31 Mawrth 2022

Map ffordd sbectrwm Ofcom – clywed gan un o'n cyfarwyddwyr

Cristina Data at the Mobile World Congress 2022

Heddiw rydym wedi cyhoeddi ein map ffordd sbectrwm (PDF, 447.0 KB), dogfen sy'n nodi dyfodol sut y byddwn yn rheoli sbectrwm yn seiliedig ar anghenion newidiol y sefydliadau, y cwmnïau a'r bobl sy'n ei ddefnyddio.

I nodi'r cyhoeddiad, rydym wedi siarad â Cristina Data, cyfarwyddwr polisi a dadansoddi sbectrwm Ofcom, am ei chefndir a'i rôl bresennol yn y byd sbectrwm, yn ogystal â'r hyn y mae'n credu allai fod y datblygiadau mawr i gadw llygad allan amdanynt yn y dyfodol.

Beth yw cefndir eich gyrfa chi??

Rwy'n beiriannydd diwydiannol drwy hyfforddiant a chyn ymuno ag Ofcom, bûm yn gweithio i ddau weithredwr symudol ym maes gwybodaeth am y farchnad, strategaeth a deallusrwydd busnes. Yna ymunais â chwmni darlledu i'w helpu i sefydlu eu huned gwybodaeth ac ymchwil farchnad o fewn ei dîm strategaeth.

Beth ddaeth â chi i Ofcom?

Diddordeb mewn gweld y sector o ochr y rheoleiddiwr.

Beth yw natur eich swydd?

Rwy'n goruchwylio ein tîm polisi a dadansoddi sbectrwm. Mae fy swydd yn ymwneud â siarad â rhanddeiliaid yn genedlaethol ac yn rhyngwladol i gael mewnwelediad i ddatblygiadau mewn technoleg a chymwysiadau a allai sbarduno'r galw am sbectrwm neu wella'r ffordd yr ydym yn rheoli sbectrwm.

Mae'n ymwneud ag edrych tua'r dyfodol a rhagweld beth sy'n debygol o fod â goblygiadau i ni a sut rydym yn cyflawni ein dyletswyddau ac yn cyflwyno yn erbyn ein gweledigaeth ar gyfer y sectorau rydym yn eu rheoleiddio. Ac nid yw'n ymwneud â symudol yn unig!

Beth ydych chi'n ei fwynhau fwyaf am eich rôl?

Ymgysylltu ag amrywiaeth eang o bobl o bob cwr o'r byd.

Beth yw rôl Ofcom mewn sbectrwm, a pham mae'n bwysig?

Sbectrwm yw'r cynhwysyn hanfodol i wneud i gyfathrebiadau di-wifr weithio, o allu defnyddio'ch ffôn symudol i wylio'r teledu, defnyddio di-wifr gartref i gysylltu llawer o ddyfeisiau drwy Bluetooth, gwella cynhyrchedd mewn ffatrïoedd a lleihau effaith amgylcheddol.

Rôl Ofcom yw rheoli'r adnodd meidraidd hwn er mwyn sicrhau y gall pob un ohonom elwa ar nifer cynyddol o gymwysiadau a gwasanaethau.

Beth, yn eich barn chi, yw'r datblygiadau mawrion i gadw llygad allan amdanynt yn y byd sbectrwm?

Mae galw'n cynyddu, o ystod eang o wasanaethau gan fod technolegau di-wifr yn galluogi cymwysiadau newydd sydd o fudd i ddiwydiannau a sectorau lluosog.

Mae angen i ni sicrhau bod pawb yn gallu cael mynediad i'r sbectrwm sydd ei angen arnynt, ble a phryd y mae ei angen arnynt.  Ochr yn ochr â galw cynyddol, mae datblygiadau technolegol yn cynnig dulliau o ddefnyddio sbectrwm yn well, gan gynnwys agor bandiau amledd uwch i ystod ehangach o gymwysiadau a hwyluso defnydd mwy effeithlon o sbectrwm drwy rannu a gwell dulliau o reoli ymyriant.

Bydd mwy o ddata o ddefnydd yn y byd go iawn yn hanfodol er mwyn cyfeirio ein hastudiaethau'n well, ac rydym hefyd am alluogi mwy o brofi ar gyfer dibenion yn y dyfodol.

Beth yw'r peth gorau am weithio i Ofcom?

Wrth gwrs, fy nghydweithwyr, ond hefyd y cyfle i gael dealltwriaeth eithaf eang o'r farchnad, sy'n anos pan fyddwch yn gweithio i un cwmni penodol.

Oes gennych chi unrhyw hoff gyflawniadau o'ch gwaith yn Ofcom?

Yn bendant, codi pwysigrwydd y galw am sbectrwm ar draws gwahanol ddiwydiannau yn fewnol fel rhan o'n rhaglen waith 5G.

What do you think the future holds for the sectors we regulate?

Newid enfawr, yn y gadwyn werth, yn y modelau busnes ac yn effaith y sector ar ddefnyddwyr.

 diddordeb mewn gweithio yng ngrŵp sbectrwm Ofcom? Bwrw golwg ar ein swyddi gwag diweddaraf.

Related content