1 Chwefror 2022

BBC Three yn dychwelyd fel sianel deledu heddiw

Heddiw mae BBC Three yn dychwelyd i sgriniau teledu am y tro cyntaf ers chwe blynedd, ar ôl i Ofcom gymeradwyo ei ail-lansio fel sianel teledu ddarlledu.

Mae’r sianel yn dychwelyd gyda chyfres flaenllaw, RuPaul’s Drag Race UK Versus the World, ochr yn ochr â rowndiau cynderfynol pêl-droed Cwpan Cenhedloedd yr Affrig ac uchafbwyntiau Gemau Olympaidd y Gaeaf 2022.

Yn ogystal, mae’r BBC wedi cadarnhau ei fod wedi comisiynu nifer o raglenni comedi, drama a realiti fydd yn cael eu dangos ar y sianel yn ystod y misoedd nesaf.

Wrth ddod at ein penderfyniad i gymeradwyo adfer BBC Three fel sianel deledu, gwnaethon ni graffu ar ei allu i gyrraedd gwylwyr a gwrandawyr a danwasanaethir, yn cynnwys pobl ifanc sydd fel arfer yn treulio llai o amser ar raglenni'r BBC.

Gwnaethom asesu cynlluniau'r BBC yn ofalus, ochr yn ochr â thystiolaeth ac adborth a gasglwyd yn ystod ymgynghoriad gennym. Daethom i'r casgliad y bydd ail-lansio'r sianel yn helpu'r BBC i gynyddu ei chyrhaeddiad ymhlith gwylwyr ifanc a danwasanaethir – yn enwedig y rhai o gartrefi incwm is, a chynulleidfaoedd sy'n byw y tu allan i Lundain a de-ddwyrain Lloegr.

Er mwyn sicrhau bod y sianel yn unigryw, mae'n rhaid i o leiaf 75% o'r oriau a ddarlledir bob blwyddyn fod yn rhaglenni gwreiddiol, a gomisiynir gan y BBC ar gyfer gwylwyr y DU. Rydym hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i'r sianel ddarparu cynnwys o'r DU a ddarlledir am y tro cyntaf ar draws cymysgedd o genres, yn ogystal â rhaglenni newyddion yn ystod yr wythnos.

Oes rhywbeth i bawb?

Mae ail-lansio BBC Three yn un rhan o'r ffordd y mae'r BBC yn bwriadu cyflwyno dros bob cynulleidfa, sy'n hanfodol o ran ei chynaladwyedd yn y dyfodol. Llynedd gwnaethon ni gyhoeddi adroddiad yn edrych yn ôl dros y pedair blynedd diwethaf, i asesu pa mor dda y mae'r BBC wedi gwasanaethu cynulleidfaoedd y DU hyd yma yn ystod cyfnod y Siarter.

77%

o ddefnyddwyr newyddion BBC wedi'i raddio'n uchel am ddarparu newyddion Covid-19

Gwelsom fod y BBC wedi cyflawni'n fras yn erbyn ei chylch gwaith. Mae'n parhau'n boblogaidd gyda gwylwyr a gwrandawyr, a'r llynedd gwelwyd ei chyrhaeddiad yn sefydlogi ar ôl cyfnod o ddirywiad. Mae bron i naw o bob 10 oedolyn (87%) yn defnyddio cynnwys y BBC bob wythnos. Ymaddasodd yn gyflym hefyd yn ystod y pandemig Covid-19, gan newid ei dulliau cynhyrchu ac amserlennu i barhau i hysbysu, addysgu a diddanu'r cyhoedd.

Ond mae ein hadolygiad hefyd yn nodi sawl thema hirsefydlog y mae'n rhaid i'r BBC fynd i'r afael â hwy. Ymysg y rhain mae:

Gwella canfyddiadau cynulleidfaoedd o ddidueddrwydd y BBC

Y llynedd, defnyddiodd mwy o bobl newyddion y BBC - ar deledu ac ar-lein - ar draws pob grŵp oedran, gan gynnwys pobl ifanc. Dyma'r ffynhonnell newyddion fwyaf poblogaidd o hyd yn y DU. Ond er bod cynulleidfaoedd yn sgorio newyddion teledu'r BBC yn uchel am gywirdeb (71%) ac ymddiriedaeth (68%), maent yn ei raddio'n llai ffafriol yn gyson am fod yn ddiduedd, gyda 55% yn rhoi sgôr uchel iddi.

