13 Mehefin 2022

Ofcom yn cyhoeddi adolygiad o ddigwyddiad andwyol yn sgil Tân yn Nhrawsyrrydd Bilsdale

Mae Ofcom wedi nodi bod angen i sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau darlledu adolygu eu cynlluniau wrth gefn ar frys er mwyn osgoi'r math o fethiant trawsyrru a ddigwyddodd yn nhrawsyrrydd Bilsdale, Swydd Efrog, y llynedd.

Mae'r argymhellion wedi'u cynnwys yn adolygiad Ofcom o'r Tân yn Nhrawsyrrydd Bilsdale, sy'n ymchwilio i sut yr ymdriniwyd â'r digwyddiad a pha wersi y mae angen eu dysgu.

Darparodd trawsyrrydd Bilsdale gwasanaethau teledu a radio am ddim ar gyfer hyd at 670,000 o gartrefi ar draws Teesside a llawer o Ogledd Swydd Efrog, gyda ddarpariaeth yn ymestyn o Gaerefrog i Middlesbrough.

Gan ddilyn tân ar safle'r trawsyrrydd ym mis Awst 2021, diffoddwyd gwasanaethau teledu a radio am gyfnod hir. Am fod y difrod i'r mast mor ddifrifol, bu'n rhaid ei ddymchwel.

Ein canfyddiadau

Parodd effaith leol y tân bryder mawr i ni, a bu i ni fonitro'n agos y camau a gymerwyd gan berchennog y trawsyrrydd, Arqiva, i adfer gwasanaethau i wylwyr a gwrandawyr a chyfathrebu â chymunedau yr effeithiwyd arnynt.

Yn fras, unwaith y daeth yn amlwg bod y difrod i'r mast yn ddifrifol, aeth Arqiva ati'n gyflym i adfer y ddarpariaeth trwy weithio gyda'r darlledwyr i reoli'r digwyddiad a chynllunio'r defnydd o'r cyfarpar dros dro. Ond gwelsom y canlynol hefyd:

  • bu oedi wrth sefydlu trawsyryddion dros dro – yn enwedig yr un a leolir ar safle Bilsdale – oherwydd mynediad i'r safle a phroblemau cynllunio a thechnegol. Cododd rhai o'r rhain o ganlyniad i leoliad y safle o fewn Parc Cenedlaethol a Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, ond gallai cynllunio gwell ar gyfer y safle penodol fod wedi achub y blaen ar hyn.
  • roedd yr wybodaeth a ddarparwyd i wylwyr a gwrandawyr yr effeithiwyd arnynt yn gyffredin iawn ar y dechrau. Wrth i'r sefyllfa ddatblygu, roedd oedi o ran darparu cymorth priodol wedi'i dargedu ar gyfer aelwydydd yr effeithiwyd arnynt, y gellid bod wedi'u hosgoi.

Argymhellion a'r camau nesaf

Mae adroddiad heddiw ar y digwyddiad yn gwneud nifer o argymhellion y disgwyliwn i'r diwydiant weithredu arnynt er mwyn lleihau'r tebygolrwydd y bydd sefyllfa debyg yn digwydd yn y dyfodol.

Dylai sefydliadau sy'n gweithio ar y cyd i ddarparu gwasanaethau darlledu gynnal eu hadolygiadau mewnol eu hunain yn brydlon er mwyn sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu o'r tân yn Bilsdale. Dylai'r adolygiadau hyn ystyried digonolrwydd eu cynlluniau ar gyfer adfer gwasanaethau yn achos digwyddiad sylweddol, yn ogystal â'r rhai sydd ar waith i gefnogi a chyfathrebu â gwylwyr a gwrandawyr yr effeithir arnynt.

Bydd Ofcom yn monitro effeithiolrwydd unrhyw fentrau newydd a roddir ar waith cyn i ni ystyried a oes angen cymryd camau rheoleiddio pellach.

Related content