24 Mai 2022

Ofcom yn debygol o ysgwyddo cyfrifoldeb dros reoleiddio gwasanaethau ffôn â thâl

Heddiw, mae Ofcom a'r Awdurdod Gwasanaethau Ffôn â Thâl (PSA) wedi cyhoeddi, yn amodol ar gymeradwyaeth bellach yr Adran Dros Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, ei bod yn debygol y bydd y cyfrifoldeb am reoleiddio gwasanaethau ffôn â thâl yn cael ei drosglwyddo i Ofcom.

Daw'r cam hwn yn sgil tueddiadau hirdymor yn y farchnad a'r lefelau isel presennol o niwed i ddefnyddwyr yn y maes hwn. Cyflwynwyd y cynnig gan Fwrdd y PSA.

Mae ymuno ag Ofcom yn rhoi cyfle i'r ddau sefydliad fynd i'r afael â heriau'r dyfodol wrth i'r farchnad ddatblygu. Mae'n golygu y byddai gweithwyr presennol y PSA yn trosglwyddo i Ofcom.

Mae'r Ysgrifennydd Gwladol dros Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, Nadine Dorries, wedi rhoi cymeradwyaeth dros dro i'r PSA ac Ofcom gael eu cyfuno. Bydd hyn yn cynnwys proses statudol ac ymgynghoriad cysylltiedig yn ddiweddarach eleni, a bydd yn amodol ar gymeradwyaeth derfynol gan Ysgrifennydd Gwladol yr Adran dros Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS).

Rhagwelwn y bydd Ofcom yn cymryd cyfrifoldeb dros reoleiddio yn ail hanner 2023.

Beth yw'r Awdurdod Gwasanaethau Ffôn â Thâl?

Yr Awdurdod Gwasanaethau Ffôn a Thâl yw rheoleiddiwr y DU ar gyfer cynnwys, nwyddau a gwasanaethau a godir i'ch bil ffôn. Mae hynny'n golygu popeth o danysgrifiadau cerddoriaeth, chwarae gemau a phleidleisio mewn sioeau doniau ar y teledu, i gystadlaethau, gwasanaethau i oedolion a galwadau i ymholiadau'r llyfr ffôn.

Mae'r PSA wedi gweithio mewn partneriaeth ag Ofcom i reoleiddio'r materion hyn.

Cynnwys Cysylltiedig