12 Mai 2022

Chwyldro radio lleol yn dod i Ogledd-orllewin Lloegr a Gogledd-ddwyrain Cymru

Cyn bo hir bydd modd i wrandawyr o Warrington i Wrecsam diwnio i mewn i ddewis ehangach o orsafoedd radio digidol tra lleol, wrth i Ofcom ddyfarnu 17 o drwyddedau amlblecs radio DAB graddfa fach yng Ngogledd-orllewin Lloegr a Gogledd-ddwyrain Cymru.[1]

Mae DAB graddfa fach yn dechnoleg flaengar sy'n darparu ffordd gost isel i wasanaethau radio masnachol a chymunedol lleol fynd ar yr awyr. Bydd pob amlblecs yn galluogi i nifer o orsafoedd lleol fynd ar y tonnau awyr digidol, gan gynnwys gwasanaethau cymunedol llawr gwlad, gorsafoedd cerddoriaeth arbenigol, a gwasanaethau a anelir at grwpiau lleiafrifol a chynulleidfaoedd eraill nad ydynt yn cael eu gwasanaethu'n dda.

Bydd ein rhaglen DAB graddfa fach yn galluogi lansio tua 200 o amlblecsau a fydd yn rhoi darpariaeth i bob un o bedair gwlad y DU. Mae'r dyfarniadau heddiw yn dod â chyfanswm nifer y trwyddedau amlblecs a ddyfarnwyd i 42.

Cynlluniau trwyddedu ar gyfer y dyfodol ac adolygiad o gyflwyno DAB graddfa fach

Hefyd heddiw, mae Ofcom yn cyhoeddi'r 32 o geisiadau rydym wedi'u derbyn ar gyfer y drydedd rownd o hysbysebion trwydded. Mae'r rhain yn cwmpasu 20[2] o ardaloedd ar draws Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban.

Rydym hefyd wedi penderfynu ychwanegu Llwydlo, Cleobury Mortimer a Tenbury Wells at y rhestr o ardaloedd trwydded Rownd Pedwar, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni. Byddwn yn hysbysebu'r trwyddedau hyn yn yr hydref, ynghyd â'r rhestr o ardaloedd rydym yn bwriadu eu hysbysebu yn Rownd Pump.

Mae adroddiad cynnydd ar gyflwyno DAB graddfa fach hyd yma hefyd ar gael.

Nodiadau

  1. Penderfynodd Ofcom i beidio â dyfarnu trwydded i'r unig ymgeisydd ar gyfer ardal trwydded Southport.
  2. Ni dderbyniwyd unrhyw geisiadau ar gyfer Aberdeen (De); Dundee; Hull (Dwyrain); Lincoln; a Shaftesbury. Yn achosion Hull ac Aberdeen, derbyniwyd ceisiadau i ddarparu ar gyfer rhannau eraill o'r dinasoedd hynny.

Related content