5 Awst 2022

Bywyd Ar-lein – pennod newydd ein podlediad yn taclo cam-drin ar-lein mewn pêl-droed

Wrth i bêl-droed yr Uwch Gynghrair Cymru ddychwelyd o'i gwyliau haf, mae pennod ddiweddaraf podlediad Bywyd Ar-lein Ofcom yn taflu goleuni ar ochr dywyll y gêm brydferth: maint y cam-drin ar-lein a dargedir at chwaraewyr.

Mae Ofcom wedi ymuno â Sefydliad Alan Turing i ddadansoddi mwy na 2.3 miliwn o drydariadau a gyfeiriwyd at bêl-droedwyr yr Uwch Gynghrair dros bum mis cyntaf tymor 2021/22.

Yn ôl ein hymchwil Croesi'r Llinell, er bod y mwyafrif helaeth o gefnogwyr yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol yn gyfrifol, mae cannoedd o drydariadau sarhaus yn cael eu hanfon at bêl-droedwyr bob dydd. Targedwyd saith o bob 10 o chwaraewyr yr Uwch Gynghrair gyda phostiadau ymosodol, gydag un yn cael ei anfon bob pedair munud.

Mae'r bennod ddiweddaraf o Bywyd Ar-lein, a recordiwyd yn fyw wrth lansio'r ymchwil yn yr Amgueddfa Bêl-droed Genedlaethol ym Manceinion ym mis Awst 2022, yn taclo'r broblem hon yn uniongyrchol ac yn cynnwys trafodaeth banel gyda llu o sêr.

Mae'r panel, dan ofal y cyflwynydd BT Sport, Jules Breach, yn cynnwys: y darlledwr a chyn-gapten Lloegr, Gary Lineker; Aoife Mannion o Manchester United; Prif Weithredwr Cymdeithas y Pêl-droedwyr Proffesiynol Maheta Molango; Cadeirydd Kick It Out Sanjay Bhandari; a Chyfarwyddwr Diogelwch Ar-lein Ofcom, Richard Wronka.

Yn y bennod, mae'r panel yn siarad yn blwmp ac yn blaen am eu profiadau amrywiol o gam-drin ar-lein, yr effaith y gall ei chael a'r hyn y maen nhw'n meddwl y dylid ei wneud i'w daclo.

Ac wrth i'r tymor newydd ddechrau a llygaid miliynau o gefnogwyr yn troi at y cyffro ar y cae, roedd neges glir gan Sanjay Bhandari o Kick it Out ar gyfer unrhyw un sy'n gweld cam-drin ar-lein:

Ie i gystadlu. Ie i dynnu coes. Na i gasineb... peidiwch â sefyll gerllaw a gwneud dim, rhowch wybod amdano.

Gwrandewch nawr ar Spotify, Apple Podcasts, neu ble bynnag arall rydych chi fel arfer yn gwrando ar eich podlediadau.

Ble gallaf wrando a thanysgrifio i Bywyd Ar-lein?

Gwrandewch ar SpotifyGwrandewch ar StitcherGwrandewch ar Pocket CastsListen on Apple PodcastsGoogle podcasts logo

Related content