17 Mehefin 2022

Y Goruchaf Lys yn gwrthod apêl y Post Brenhinol yn erbyn dirwy Ofcom am dorri cyfraith cystadleuaeth

Mae'r Goruchaf Lys wedi gwrthod cais y Post Brenhinol i apelio yn erbyn penderfyniad Ofcom yn 2018 i roi dirwy o £50 miliwn iddo am dorri cyfraith cystadleuaeth.

Mae penderfyniad y Goruchaf Lys yn dod â'r broses apelio i ben, ar ôl i'r Post Brenhinol fod yn aflwyddiannus yn y Tribiwnlys Apêl Cystadleuaeth a'r Llys Apêl. Yn awr mae'n rhaid i'r cwmni dalu'r ddirwy o £50m i Ofcom, ynghyd â llog, a'n costau cyfreithiol.

Rydym yn croesawu penderfyniad y Llys. Mae'n rhaid i bob cwmni lynu wrth y rheolau ac roedd gan y Post Brenhinol gyfrifodleb arbennig dros sicrhau nad oedd ei ymddygiad yn wrth-gystadleuol -roedd ei weithredoedd yn annerbyniol.

Rydym yn gobeithio y bydd ein dirwy, sydd wedi'i chadarnhau'n llawn gan y llysoedd, yn sicrhau bod y Post Brenhinol a chwmnïau pwerus eraill yn cymryd eu dyletswyddau cyfreithiol o ddifri.

Ian Strawhorne, Cyfarwyddwr Gorfodi Dros Dro Ofcom

Yr achos

Yn 2018, gwnaeth Ofcom roi dirwy o £50m i'r Post Brenhinol am dorri cyfraith gystadleuaeth yn ddifrifol, ar ôl i'r cwmni gamddefnyddio ei sefyllfa ddominyddol drwy wahaniaethu yn erbyn ei unig gystadleuydd mawr a fu'n danfon llythyrau.

Daeth y gosb yn sgil ymchwiliad i gŵyn, a wnaed i Ofcom gan Whistl (un o gwsmeriaid cyfanwerthu'r Post Brenhinol). Roedd y gŵyn yn ymwneud â newidiadau a wnaed gan y Post Brenhinol i gontractau ei gwsmeriaid cyfanwerthu yn gynnar yn 2014, gan gynnwys cynnydd mewn prisiau cyfanwerthol yr oedd yn ei gyflwyno.

Ar y pryd, roedd Whistl yn ehangu ei fusnes i gystadlu'n uniongyrchol â'r Post Brenhinol drwy anfon llythyrau busnes (a elwir yn bost swmp) i gyfeiriadau mewn rhai rhannau o'r DU – gan olygu mai nhw oedd y cwmni cyntaf i herio monopoli'r Post Brenhinol wrth ddarparu post swmp ar raddfa fawr.

Golygodd y cynnydd ym mhrisiau cyfanwerthu yn 2014 y byddai'n rhaid i unrhyw un o gwsmeriaid cyfanwerthu'r Post Brenhinol sy'n ceisio cystadlu ag ef drwy anfon llythyrau mewn rhai rhannau o'r wlad, fel yr oedd Whistl yn gwneud, dalu prisiau uwch yn yr ardaloedd eraill – lle y bu'n defnyddio'r y Post Brenhinol i'w ddosbarthu.

Ar ôl cael gwybod am y prisiau newydd hyn, ataliodd Whistl eu cynlluniau i ymestyn gwasanaethau danfon i ardaloedd newydd.

Canfu ein hymchwiliad fod gweithredoedd y Post Brenhinol yn gyfystyr â gwahaniaethu gwrth-gystadleuol yn erbyn cwsmeriaid, megis Whistl, a geisiodd ddarparu post swmp.

Nodiadau

  1. Gwahanol fathau o ddanfon drwy'r post:Gwahanol fathau o ddanfon drwy'r post

Related content