27 Ebrill 2022

Datgelu’r cwynion diweddaraf am gwmnïau telathrebu a theledu-drwy-dalu

Heddiw mae Ofcom wedi cyhoeddi'r tablau cynghrair diweddaraf sy'n adlewyrchu'r cwynion rydym yn eu derbyn ynghylch prif gwmnïau ffôn cartref, band eang, symudol a theledu-drwy-dalu y DU.

Mae’r adroddiad chwarterol yn datgelu nifer y cwynion a wnaed i Ofcom rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr y llynedd.

Yn gyffredinol, gostyngodd ffigurau cwynion ychydig dros y cyfnod hwn ac maent yn parhau i fod ar eu lefelau isaf erioed.

Bu i bron pob darparwr ar draws pob sector ostwng y lefel o gwynion neu eu cynnal ar yr un lefel o'i gymharu â'r chwarter blaenorol.

I grynhoi, mae ein data'n dangos y canlynol:

  • Cynhyrchodd Shell Energy y nifer uchaf o gwynion am fand eang, yn bennaf o ganlyniad i ddiffygion a phroblemau gwasanaeth;
  • Ochr yn ochr â TalkTalk, Shell Energy hefyd oedd y darparwr llinell dir y cwynwyd fwyaf amdano;
  • Denodd Sky ac EE y nifer lleiaf o gwynion am wasanaethau band eang a llinell dir;
  • Cynhyrchodd EE, Sky Mobile, Tesco Mobile, iD Mobile a BT Mobile i gyd y nifer isaf o gwynion am wasanaethau symudol talu'n fisol;
  • Virgin Mobile a Vodafone oedd y gweithredwyr symudol y cwynwyd amdanynt fwyaf; ac
  • roedd gan Sky y nifer isaf o gwynion am deledu-drwy-dalu, gyda Virgin Media yn denu'r nifer uchaf.

Mae'n galonogol bod cwynion at ei gilydd yn parhau i fod ar eu lefel isaf erioed, ond nid yw hynny'n golygu bod gwasanaeth i gwsmeriaid gystal ag y dylai fod yn gyffredinol.

Mae gwahaniaethau mawr o hyd mewn perfformiad rhwng rhai darparwyr. Felly mae'n bendant yn werth siopa o gwmpas a phleidleisio gyda'ch traed, os nad ydych yn fodlon ar y gwasanaeth rydych chi'n ei dderbyn.”

Fergal Farragher, Cyfarwyddwr Diogelu Defnyddwyr Ofcom

Mae'r wybodaeth a gyhoeddwn am gwynion yn helpu pobl i gymharu cwmnïau wrth siopa o gwmpas am ddarparwr newydd ac yn annog cwmnïau i wella'u perfformiad.

Mae ein hyb ansawdd gwasanaeth yn cynnig gwybodaeth bellach am sut y gall pobl ddewis y darparwr sydd orau iddynt. Cyn bo hir, byddwn hefyd yn cyhoeddi ein hadroddiad Cymharu Gwasanaeth Cwsmeriaid blynyddol, sy'n taflu goleuni ar berfformiad prif ddarparwyr symudol, band eang a ffôn cartref y DU.

Er na all Ofcom ddatrys cwynion unigol, rydym yn cynnig cyngor i ddefnyddwyr, ac mae'r wybodaeth a dderbyniwn yn gallu arwain at lansio ymchwiliadau.

Dylai unrhyw un sy'n cael problemau gwyno i'w darparwr yn y lle cyntaf. Os ydynt yn anfodlon ar y canlyniad, gall pobl fynd â'r gŵyn at ombwdsmon annibynnol, a fydd yn archwilio'r achos ac yn gwneud dyfarniad arno.

Cwynion am fand eang cartref fesul 100,000 o gwsmeriaid

Tabl sy'n dangos cwynion am fand eang fesul 100,000 o danysgrifwyr. Mae'n dangos y darparwyr sy'n derbyn y nifer isaf o gwynion ar frig y tabl a'r rhai sy'n derbyn y nifer uchaf o gwynion ar waelod y tabl. Mae'r canlyniadau fel a ganlyn:   Sky 4, EE 5, BT 7, Plusnet 8, cyfartaledd y diwydiant 9, Virgin Media 13, Vodafone 13, TalkTalk 14, Shell Energy 15.

