19 Mai 2022

Bygythiad o fwlio'n fwy ar-lein nag oddi ar-lein

Mae plant hŷn yn y DU yn fwy tebygol o gael eu bwlio ar sgrin nag mewn person, yn ôl canfyddiadau Ofcom.

Mae ein hastudiaeth ddiweddaraf o gyfryngau i blant ac arferion ar-lein yn dangos bod pedwar o bob 10 plentyn 8-17 oed (39%) wedi profi bwlio, naill ai ar-lein neu oddi ar-lein. Ymhlith y plant hyn, roedd y bwlio yn fwy tebygol o ddigwydd ar ddyfais (84%) nag wyneb yn wyneb (61%).

Y ffordd fwyaf cyffredin i blant gael eu bwlio drwy dechnoleg oedd drwy neges destun neu apiau negeseua (56%), ac yna cyfryngau cymdeithasol (43%) neu gemau ar-lein (30%).

Mae dau draean o rieni'n poeni'n gyffredinol bod eu plentyn yn cael ei dargedu gan fwlis ar-lein. Ymhlith rhieni plant sy'n chwarae gemau ar-lein, roedd gan dros hanner bryderon am fwlio wrth i gemau gael eu chwarae (52%).

Dywed y rhan fwyaf o blant (93%) y byddent yn dweud wrth rywun pe baent yn gweld rhywbeth gofidus neu gas ar-lein. Mae merched yn llawer mwy tebygol na bechgyn o ddweud wrth rywun bob amser am rywbeth pryderus yr oeddent wedi'i weld (62% vs 56%).

39%

o blant 8-17 oed wedi profi bwlio, naill ai ar-lein neu oddi ar-lein

Y maes chwarae digidol

Felly ble mae seiberfwlio'n digwydd? Sut gall rhieni siarad â'u plant am y peth? Yn ail bennod ein podlediad Bywyd Ar-lein, mae Joe Smithies o Ofcom yn chwilio am atebion gyda Dr Radha Modgil ac Alex Holmes o Diana Award. Ac mae llysgenhadon gwrth-fwlio o Diana Award – Paige, Harman a Theo, 16 ac 17 oed – yn rhannu eu profiadau o fwlio ar-lein.

Ble gallaf wrando a thanysgrifio i Bywyd Ar-lein?

Gwrandewch ar SpotifyGwrandewch ar StitcherGwrandewch ar Pocket CastsListen on Apple PodcastsGoogle podcasts logo

Related content