Rydym yn croesawu cynllun gweithredu'r BBC i wella canfyddiadau cynulleidfaoedd o'i didueddrwydd. Er mwyn cynnal ymddiriedaeth y gynulleidfa, rydym yn disgwyl iddi asesu'n drylwyr ac adrodd yn dryloyw ar ei chynnydd yn erbyn y cynllun hwn. Yng ngwanwyn 2022, bydd Ofcom yn cyhoeddi ymchwil wedi'i diweddaru ar sut y dylanwadir ar ganfyddiadau cynulleidfaoedd o ddidueddrwydd y BBC.

Parhau'n berthnasol i'w chynulleidfa gyfan yn y DU

Mae gan tua thri o bob pump o oedolion (58%) argraff ffafriol o'r BBC. Ond mae cynulleidfaoedd anabl (53%), pobl yn Yr Alban (49%) a'r rhai o gefndiroedd llai cefnog (53%) yn llai bodlon.

Ar gyfartaledd, mae gan 58% o oedolion yn y DU argraff gadarnhaol o'r BBC. Mae aelwydydd a chynulleidfaoedd AB yn Llundain yn fwy tebygol o weld y BBC yn ffafriol nag aelwydydd a chynulleidfaoedd DE yn yr Alban.

Mae pobl ifanc 16-34 oed yn treulio llawer llai o amser gyda'r BBC bob dydd – ychydig dros awr o'i gymharu â 2 awr 23 munud i'r oedolyn cyfartalog. Mae mwy o blant 11-16 oed yn defnyddio Netflix (77%) na gwasanaethau teledu, radio ac ar-lein y BBC at ei gilydd (74%).

Mae'r BBC yn gwneud newidiadau i gysylltu'n well â chynulleidfaoedd llai bodlon a'r rhai ifanc drwy nifer o fentrau comisiynu, ariannu a thalent. Mae'n hanfodol am ei llwyddiant hirdymor ei bod yn rhoi'r rhain ar waith ac yn sicrhau bod ei gweithlu'n cynrychioli pobl o wahanol gefndiroedd yn well.

Meiddio bod yn wahanol

Nododd ein hymchwil fod llai na hanner oedolion y DU yn graddio'r BBC yn gadarnhaol o ran darparu cynnwys sy'n 'meiddio bod yn wahanol’.

Mae gwariant y BBC ar gynnwys teledu gwreiddiol, a ddarlledir am y tro cyntaf, wedi bod yn dirywio ers tro – o £1.6bn yn 2010 i £1.01bn yn 2020 – gostyngiad a waethygwyd gan y pandemig (-16% o flwyddyn i flwyddyn). Mae gwariant ar raglenni a ddarlledir am y tro cyntaf mewn genres sydd mewn perygl fel comedi a cherddoriaeth wedi dirywio'n gyflymach o'i gymharu â gwariant ar bob genre arall.

Ond mae cefnogaeth gan y BBC yn dal yn hollbwysig i sector creadigol y DU. Daw pedwar deg pedwar y cant o gyfanswm y gwariant gan ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus y DU ar gomisiynau cwmnïau cynhyrchu allanol gan y BBC.

Wrth i'r BBC ganolbwyntio ar gynnwys tra dylanwadol yn wyneb pwysau cyllidebol a chystadleuaeth gynyddol am gynulleidfaoedd, mae'n rhaid iddi gynnal ei hymrwymiad i gynnwys gwreiddiol o'r DU, gan gynnwys mewn genres sydd mewn perygl. Byddem yn pryderu pe bai caffaeliadau'n chwarae rôl rhy fawr yng nghymysgedd cynnwys cyffredinol y BBC.

Mae'r BBC yn parhau i gael ei gwerthfawrogi'n fawr gan y cyhoedd ac wedi gwneud cyfraniad clir a chadarnhaol yn ystod y pandemig. Ond mae'r flwyddyn ddiwethaf hefyd wedi gweld methiannau hanesyddol yn tarfu ar ei henw da, gyda rhai gwylwyr a gwrandawyr yn amau ei gallu i fod yn ddiduedd, ac eraill yn teimlo eu bod wedi'u heithrio.

Mae'n rhaid i'r BBC feiddio bod yn wahanol, gan ymestyn ei hapêl i wylwyr a gwrandawyr o bob cefndir, dosbarth cymdeithasol, diwylliant, oedran neu leoliad. Mae hynny'n cynnwys cynhyrchu cynnwys beiddgar yn y DU, a dyna pam rydym yn pennu rheolau newydd ynghylch ail-lansio BBC Three.

Kevin Bakhurst, Cyfarwyddwr Grŵp Ofcom, Darlledu a Chynnwys Ar-lein