Cwynion am ffôn llinell dir fesul 100,000 o gwsmeriaid

Tabl sy'n dangos cwynion am linell dir fesul 100,000 o danysgrifwyr. Mae'n dangos y darparwyr sy'n derbyn y nifer isaf o gwynion ar frig y tabl a'r rhai sy'n derbyn y nifer uchaf o gwynion ar waelod y tabl. Mae'r canlyniadau fel a ganlyn:   Sky 2, EE 3, BT 5, Vodafone 6, Plusnet 6, cyfartaledd y diwydiant 6, Virgin Media 8, Shell Energy 9, TalkTalk 10.

Cwynion am symudol talu'n fisol fesul 100,000 o gwsmeriaid

   Tabl sy'n dangos cwynion am wasanaethau symudol fesul 100,000 o danysgrifwyr. Mae'n dangos y darparwyr sy'n derbyn y nifer isaf o gwynion ar frig y tabl a'r rhai sy'n derbyn y nifer uchaf o gwynion ar waelod y tabl. Mae'r canlyniadau fel a ganlyn:   Tesco Mobile 1, Sky Mobile 1, EE 1, ID Mobile 2, BT Mobile 2, O2 2, cyfartaledd y diwydiant 2, Three 3, Vodafone 3, Virgin Media 4.

Cwynion am deledu-drwy-dalu fesul 100,000 o gwsmeriaid

   Tabl sy'n dangos cwynion am deledu-drwy-dalu fesul 100,000 o gwsmeriaid. Mae'n dangos y darparwyr sy'n derbyn y nifer isaf o gwynion ar frig y tabl a'r rhai sy'n derbyn y nifer uchaf o gwynion ar waelod y tabl. Mae'r canlyniadau fel a ganlyn:   Sky 1, cyfartaledd y diwydiant 3, TalkTalk 3, BT 4, Virgin Media 7.

Maint cymharol o gwynion fesul gwasanaeth i bob 100,000 o danysgrifwyr

Graff sy'n dangos maint cymharol o gwynion ar draws telathrebu fesul 100,000 o gwsmeriaid rhwng 2011 a 2021

Nodiadau i olygyddion

  1. Pan fydd y gwahaniaeth mesuradwy gwirioneddol rhwng nifer o gwynion y darparwyr fesul 100,000 o ddarparwyr yn llai nag 1, rydym yn ystyried bod eu canlyniadau'n gymaradwy. Yma, dylid ystyried bod nifer canlynol y cwynion am ddarparwyr band eang sefydlog fesul 100,000 o gwsmeriaid yn gymaradwy: 1. Sky ac EE; 2. BT a Plusnet; 3. Plusnet a chyfartaledd y diwydiant; 4. Virgin Media a Vodafone; a 5. Vodafone a TalkTalk.
  2. Pan fydd y gwahaniaeth mesuradwy gwirioneddol rhwng nifer o gwynion y darparwyr fesul 100,000 o ddarparwyr yn llai nag 1, rydym yn ystyried bod eu canlyniadau'n gymaradwy. Yma, dylid ystyried bod nifer canlynol y cwynion am ddarparwyr llinell dir fesul 100,000 o gwsmeriaid yn gymaradwy: 1. Sky ac EE; 2. BT, Vodafone, Plusnet a chyfartaledd y diwydiant; 3. Shell Energy a TalkTalk.
  3. Roedd y gwahaniaeth mesuradwy gwirioneddol rhwng nifer o gwynion y darparwyr symudol talu'n fisol a ganlyn fesul 100,000 o ddarparwyr yn llai nag un ac felly dylid ystyried bod eu canlyniadau'n gymaradwy: 1. Tesco Mobile, Sky Mobile, EE, iD Mobile a BT Mobile; 2. Sky Mobile, EE, iD Mobile, BT Mobile, O2 a chyfartaledd y diwydiant; 3. iD Mobile, BT Mobile, O2, cyfartaledd diwydiant, Three a Vodafone; 4. Vodafone a Virgin Mobile.
  4. Roedd y gwahaniaeth mesuradwy gwirioneddol rhwng nifer o gwynion y darparwyr teledu-drwy-dalu a ganlyn fesul 100,000 o ddarparwyr yn llai nag un ac felly dylid ystyried bod eu canlyniadau'n gymaradwy: 1. Cyfartaledd y diwydiant a TalkTalk; a 2. TalkTalk a BT.