20 Mehefin 2022

Ofcom yn nodi i Channel 4 dorri amodau trwydded oherwydd problemau isdeitlo

  • Methodd C4 â chyflawni ei chwota isdeitlo ar Freesat yn 2021, gan ddilyn methiant
  • Cyfathrebu â chynulleidfaoedd yn ystod y digwyddiad yn ddiffygiol iawn
  • Adolygiad o'r digwyddiad yn nodi bod yn rhaid i ddarlledwyr wella cynlluniau adfer ar ôl trychineb

Mae ymchwiliad gan Ofcom wedi nodi i Channel 4 dorri amodau ei thrwydded ddarlledu yn dilyn methiant estynedig yn ei gwasanaethau isdeitlo, arwyddo a disgrifiadau sain.

Mae miliynau o bobl, gan gynnwys y rhai sy'n fyddar, sydd wedi colli eu clyw, yn ddall neu'n rhannol ddall, yn dibynnu ar y 'gwasanaethau mynediad' hyn i wylio a gwrando ar y teledu.

Nododd ein hymchwiliad na fu modd i gynulleidfaoedd Freesat sy'n dibynnu ar isdeitlo gael mynediad llawn i raglenni Channel 4 am bron i ddau fis o ganlyniad i ddigwyddiad andwyol mewn canolfan ddarlledu a weithredir gan Red Bee Media.

O ystyried y methiant estynedig hwn, methodd Channel 4 â chyrraedd y gofyniad statudol i isdeitlo 90% o'u horiau rhaglenni ar y gwasanaeth Freesat yn ystod 2021. Nododd Ofcom hefyd fod Channel 4 wedi torri un arall o amodau ei thrwydded drwy fethu â chyfathrebu'n effeithiol â chynulleidfaoedd yr effeithiwyd arnynt ynghylch argaeledd gwasanaethau mynediad yn yr wythnosau ar ôl y digwyddiad.

Mae ein hadolygiad ehangach o'r digwyddiad andwyol yn y ganolfan ddarlledu wedi amlygu angen dybryd i bob darlledwr wella ac archwilio eu cynlluniau adfer ar ôl trychineb. Mae'n rhaid i'r rhain gynnwys cynlluniau cyfathrebiadau clir rhag ofn y bydd toriadau mewn gwasanaethau, gan gymryd gwahanol gynulleidfaoedd a'u hanghenion penodol i ystyriaeth.

Beth ddigwyddodd

Ym mis Medi 2021, dioddefodd Red Bee Media fethiant trychinebus yn ei ganolfan ddarlledu yng Ngorllewin Llundain ar ôl i nwy atal tân gael ei ollwng. Achosodd y gollyngiad hwn ton sioc mawr a ddifrododd lawer o'r gweinyddwyr y tu hwnt i'w hatgyweirio, gan olygu y bu'n ofynnol i weithredu gweithdrefnau adfer ar ôl trychineb.

Achosodd y digwyddiad aflonyddwch sylweddol i weithrediadau nifer o ddarlledwyr, gan gynnwys i'w gwasanaethau mynediad. Effeithiwyd gwaethaf ar Channel 4, gyda methiant estynedig ei gwasanaethau mynediad ar eu sianeli darlledu a ddechreuodd ar 25 Medi 2021 ac na chafodd ei ddatrys yn llawn tan 19 Tachwedd 2021. Derbyniodd Ofcom tua 500 o gwynion, a lansiodd ymchwiliad yn gynharach eleni.

Ein canfyddiadau

Canfu ein hadolygiad ehangach o'r digwyddiad andwyol mewn canolfan ddarlledu nad oedd gallu Channel 4 i ymateb i'r methiant technoleg yn Red Bee yn ddigon cydnerth, o ystyried bod ei system isdeitlo wrth gefn wedi methu. Cymerodd bedair wythnos i is-deitlo gael ei adfer ar Sky, Freeview, Youview a Virgin Media. Roedd hi'n bedair wythnos arall cyn i isdeitlo gael ei adfer ar Freesat.

O ganlyniad, roedd Channel 4 yn brin o'i chwota blynyddol i is-deitlo 90% o'r rhaglenni ar Freesat – gan gyflawni dim ond 85.41% - sy'n golygu ei bod yn groes i amodau ei thrwydded.

Mae'n rhaid i ddarlledwyr hefyd wneud cynulleidfaoedd yn ymwybodol o'r gwasanaethau mynediad sydd ar gael. Ond gwelsom fethiannau ac oedi difrifol yng nghyfathrebiadau Channel 4 â chynulleidfaoedd yr effeithiwyd arnynt:

