8 Chwefror 2022

Sut rydym yn cefnogi Diwrnod Rhyngrwyd Mwy Diogel 2022

Ynghylch y Diwrnod

Heddiw yw Diwrnod Rhyngrwyd Mwy Diogel 2022, digwyddiad sydd â'r nod o greu sgwrs genedlaethol am ddefnyddio technoleg yn gyfrifol, yn barchus, yn feirniadol ac yn greadigol.

Mae Ofcom yn cefnogi’r diwrnod, a sefydlwyd yn 2004 ac a gydlynir yn y DU gan Ganolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU, Childnet, Internet Watch Foundation a’r South West Grid for Learning.

Eleni, thema'r DU yw- Hwyl a sbri i bawb? Archwilio parch a pherthynas ar-lein. Mae'n bwrw golwg ar gymunedau adloniant a gemau ar-lein rhyngweithiol y mae plant yn rhan ohonynt. Mae'r diwrnod yn eu herio i feithrin perthnasoedd cefnogol a chymunedau parchus, ar yr un pryd â rhoi'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i gadw eu hunain ac eraill yn ddiogel yn y mannau hyn.

Mae'r Diwrnod Rhyngrwyd Mwy Diogel wedi clywed gan bobl ifanc am bryderon diogelwch pan fyddant yn defnyddio'r gofodau hyn, yn ogystal â phroblemau y mae pobl ifanc wedi bod yn eu cael ers peth amser, yn enwedig y diffyg parch y mae unigolion yn ei ddangos tuag at ei gilydd, grwpiau'n mynd yn erbyn erbyn grwpiau eraill, a'r ymdeimlad ei bod yn hawdd 'dianc' gydag ymddygiad negyddol fel bod yn flin, bwlio a rhegi.

Maent hefyd yn siarad am gasineb a gyfeirir at grwpiau penodol, yn enwedig defnyddwyr LHDT+, a chasineb at fenywod ar lwyfannau chwarae gemau. Mae ymatebwyr hefyd yn teimlo bod y diffyg canlyniadau ymddangosiadol ar gyfer ymddygiad negyddol yn cael effaith ar eu diogelwch a'u lles.

Pam mae Ofcom yn cefnogi'r Diwrnod Rhyngrwyd Mwy Diogel?

Rydym wedi cefnogi'r Diwrnod Rhyngrwyd Mwy Diogel ers tro – gan ei fod yn garreg filltir flynyddol mor bwysig o ran cadw'r sgwrs am ddiogelwch ar-lein plant yn fyw. Mae'n wych gweld cynifer o ysgolion, busnesau a chymunedau yn ymuno ag Ofcom i'w gefnogi – dros 1,600 a mwy i ddweud y gwir!

Mae bron pob plentyn yn mynd ar-lein heddiw i gysylltu, chwerthin a dysgu gyda'u ffrindiau. Waeth p'un a yw hynny'n gwylio eu hoff bobl ar YouTube, chwarae Roblox neu Minecraft, neu blant hŷn, yn gwneud fideos TikTok neu'n defnyddio llwyfannau chwarae gemau fel Twitch. Ac ar y cyfan maen nhw'n cael amser gwych yn gwneud hynny.

Ond mae plant hefyd yn dweud wrthym nad yw bod ar-lein yn brofiad da bob amser. Mae rhai, er enghraifft, yn dweud eu bod wedi cael eu bwlio neu’n dioddef ymosodiadau gan eraill ar-lein, neu wedi gweld cynnwys atgas ac iaith sarhaus.

Rydyn ni eisiau i blant fwynhau eu hamser yn fforio'r byd ar-lein, a chael eu diogelu'n well rhag niwed

Dyna pam mae'r awgrymiadau a'r adnoddau o'r Diwrnod Rhyngrwyd Mwy Diogel wedi'u dylunio i helpu plant i lunio cymunedau rhithwir mwy diogel a llawn parch - gan roi cyngor gorau iddynt ar beth i'w wneud os byddant yn gweld rhywbeth sy'n eu poeni.

Fel rhan o'n cefnogaeth i'r Diwrnod Rhyngrwyd Mwy Diogel, ymwelodd Prif Weithredwr Ofcom, Melanie Dawes, ag ysgol yn Llundain i siarad â disgyblion am y diwrnod ac i glywed eu barn am ddiogelwch ar-lein.

Y Fonesig Melanie Dawes yn siarad gyda disgyblion mewn ysgol gynradd yn Llundain
Dame Melanie Dawes talks to a group of pupils at St John's and St Clement's Primary School in south east London.

Beth yw rôl Ofcom mewn diogelwch ar-lein?

Mae gan Ofcom rôl wrth helpu i gadw pobl yn ddiogel ar-lein. Rydym eisoes yn gyfrifol am gadw llygad ar lwyfannau fideos cymdeithasol fel TikTok, Snapchat a Twitch, er mwyn sicrhau eu bod yn cymryd camau i ddiogelu eu defnyddwyr. At hynny, mae Llywodraeth y DU hefyd wedi llunio cyfreithiau diogelwch ar-lein newydd, a fydd yn cael eu trafod yn Senedd y DU dros y misoedd nesaf. Byddai'r cyfreithiau arfaethedig hyn yn rhoi pwerau ehangach i Ofcom sicrhau bod cwmnïau technoleg yn cymryd y camau cywir i ddiogelu defnyddwyr – a byddai modd i ni roi dirwy iddynt os na fyddant yn gwneud hynny.

Bydd y gyfraith hon yn berthnasol i'r nifer fawr o wefannau ac apiau a ddefnyddiwn bob dydd gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol, peiriannau chwilio a llwyfannau negeseua. Mae'n ymwneud â chreu bywyd mwy diogel ar-lein i bawb – rydyn ni eisiau i blant fwynhau eu hamser yn fforio'r byd ar-lein, a chael eu diogelu’n well rhag niwed.

Mae gan wefan y Diwrnod Rhyngrwyd Mwy Diogel fwy o wybodaeth am y fenter, yn ogystal â llawer o wybodaeth ac adnoddau a allai fod yn ddefnyddiol i chi. Gallwch ddod o hyd i adnoddau Cymraeg ar wefan allanol Hwb Llywodraeth Cymru.

Rhoi barn am y dudalen hon

Oedd y dudalen hon yn ddefnyddiol?

Related content