26 Mai 2022

Helpu'r gymuned radio amatur i ddathlu'r Jiwbilî Platinwm

Rydym wedi chwarae rhan fach yn ddiweddar wrth helpu cymuned radio amatur angerddol y DU i ddathlu Jiwbilî Platinwm Ei Mawrhydi y Frenhines sydd ar ddod – ac mae'r cyfan yn ymwneud ag un llythyren o'r wyddor.

Mae angen trwydded gan Ofcom ar bob defnyddiwr radio amatur yn y DU , ac o dan eu trwyddedau rydym yn neilltuo hunaniaeth unigryw i bob defnyddiwr, a elwir yn arwydd galw. Mae'n rhaid i ni hefyd gadw llygad ar sut mae'r arwyddion galw hyn yn cael eu fformatio, er mwyn sicrhau eu bod yn bodloni rheolau byd-eang ar sut y defnyddir radio.

Rhai weithiau, pan ofynnir i ni, gallwn amrywio'r trwyddedau hyn dros dro er mwyn caniatáu i amaturiaid radio ddefnyddio arwyddion galw arbennig – gofynnir am y rhain yn aml ar adegau o ddiddordeb cenedlaethol penodol.

Felly, y llynedd, pan ofynnodd amaturiaid radio i ni a allent wneud rhywbeth arbennig, i nodi'r Jiwbilî Platinwm eleni, bu i ni gytuno ar unwaith.   Felly, rydym wedi rhoi caniatâd arbennig i amaturiaid radio wneud cais am 'hysbysiad amrywio' arbennig sy'n caniatáu iddynt fewnosod 'Q' (i gynrychioli'r Frenhines) yn eu harwyddion galw drwy gydol mis Mehefin. Mae hyn i nodi'r Jiwbilî Platinwm.

Beth yw arwydd galw radio?

Oherwydd y gellir derbyn trawsyriadau radio amatur ar draws y byd, mae'n bwysig gwybod o ble a chan bwy maen nhw'n dod. Felly, rydym yn rhoi arwydd galw unigryw i bob amatur radio, y mae'n rhaid iddynt ei ddefnyddio pan fyddant yn trawsyrru. Mae hyn yn dweud wrth unrhyw un sy'n clywed eu trawsyriadau mai gorsaf radio amatur yn y DU ydyw (mae ein harwyddion galw ni i gyd yn dechrau gyda '2', 'G' neu 'M') ac yn adnabod yr orsaf unigol.

Pa arwyddion galw arbennig a ddefnyddiwyd yn y gorffennol?

Nid dyma'r tro cyntaf i ni roi caniatâd i weithredwyr radio amatur ddefnyddio newid arbennig i'w harwyddion galw, i nodi dathliadau cenedlaethol.

  • Yn 2011, gwnaethom ganiatáu'r llythyren 'R', i nodi priodas Dug a Duges Caergrawnt.
  • Yn 2012, caniatawyd y llythyren 'O' i nodi'r Gemau Olympaidd.
  • Yn 2012 ac eto yn 2002, gwnaethom ganiatáu'r llythyren 'Q', i nodi Jiwbilîs cynharach Ei Mawrhydi.
  • Yn 2018, gwnaethom unwaith eto ganiatáu'r llythyren 'R', i nodi priodas Dug a Duges Sussex.
  • Yn 2020, cytunwyd y gallai amaturiaid radio ychwanegu'r ôl-ddodiad '/NHS' at eu harwyddion galw, i gydnabod gwaith y GIG yn ystod y pandemig.

Related content