  • Ni ddarparodd Channel 4 unrhyw wybodaeth am achos y methiant na'r camau a oedd ar waith i'w datrys am 12 diwrnod yn dilyn y digwyddiad;
  • Roedd canllawiau teledu yn cynnwys gwybodaeth anghywir am argaeledd gwasanaethau mynediad Channel 4 tan 14 Hydref 2021;
  • Roedd gwylwyr byddar yn debygol o fod ymhlith y rhai yr effeithiwyd arnynt waethaf gan y methiant, ond ni ddarparodd Channel 4 unrhyw wybodaeth i wylwyr yn Iaith Arwyddion Prydeinig tan 15 Hydref 2021; ac
  • Ni ddarlledodd Channel 4 unrhyw gyngor na gwybodaeth ar yr awyr am y methiant tan 15 Hydref 2021, bron i dair wythnos ar ôl i'r methiant ddigwydd. Ni fyddai gan gynulleidfaoedd nad oedd ganddynt fynediad at wybodaeth ar-lein Channel 4 unrhyw ddealltwriaeth am raddfa'r problemau na bod y cwmni'n gweithio i'w cywiro. Roeddem yn arbennig o bryderus am yr effaith ar ddefnyddwyr gwasanaethau mynediad hŷn, dall neu rannol ddall, y gallai eu mynediad at wybodaeth ar-lein fod yn fwy cyfyngedig.

Yn awr, mae'n rhaid i Channel 4 adrodd i Ofcom erbyn diwedd y flwyddyn ar y camau y mae wedi'u cymryd i sicrhau bod ei gwasanaethau mynediad yn fwy cydnerth, yn ogystal â sut y mae'n parhau i wella hygyrchedd ei rhaglenni darlledu ac ar-alw.

Gwersi i bob darlledwr eu dysgu

Rydym yn cydnabod y bu'r digwyddiad yn Red Bee yn ddigynsail. Fe arweiniodd at fethiant hir yn y ddarpariaeth o wasanaethau mynediad Channel 4 ac amharodd yn ehangach hefyd ar eu darllediadau cyffredinol ar bob llwyfan. Effeithiwyd ar nifer o ddarlledwyr eraill hefyd, ond i raddau llai.

Rydym hefyd wedi cyhoeddi ein canfyddiadau heddiw yn dilyn adolygiad trylwyr o'r digwyddiad ac wedi gwneud nifer o argymhellion yr ydym yn disgwyl i ddarlledwyr weithredu arnynt, gan gynnwys y canlynol:

  • Mae'n rhaid i ddarlledwyr wella eu cynlluniau a'u prosesau adfer ar ôl trychineb. Mae'n rhaid llunio manylebau ar gyfer cyfleusterau adfer ar ôl trychineb fel y gallant gludo gwasanaethau mynediad, yn ogystal â sain a llun, a chael eu profi'n rheolaidd o dan amodau brys ffug. Dylid archwilio seilwaith technegol yn rheolaidd hefyd i nodi unrhyw wendidau posib. Mae'n rhaid hyfforddi staff ar bob pwynt yn y gadwyn drawsyrru yn briodol i ddilyn y gweithdrefnau adfer ar ôl trychineb yn gywir.
  • Mae'n rhaid i ddarlledwyr baratoi cynlluniau cyfathrebu effeithiol rhag ofn y bydd methiannau i wasanaethau. Mae hyn yn cynnwys cymryd anghenion penodol y gynulleidfa yr effeithir arni i ystyriaeth, a gwneud defnydd, fel y bo'n briodol, o'u sianeli teledu eu hunain ac nid dim ond cyfryngau cymdeithasol i gyfathrebu â nhw.

Rydym yn adolygu ein Codau Technegol Teledu yn ddiweddarach eleni ac yn ystyried pa newidiadau y gallai fod eu hangen i wella'r ffordd y darperir gwasanaethau mynediad, er mwyn sicrhau eu bod yn cyfateb i'r rhai ar gyfer sain a llun.

Pan fydd pethau'n mynd o chwith, mae'n rhaid i ddarlledwyr fod â chynlluniau ar waith i adfer gwasanaethau pwysig, ond hefyd i roi gwybod i gynulleidfaoedd beth y gallant ei ddisgwyl. Trwy fethu â gwneud hyn, bu i Channel 4 adael pobl sy'n defnyddio isdeitlo, arwyddo neu ddisgrifiadau sain i fwynhau rhaglenni i lawr.

"Mae nifer o wersi i ddarlledwyr eu dysgu o'r digwyddiad hwn. Rydym wedi dweud wrthynt fod yn rhaid iddynt wella a phrofi eu cynlluniau a'u seilwaith wrth gefn er mwyn isafu'r risg y bydd y fath fethiant aflonyddgar yn digwydd eto.

Kevin Bakhurst, Cyfarwyddwr Grŵp Darlledu Ofcom

Mae crynodebau BSL o'r cyhoeddiadau hyn ar gael ar wefan Ofcom.

Nodiadau i olygyddion

Er gwaetha'r methiant yn yr hydref, llwyddodd Channel 4 i fodloni'r gofyniad statudol i isdeitlo 90% o'i oriau rhaglenni trwy gydol 2021 ar lwyfannau teledu eraill – yn bennaf drwy orberfformio y tu allan i gyfnod y methiant. Bu i'r darlledwr hefyd fodloni ei ofynion blynyddol o ran disgrifiadau sain ac arwyddo ar y gwasanaeth Channel 4 ar bob llwyfan deledu. Mae gan sianeli eraill Channel 4 Corporation, megis E4 a More 4, ofyniad llai i ddarparu isdeitlo ar 80% o raglennu, a bodlonwyd hyn ar draws pob llwyfan.

See also...