28 Ionawr 2022

Ofcom i ymchwilio i Channel 4 o ran problemau isdeitlo

  • Methodd C4 â chyrraedd ei gwota isdeitlo ar Freesat yn 2021, gan ddilyn diffyg yn yr hydref
  • Amharwyd ar drefniadau isdeitlo, disgrifiadau sain ac arwyddo'r darlledwr ar bob llwyfan
  • Bydd Ofcom yn adolygu sut mae darlledwyr yn darparu'r gwasanaethau mynediad hanfodol hyn

Bydd Ofcom yn ymchwilio i Channel 4, gan ddilyn methiant estynedig y llynedd yn eu gwasanaethau isdeitlo, arwyddo a disgrifiadau sain.

Mae miliynau o bobl, gan gynnwys y rhai sy'n fyddar, yn drwm eu clyw, yn ddall ac yn rhannol ddall, yn dibynnu ar y 'gwasanaethau mynediad' hyn i wylio a gwrando ar y teledu.

Beth aeth o'i le

Ym mis Medi 2021, bu diffyg mewn canolfan ddarlledu a redir gan Red Bee Media a achosodd aflonyddwch sylweddol i weithrediadau nifer o ddarlledwyr, gan gynnwys eu gwasanaethau mynediad. Effeithiwyd gwaethaf ar Channel 4, gyda methiant estynedig ar eu sianeli darlledu a ddechreuodd ar 25 Medi 2021 ac na chafodd ei ddatrys yn llawn tan 19 Tachwedd 2021.

Mae Ofcom wedi nodi, er gwaetha'r methiant yn yr hydref, bod Channel 4 wedi llwyddo i fodloni gofyniad statudol i isdeitlo 90% o'i oriau rhaglenni trwy gydol 2021 – yn bennaf drwy orberfformio y tu allan i gyfnod y methiant. Bodlonodd Channel 4 eu gofynion o ran disgrifiadau sain ac arwyddo hefyd. Fodd bynnag, achosodd y diffyg i Channel 4 fethu â chyflawni eu cwota isdeitlo ar Freesat, platfform teledu lloeren a ddefnyddir gan tua 2 filiwn o gartrefi yn y DU.

Mae'r cwota ymhlith y rhai a bennir gan Senedd y DU ar gyfer gwasanaethau mynediad y mae'n rhaid i ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus eu bodloni, gan gwmpasu cyfrannau penodol o'u horiau rhaglenni yn ystod y flwyddyn galendr.

O ystyried y methiant hir mewn gwasanaethau mynediad Channel 4, mae Ofcom wedi penderfynu lansio ymchwiliad i dan-ddarpariaeth Channel 4 o ran isdeitlo ar y llwyfan Freesat a'r amgylchiadau cysylltiedig.

Bydd yr ymchwiliad yn cynnwys i ba raddau y bu i Channel 4 hyrwyddo ymwybyddiaeth ynghylch argaeledd eu gwasanaethau mynediad, ar draws eu holl sianeli a llwyfannau, yn ystod cyfnod y methiant.

Adolygiad ehangach i sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu

Mae gan Ofcom bryderon sylweddol o hyd am y digwyddiad Red Bee. Fe arweiniodd at fethiant hir yn y ddarpariaeth o wasanaethau mynediad Channel 4 ac amharodd yn ehangach hefyd ar eu darllediadau cyffredinol ar bob llwyfan. Effeithiwyd ar nifer o ddarlledwyr eraill hefyd, ond i raddau llai arwyddocaol.

Felly yn ogystal ag ymchwilio i Channel 4, mae Ofcom yn cynnal adolygiad o drefniadau trawsyrru a chyfleusterau wrth gefn y darlledwyr yr effeithiwyd arnynt ar adeg y methiant, a pha newidiadau y maent wedi'u gwneud neu eu cynllunio o ganlyniad iddo.

Byddwn yn defnyddio'r canfyddiadau i sicrhau bod camau'n cael eu cymryd i atal digwyddiadau o'r fath yn y dyfodol rhag cael effaith mor ddifrifol ar wylwyr. Byddwn hefyd yn ystyried a oes angen cymryd camau rheoleiddio pellach i sicrhau gwasanaethau mynediad dibynadwy i gynulleidfaoedd – ni waeth pa bethau a allai ddigwydd i'r seilwaith a ddefnyddir i'w darparu.

Achosodd y problemau hyn ofid a rhwystredigaeth fawr ymhlith y miliynau o bobl sy'n dibynnu ar isdeitlau, arwyddo neu ddisgrifiadau sain i fwynhau'r teledu.

Cymerodd Channel 4 sawl wythnos i ddarparu cynllun ac amserlen glir a chyhoeddus ar gyfer trwsio'r problemau.

Yn ogystal ag ymchwilio i Channel 4, rydym yn adolygu effeithiau ehangach y methiant i sicrhau bod darlledwyr yn dysgu gwersi ac yn diogelu gwasanaethau mynediad yn y dyfodol.

Kevin Bakhurst, Cyfarwyddwr Grŵp Darlledu Ofcom

A BSL summary of our decision is available below.

British Sign Language video transcript: Television Access Services Report 2021 (Channel 4)  (PDF, 84.8 KB)

Related content