryngau cymdeithasol, yn hytrach na meddwl am un neu ddau o'r materion hyn ar sail dwyochrog.

Nid un sector yn unig mo 'digidol'. Mae llwyfannau a chwmnïau digidol yn cyrraedd pob rhan o'r economi ac mae natur eu modelau busnes yn golygu bod materion cystadleuaeth, preifatrwydd a chynnwys yn rhyngweithio ac yn mwyhau ei gilydd mewn ffyrdd nas gwelir mewn diwydiannau eraill. Wrth ychwanegu at hynny y sgiliau newydd sydd eu hangen i reoleiddio yn y meysydd hyn, pa mor gyflym y mae'r newid, a'r busnesau byd-eang y mae angen i ni ymgysylltu â hwy, mae'n dod yn amlwg mewn gwirionedd na all rheoleiddwyr weithredu ar eu pennau eu hunain.

Felly, rydym wedi creu lle i ni greu newid sylweddol o ran yn y ffordd yr ydym yn dod at ein gilydd. Roeddem eisiau gweithredu nawr ac felly sefydlwyd y fforwm gennym ar sail wirfoddol, gan ddwyn ynghyd rheoleiddwyr y mae rheoleiddio digidol yn rhan graidd o'u cylch gwaith a gofyn i'n hunain ym mha feysydd y dylem fod yn cydweithio er budd y diwydiant a defnyddwyr.

Mae ein cynllun gwaith, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth eleni, yn ceisio pennu eglurder o ran sut yr ydym yn cyflawni'r newid sylweddol hwn mewn cydlynu.  O ddeall goblygiadau preifatrwydd a diogelwch technolegau amgryptio, datgelu'r pryderon polisi trawsbynciol ynghylch prosesu algorithmig, i archwilio sut y gall dylunio digidol niweidio defnyddwyr, neu greu buddion iddynt, mewn perthynas â'r holl faterion rydym yn ymwneud â nhw: preifatrwydd; dewis; cystadleuaeth; a chynnwys. Mae'r cynllun gwaith yn arwydd o newid gwirioneddol mewn cydlynu rheoleiddio ac ymrwymiad gan yr aelodau i archwilio'n ymarferol sut mae cyfundrefnau penodol yn rhyngweithio a sut y gallwn wella deilliannau i ddefnyddwyr a busnesau.

"Mae'n glir nad yw'n ymarferol i reoleiddwyr weithredu ar eu pennau eu hunain"

Er bod y cynllun gwaith yn cynrychioli camau cyntaf DRCF mewn llawer o ffyrdd, mewn gwirionedd dyna oedd diwedd y cyfnod cychwynnol. Yn ystod y flwyddyn flaenorol, dechreuodd Ofcom, yr ICO a'r CMA ymgysylltu'n agosach i weithio drwy ble y gallai rhyngweithio ar reoleiddio ddigwydd, a sut yr oeddem am weithio gyda'n gilydd i ymateb yn uniongyrchol i'r her yma. Roedd yn wych bod yn Ofcom ar ddechrau'r broses hon – fel y rheoleiddiwr cyfathrebu mae'n rhaid i ni gydio yn y cwestiynau y mae gwasanaethau ar-lein yn eu codi ar draws ein sectorau – boed hynny mewn perthynas â darganfod cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus, y risgiau o ddosbarthu cynnwys niweidiol ac anghyfreithlon dros lwyfannau rhannu fideos neu rôl gynyddol y cewri technoleg yn y gadwyn gwerth telathrebu. A'r gydnabyddiaeth hon o sut mae cyfathrebu'n gynyddol ddigidol neu ar-lein yw'r hyn sydd wedi arwain Ofcom i eirioli dros DRCF.

Ac mae ein llafur eisoes yn dwyn ffrwyth. Wrth i ni gyhoeddi ein canllawiau ar gyfer llwyfannau rhannu fideos yn ddiweddar, bu i ni ddweud yn echblyg bod angen i ni ddarparu eglurder i'r diwydiant a defnyddwyr ar sut mae ein cyfundrefn yn cydweddu â Chod Dylunio Priodol i Oedran yr ICO. Beth fydd y ddwy gyfundrefn yn ei wneud i ymgorffori sicrwydd oedran yn well er mwyn diogelu defnyddwyr iau? Sut fyddwn ni'n sicrhau bod ein dulliau gweithredu yn gweddu i'w gilydd a bod unigolion a busnesau'n gwybod at bwy i fynd? Mae medru rhoi atebion i'r cwestiynau hyn yn esbonio pam y gwnaethom sefydlu'r DRCF ac mae'n gyfle gwych i brofi gwerth dod at ein gilydd.

Rydym hefyd yn datblygu ein gwaith i edrych ar amrywiaeth o ddatblygiadau technolegol gwahanol. Rydym yn ymgysylltu â rhanddeiliaid dros y misoedd nesaf i edrych ar effeithiau prosesu algorithmig a'r ystod o offer rheoleiddio sydd ar gael i werthuso'r effeithiau hynny.  Efallai y bydd gwahanol gyfundrefnau rheoleiddio yn gofyn am ddulliau gwahanol o ymdrin ag algorithmau, ond bydd y gwaith hwn yn ein helpu i gyd i adeiladu darlun cyfunol o'r materion a'r opsiynau a ble a phryd y gellir defnyddio'r gwahanol offer orau.

Ac wrth i ni edrych tua'r dyfodol rydym eisoes yn nodi materion newydd yr ydym eisiau eu trafod. Rwy'n disgwyl mai'r cwestiwn allweddol fydd sut yr ydym yn ymgysylltu'n rhyngwladol. Rydym i gyd yn adeiladu rhwydweithiau rheoleiddio er mwyn dysgu wrth i ni ymgymryd â dyletswyddau newydd i reoleiddio rhanddeiliaid byd-eang, ond mae'r cwestiwn o'r hyn y mae'n ei olygu i ymgysylltu fel fforwm trawsreoleiddiol yn dal heb ei brofi i ryw raddau. Os gallwn ddod o hyd i ffordd o gyrraedd yn effeithiol ar draws ffiniau domestig a rhyngwladol - yn yr un modd yn union ag y mae'r cewri technoleg eu hunain wedi'i wneud - yna byddwn ni i gyd ar ein hennill.

Related content